1אמרתי אני בלבי לכה נא אנסכה בשמחה וראה בטוב והנה גם הוא הבל׃
1 Dywedais wrthyf fy hun, "Tyrd yn awr, gad imi brofi pleser, a'm mwynhau fy hun,"
2לשחוק אמרתי מהולל ולשמחה מה זה עשה׃
2 ond yr oedd hyn hefyd yn wagedd. Dywedais fod chwerthin yn ynfydrwydd, ac nad oedd pleser yn dda i ddim.
3תרתי בלבי למשוך ביין את בשרי ולבי נהג בחכמה ולאחז בסכלות עד אשר אראה אי זה טוב לבני האדם אשר יעשו תחת השמים מספר ימי חייהם׃
3 Ceisiais godi fy nghalon � gwin, gan ofalu fy mod yn ymddwyn yn ddoeth ac yn ffrwyno ffolineb, nes imi weld beth oedd yn dda i bobl ei wneud dan y nef yn ystod cyfnod byr eu hoes.
4הגדלתי מעשי בניתי לי בתים נטעתי לי כרמים׃
4 Gwneuthum bethau mawr: adeiledais dai i mi fy hun, a phlannu gwinllannoedd;
5עשיתי לי גנות ופרדסים ונטעתי בהם עץ כל פרי׃
5 gwneuthum erddi a pherllannau, a phlannu pob math ar goed ffrwythau ynddynt;
6עשיתי לי ברכות מים להשקות מהם יער צומח עצים׃
6 gwneuthum hefyd lynnoedd i ddyfrhau ohonynt y llwyni coed oedd yn tyfu;
7קניתי עבדים ושפחות ובני בית היה לי גם מקנה בקר וצאן הרבה היה לי מכל שהיו לפני בירושלם׃
7 prynais gaethion, yn ddynion a merched, ac yr oedd gennyf weision wedi eu geni yn fy nhu375?; yr oedd gennyf fwy o wartheg a defaid nag unrhyw un a fu o'm blaen yn Jerwsalem;
8כנסתי לי גם כסף וזהב וסגלת מלכים והמדינות עשיתי לי שרים ושרות ותענוגת בני האדם שדה ושדות׃
8 cesglais arian ac aur, trysorau brenhinoedd a thaleithiau; yr oedd gennyf hefyd gantorion a chantoresau, a digonedd o ferched gordderch i ddifyrru dynion.
9וגדלתי והוספתי מכל שהיה לפני בירושלם אף חכמתי עמדה לי׃
9 Deuthum yn enwog, ac yn fwy llwyddiannus nag unrhyw un a fu o'm blaen yn Jerwsalem; ac eto glynais wrth ddoethineb.
10וכל אשר שאלו עיני לא אצלתי מהם לא מנעתי את לבי מכל שמחה כי לבי שמח מכל עמלי וזה היה חלקי מכל עמלי׃
10 Nid oeddwn yn cadw draw oddi wrth unrhyw beth a chwenychai fy llygaid, nac yn troi ymaith oddi wrth unrhyw bleser. Yn wir yr oeddwn yn cael llawenydd yn fy holl lafur, a hyn oedd fy nh�l am fy holl waith.
11ופניתי אני בכל מעשי שעשו ידי ובעמל שעמלתי לעשות והנה הכל הבל ורעות רוח ואין יתרון תחת השמש׃
11 Yna, pan drois i edrych ar y cyfan a wnaeth fy nwylo a'r llafur yr ymdrechais i'w gyflawni, gwelwn nad oedd y cyfan ond gwagedd ac ymlid gwynt, heb unrhyw elw dan yr haul.
12ופניתי אני לראות חכמה והוללות וסכלות כי מה האדם שיבוא אחרי המלך את אשר כבר עשוהו׃
12 Yna trois i edrych ar ddoethineb, ac ar ynfydrwydd a ffolineb. Beth rhagor y gall y sawl a ddaw ar �l y brenin ei wneud nag sydd eisoes wedi ei wneud?
13וראיתי אני שיש יתרון לחכמה מן הסכלות כיתרון האור מן החשך׃
13 Yna gwelais fod doethineb yn werthfawrocach nag ynfydrwydd, fel y mae goleuni yn werthfawrocach na thywyllwch.
14החכם עיניו בראשו והכסיל בחשך הולך וידעתי גם אני שמקרה אחד יקרה את כלם׃
14 Y mae'r doeth �'i lygaid yn ei ben, ond y mae'r ff�l yn rhodio yn y tywyllwch; eto canf�m mai'r un peth yw tynged y ddau.
15ואמרתי אני בלבי כמקרה הכסיל גם אני יקרני ולמה חכמתי אני אז יותר ודברתי בלבי שגם זה הבל׃
15 Yna dywedais wrthyf fy hun, "Yr un peth a ddigwydd i mi ac i'r ff�l. Pa elw a gaf o fod yn ddoeth?" Yna dywedais, "Y mae hyn hefyd yn wagedd."
16כי אין זכרון לחכם עם הכסיל לעולם בשכבר הימים הבאים הכל נשכח ואיך ימות החכם עם הכסיל׃
16 Oherwydd ni chofir am byth am y doeth mwy na'r ff�l, ond fe anghofir am y naill a'r llall fel yr �'r dyddiau heibio; yn wir, marw y mae'r doeth fel y ff�l.
17ושנאתי את החיים כי רע עלי המעשה שנעשה תחת השמש כי הכל הבל ורעות רוח׃
17 Yna deuthum i gas�u bywyd, gan fod y cyfan sy'n digwydd dan yr haul yn achosi blinder imi; yn wir y mae'r cyfan yn wagedd ac yn ymlid gwynt.
18ושנאתי אני את כל עמלי שאני עמל תחת השמש שאניחנו לאדם שיהיה אחרי׃
18 Yr oeddwn yn cas�u'r holl lafur a gyflawnais dan yr haul, gan y bydd yn rhaid imi ei adael i'r un a ddaw ar fy �l;
19ומי יודע החכם יהיה או סכל וישלט בכל עמלי שעמלתי ושחכמתי תחת השמש גם זה הבל׃
19 a phwy sy'n gwybod ai doeth ynteu ff�l fydd hwnnw? Ac eto, ef fydd yn rheoli'r holl lafur a gyflawnais mewn doethineb dan yr haul. Y mae hyn hefyd yn wagedd.
20וסבותי אני ליאש את לבי על כל העמל שעמלתי תחת השמש׃
20 Yna euthum i anobeithio'n llwyr am yr holl lafur a gyflawnais dan yr haul.
21כי יש אדם שעמלו בחכמה ובדעת ובכשרון ולאדם שלא עמל בו יתננו חלקו גם זה הבל ורעה רבה׃
21 Oherwydd y mae'r sawl a lafuriodd yn ddoeth a deallus a chyda medr yn gadael ei eiddo i un na lafuriodd amdano. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn flinder mawr.
22כי מה הוה לאדם בכל עמלו וברעיון לבו שהוא עמל תחת השמש׃
22 Beth a gaiff neb am yr holl lafur a'r ymdrech a gyflawnodd dan yr haul?
23כי כל ימיו מכאבים וכעס ענינו גם בלילה לא שכב לבו גם זה הבל הוא׃
23 Oherwydd y mae ei holl ddyddiau yn ofidus, a'i orchwyl yn boenus; a hyd yn oed yn y nos nid oes gorffwys i'w feddwl. Y mae hyn hefyd yn wagedd.
24אין טוב באדם שיאכל ושתה והראה את נפשו טוב בעמלו גם זה ראיתי אני כי מיד האלהים היא׃
24 Nid oes dim yn well i neb na bwyta ac yfed a chael mwynhad o'i lafur. Yn wir gwelais fod hyn yn dod oddi wrth Dduw;
25כי מי יאכל ומי יחוש חוץ ממני׃
25 oherwydd pwy all fwyta a chael mwynhad hebddo ef?
26כי לאדם שטוב לפניו נתן חכמה ודעת ושמחה ולחוטא נתן ענין לאסוף ולכנוס לתת לטוב לפני האלהים גם זה הבל ורעות רוח׃
26 Yn wir, y mae Duw yn rhoi doethineb, deall a llawenydd i'r sawl sy'n dda yn ei olwg, ond i'r un sy'n pechu fe roddir y dasg o gasglu a chronni ar gyfer yr un sy'n dda yng ngolwg Duw. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt.