Hebrew: Modern

Welsh

Ecclesiastes

3

1לכל זמן ועת לכל חפץ תחת השמים׃
1 Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef:
2עת ללדת ועת למות עת לטעת ועת לעקור נטוע׃
2 amser i eni, ac amser i farw, amser i blannu, ac amser i ddiwreiddio'r hyn a blannwyd;
3עת להרוג ועת לרפוא עת לפרוץ ועת לבנות׃
3 amser i ladd, ac amser i iach�u, amser i dynnu i lawr, ac amser i adeiladu;
4עת לבכות ועת לשחוק עת ספוד ועת רקוד׃
4 amser i wylo, ac amser i chwerthin, amser i alaru, ac amser i ddawnsio;
5עת להשליך אבנים ועת כנוס אבנים עת לחבוק ועת לרחק מחבק׃
5 amser i daflu cerrig, ac amser i'w casglu, amser i gofleidio, ac amser i ymatal;
6עת לבקש ועת לאבד עת לשמור ועת להשליך׃
6 amser i geisio, ac amser i golli, amser i gadw, ac amser i daflu ymaith;
7עת לקרוע ועת לתפור עת לחשות ועת לדבר׃
7 amser i rwygo, ac amser i drwsio, amser i dewi, ac amser i siarad;
8עת לאהב ועת לשנא עת מלחמה ועת שלום׃
8 amser i garu, ac amser i gas�u, amser i ryfel, ac amser i heddwch.
9מה יתרון העושה באשר הוא עמל׃
9 Pa elw a gaiff y gweithiwr wrth lafurio?
10ראיתי את הענין אשר נתן אלהים לבני האדם לענות בו׃
10 Gwelais y dasg a roddodd Duw i bobl i'w chyflawni.
11את הכל עשה יפה בעתו גם את העלם נתן בלבם מבלי אשר לא ימצא האדם את המעשה אשר עשה האלהים מראש ועד סוף׃
11 Gwnaeth bopeth yn hyfryd yn ei amser, a hefyd rhoddodd dragwyddoldeb yng nghalonnau pobl; eto ni all neb ddirnad yr hyn a wnaeth Duw o'r dechrau i'r diwedd.
12ידעתי כי אין טוב בם כי אם לשמוח ולעשות טוב בחייו׃
12 Yr wyf yn gwybod nad oes dim yn well i bobl mewn bywyd na bod yn llawen a gwneud da,
13וגם כל האדם שיאכל ושתה וראה טוב בכל עמלו מתת אלהים היא׃
13 a gwn mai rhodd Duw yw fod pob un yn bwyta ac yn yfed ac yn cael mwynhad o'i holl lafur.
14ידעתי כי כל אשר יעשה האלהים הוא יהיה לעולם עליו אין להוסיף וממנו אין לגרע והאלהים עשה שיראו מלפניו׃
14 Yr wyf yn gwybod hefyd fod y cyfan a wna Duw yn aros byth; ni ellir ychwanegu ato na thynnu oddi wrtho. Gweithreda Duw fel hyn er mwyn i bobl ei barchu.
15מה שהיה כבר הוא ואשר להיות כבר היה והאלהים יבקש את נרדף׃
15 Y mae'r hyn sy'n bod wedi bod eisoes, a'r hyn sydd i ddod hefyd wedi bod eisoes, ac y mae Duw yn chwilio am yr hyn a ddiflannodd.
16ועוד ראיתי תחת השמש מקום המשפט שמה הרשע ומקום הצדק שמה הרשע׃
16 Hefyd gwelais dan yr haul fod drygioni wedi cymryd lle barn a chyfiawnder.
17אמרתי אני בלבי את הצדיק ואת הרשע ישפט האלהים כי עת לכל חפץ ועל כל המעשה שם׃
17 Ond dywedais wrthyf fy hun, "Bydd Duw yn barnu'r cyfiawn a'r drygionus, oherwydd y mae wedi trefnu amser i bob gorchwyl a gwaith."
18אמרתי אני בלבי על דברת בני האדם לברם האלהים ולראות שהם בהמה המה להם׃
18 Dywedais wrthyf fy hun, "Y mae Duw yn profi pobl er mwyn iddynt weld eu bod fel yr anifeiliaid."
19כי מקרה בני האדם ומקרה הבהמה ומקרה אחד להם כמות זה כן מות זה ורוח אחד לכל ומותר האדם מן הבהמה אין כי הכל הבל׃
19 Oherwydd yr un peth a ddigwydd i bobl ac anifeiliaid, yr un yw eu tynged; y mae'r naill fel y llall yn marw. Yr un anadl sydd ynddynt i gyd; nid oes gan neb dynol fantais dros anifail. Y mae hyn i gyd yn wagedd.
20הכל הולך אל מקום אחד הכל היה מן העפר והכל שב אל העפר׃
20 Y maent i gyd yn mynd i'r un lle; daethant i gyd o'r llwch, ac i'r llwch y maent yn dychwelyd.
21מי יודע רוח בני האדם העלה היא למעלה ורוח הבהמה הירדת היא למטה לארץ׃
21 Pwy sy'n gwybod a yw ysbryd dynol yn mynd i fyny ac ysbryd anifail yn mynd i lawr i'r ddaear?
22וראיתי כי אין טוב מאשר ישמח האדם במעשיו כי הוא חלקו כי מי יביאנו לראות במה שיהיה אחריו׃
22 Yna gwelais nad oes dim yn well i rywun na'i fwynhau ei hun yn ei waith, oherwydd dyna yw ei dynged. Pwy all wneud iddo weld beth fydd ar ei �l?