1וידבר יהוה אל משה לאמר׃
1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2קדש לי כל בכור פטר כל רחם בבני ישראל באדם ובבהמה לי הוא׃
2 "Cysegra i mi bob cyntafanedig; eiddof fi yw'r cyntaf a ddaw o'r groth ymysg yr Israeliaid, yn ddyn ac anifail."
3ויאמר משה אל העם זכור את היום הזה אשר יצאתם ממצרים מבית עבדים כי בחזק יד הוציא יהוה אתכם מזה ולא יאכל חמץ׃
3 Yna dywedodd Moses wrth y bobl, "Cofiwch y dydd hwn, sef y dydd y daethoch allan o'r Aifft, o du375? caethiwed, oherwydd � llaw nerthol y daeth yr ARGLWYDD � chwi oddi yno; hefyd, peidiwch � bwyta bara lefeinllyd.
4היום אתם יצאים בחדש האביב׃
4 Ar y dydd hwn ym mis Abib yr ewch allan.
5והיה כי יביאך יהוה אל ארץ הכנעני והחתי והאמרי והחוי והיבוסי אשר נשבע לאבתיך לתת לך ארץ זבת חלב ודבש ועבדת את העבדה הזאת בחדש הזה׃
5 Pan fydd yr ARGLWYDD wedi dod � thi i wlad y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Hefiaid a Jebusiaid, sef y wlad yr addawodd i'th hynafiaid y byddai'n ei rhoi i ti, gwlad yn llifeirio o laeth a m�l, yr wyt i gadw'r ddefod hon yn ystod y mis hwn.
6שבעת ימים תאכל מצת וביום השביעי חג ליהוה׃
6 Am saith diwrnod byddi'n bwyta bara croyw, ac ar y seithfed dydd bydd gu373?yl i'r ARGLWYDD.
7מצות יאכל את שבעת הימים ולא יראה לך חמץ ולא יראה לך שאר בכל גבלך׃
7 Bara croyw a fwyteir am saith diwrnod, ac ni fydd bara lefeinllyd na surdoes i'w weld yn unman o fewn dy dir.
8והגדת לבנך ביום ההוא לאמר בעבור זה עשה יהוה לי בצאתי ממצרים׃
8 Ar y dydd hwnnw, fe ddywedir wrth dy blentyn, 'Gwneir hyn oherwydd y peth a wnaeth yr ARGLWYDD i mi pan ddeuthum allan o'r Aifft.'
9והיה לך לאות על ידך ולזכרון בין עיניך למען תהיה תורת יהוה בפיך כי ביד חזקה הוצאך יהוה ממצרים׃
9 Bydd hyn i ti yn arwydd ar dy law a rhwng dy lygaid, i'th atgoffa y dylai cyfraith yr ARGLWYDD fod yn dy enau; oherwydd � llaw nerthol y daeth yr ARGLWYDD � thi allan o'r Aifft.
10ושמרת את החקה הזאת למועדה מימים ימימה׃
10 Yr wyt i gadw'r ddeddf hon yn ei hamser penodedig o flwyddyn i flwyddyn.
11והיה כי יבאך יהוה אל ארץ הכנעני כאשר נשבע לך ולאבתיך ונתנה לך׃
11 "Pan fydd yr ARGLWYDD wedi dod � thi i wlad y Canaaneaid a'i rhoi iti, fel y tyngodd i ti ac i'th hynafiaid,
12והעברת כל פטר רחם ליהוה וכל פטר שגר בהמה אשר יהיה לך הזכרים ליהוה׃
12 yr wyt i neilltuo pob cyntafanedig iddo ef; bydd pob gwryw cyntafanedig o blith dy anifeiliaid yn eiddo i'r ARGLWYDD.
13וכל פטר חמר תפדה בשה ואם לא תפדה וערפתו וכל בכור אדם בבניך תפדה׃
13 Ond yr wyt i roi oen yn gyfnewid am bob asyn cyntafanedig, ac os nad wyt am ei gyfnewid, yr wyt i dorri ei wddf. Yr wyt hefyd i gyfnewid pob cyntafanedig o blith dy feibion.
14והיה כי ישאלך בנך מחר לאמר מה זאת ואמרת אליו בחזק יד הוציאנו יהוה ממצרים מבית עבדים׃
14 Yna pan fydd dy blentyn ymhen amser yn gofyn, 'Beth yw ystyr hyn?' dywed wrtho, '� llaw nerthol y daeth yr ARGLWYDD � ni o'r Aifft, o du375? caethiwed;
15ויהי כי הקשה פרעה לשלחנו ויהרג יהוה כל בכור בארץ מצרים מבכר אדם ועד בכור בהמה על כן אני זבח ליהוה כל פטר רחם הזכרים וכל בכור בני אפדה׃
15 oherwydd pan wrthododd Pharo ein gollwng yn rhydd, lladdodd yr ARGLWYDD bob cyntafanedig, yn ddyn ac anifail, yng ngwlad yr Aifft. Dyna pam yr wyf yn aberthu i'r ARGLWYDD bob gwryw cyntafanedig, ond yn cyfnewid pob cyntafanedig o blith fy meibion.'
16והיה לאות על ידכה ולטוטפת בין עיניך כי בחזק יד הוציאנו יהוה ממצרים׃
16 Bydd hyn yn arwydd ar dy law ac yn rhactalau rhwng dy lygaid; oherwydd � llaw nerthol y daeth yr ARGLWYDD � ni allan o'r Aifft."
17ויהי בשלח פרעה את העם ולא נחם אלהים דרך ארץ פלשתים כי קרוב הוא כי אמר אלהים פן ינחם העם בראתם מלחמה ושבו מצרימה׃
17 Pan ollyngodd Pharo y bobl yn rhydd, nid arweiniodd Duw hwy ar hyd ffordd gwlad y Philistiaid, er bod honno'n agos. "Oherwydd," meddai, "gallai'r bobl newid eu meddwl pan welant ryfel, a dychwelyd i'r Aifft."
18ויסב אלהים את העם דרך המדבר ים סוף וחמשים עלו בני ישראל מארץ מצרים׃
18 Felly arweiniodd hwy ar hyd ffordd yr anialwch i gyfeiriad y M�r Coch, ac aeth yr Israeliaid allan o wlad yr Aifft gan ddwyn eu harfau rhyfel.
19ויקח משה את עצמות יוסף עמו כי השבע השביע את בני ישראל לאמר פקד יפקד אלהים אתכם והעליתם את עצמתי מזה אתכם׃
19 Cymerodd Moses esgyrn Joseff gydag ef, oherwydd yr oedd Joseff wedi gosod yr Israeliaid dan lw, drwy ddweud, "Bydd Duw yn sicr o ymweld � chwi, a'r pryd hwnnw yr ydych i ddwyn fy esgyrn oddi yma gyda chwi."
20ויסעו מסכת ויחנו באתם בקצה המדבר׃
20 Aethant ymaith o Succoth a gwersyllu yn Etham, ar gwr yr anialwch.
21ויהוה הלך לפניהם יומם בעמוד ענן לנחתם הדרך ולילה בעמוד אש להאיר להם ללכת יומם ולילה׃
21 Yr oedd yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaen mewn colofn o niwl yn ystod y dydd i'w harwain ar y ffordd, ac mewn colofn o d�n yn ystod y nos i'w goleuo; felly gallent deithio ddydd a nos.
22לא ימיש עמוד הענן יומם ועמוד האש לילה לפני העם׃
22 Ni symudwyd y golofn niwl oedd o flaen y bobl yn ystod y dydd na'r golofn d�n oedd o'u blaen yn ystod y nos.