1וידבר יהוה אל משה לאמר׃
1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2דבר אל בני ישראל וישבו ויחנו לפני פי החירת בין מגדל ובין הים לפני בעל צפן נכחו תחנו על הים׃
2 "Dywed wrth yr Israeliaid am ddychwelyd a gwersyllu o flaen Pihahiroth, rhwng Migdol a'r m�r; yr ydych i wersyllu wrth y m�r gyferbyn � Baal-seffon.
3ואמר פרעה לבני ישראל נבכים הם בארץ סגר עליהם המדבר׃
3 Bydd Pharo'n meddwl bod yr Israeliaid wedi eu dal yn y wlad a'u cau i mewn gan yr anialwch.
4וחזקתי את לב פרעה ורדף אחריהם ואכבדה בפרעה ובכל חילו וידעו מצרים כי אני יהוה ויעשו כן׃
4 Yna, byddaf fi'n caledu ei galon, a bydd ef yn eu herlid; felly, fe enillaf ogoniant i mi fy hun ar draul Pharo a'i holl fyddin, a chaiff yr Eifftiaid wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD." Gwnaeth yr Israeliaid fel y gorchmynnwyd iddynt.
5ויגד למלך מצרים כי ברח העם ויהפך לבב פרעה ועבדיו אל העם ויאמרו מה זאת עשינו כי שלחנו את ישראל מעבדנו׃
5 Pan ddywedwyd wrth frenin yr Aifft fod y bobl wedi ffoi, newidiodd agwedd Pharo a'i weision tuag atynt, ac meddent, "Beth yw hyn a wnaethom? Yr ydym wedi rhyddhau'r Israeliaid o'n gwasanaeth!"
6ויאסר את רכבו ואת עמו לקח עמו׃
6 Felly parat�dd Pharo ei gerbyd ac aeth �'i fyddin gydag ef;
7ויקח שש מאות רכב בחור וכל רכב מצרים ושלשם על כלו׃
7 cymerodd hefyd chwe chant o gerbydau dethol, a'r holl gerbydau eraill oedd yn yr Aifft, a chapten ar bob un.
8ויחזק יהוה את לב פרעה מלך מצרים וירדף אחרי בני ישראל ובני ישראל יצאים ביד רמה׃
8 Caledodd yr ARGLWYDD galon Pharo brenin yr Aifft, ac erlidiodd hwnnw'r Israeliaid wrth iddynt fynd ymaith yn fuddugoliaethus.
9וירדפו מצרים אחריהם וישיגו אותם חנים על הים כל סוס רכב פרעה ופרשיו וחילו על פי החירת לפני בעל צפן׃
9 Aeth yr Eifftiaid ar eu h�l gyda holl feirch Pharo a'i gerbydau, ei farchogion a'i fyddin, a'u goddiweddyd tra oeddent yn gwersyllu wrth y m�r gerllaw Pihahiroth, gyferbyn � Baal-seffon.
10ופרעה הקריב וישאו בני ישראל את עיניהם והנה מצרים נסע אחריהם וייראו מאד ויצעקו בני ישראל אל יהוה׃
10 Wrth i Pharo nes�u, edrychodd yr Israeliaid i fyny a gweld yr Eifftiaid yn dod ar eu holau, ac yn eu dychryn gwaeddodd pobl Israel ar yr ARGLWYDD.
11ויאמרו אל משה המבלי אין קברים במצרים לקחתנו למות במדבר מה זאת עשית לנו להוציאנו ממצרים׃
11 Dywedasant wrth Moses, "Ai am nad oedd beddau yn yr Aifft y dygaist ni i'r anialwch i farw? Pam y gwnaethost hyn i ni, a dod � ni allan o'r Aifft?
12הלא זה הדבר אשר דברנו אליך במצרים לאמר חדל ממנו ונעבדה את מצרים כי טוב לנו עבד את מצרים ממתנו במדבר׃
12 Onid oeddem wedi dweud wrthyt yn yr Aifft am adael llonydd inni wasanaethu'r Eifftiaid? Byddai'n well inni eu gwasanaethu hwy na marw yn yr anialwch."
13ויאמר משה אל העם אל תיראו התיצבו וראו את ישועת יהוה אשר יעשה לכם היום כי אשר ראיתם את מצרים היום לא תסיפו לראתם עוד עד עולם׃
13 Dywedodd Moses wrth y bobl, "Peidiwch ag ofni; byddwch gadarn ac edrychwch ar y waredigaeth y mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi i chwi heddiw, oherwydd ni fyddwch yn gweld yr Eifftiaid a welsoch heddiw byth mwy.
14יהוה ילחם לכם ואתם תחרישון׃
14 Bydd yr ARGLWYDD yn ymladd drosoch; am hynny, byddwch dawel."
15ויאמר יהוה אל משה מה תצעק אלי דבר אל בני ישראל ויסעו׃
15 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Pam yr wyt yn gweiddi arnaf? Dywed wrth yr Israeliaid am fynd ymlaen.
16ואתה הרם את מטך ונטה את ידך על הים ובקעהו ויבאו בני ישראל בתוך הים ביבשה׃
16 Cod dithau dy wialen, ac estyn dy law allan dros y m�r i'w rannu, er mwyn i'r Israeliaid fynd trwy ei ganol ar dir sych.
17ואני הנני מחזק את לב מצרים ויבאו אחריהם ואכבדה בפרעה ובכל חילו ברכבו ובפרשיו׃
17 Byddaf finnau'n caledu calonnau'r Eifftiaid er mwyn iddynt eu dilyn, ac enillaf ogoniant ar draul Pharo a'i holl fyddin, ei gerbydau a'i farchogion.
18וידעו מצרים כי אני יהוה בהכבדי בפרעה ברכבו ובפרשיו׃
18 Caiff yr Eifftiaid wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD pan enillaf ogoniant ar draul Pharo a'i gerbydau a'i farchogion."
19ויסע מלאך האלהים ההלך לפני מחנה ישראל וילך מאחריהם ויסע עמוד הענן מפניהם ויעמד מאחריהם׃
19 Symudodd angel Duw, a fu'n mynd o flaen byddin Israel, ac aeth y tu �l iddynt; a symudodd y golofn niwl a fu o'u blaen, a safodd y tu �l iddynt,
20ויבא בין מחנה מצרים ובין מחנה ישראל ויהי הענן והחשך ויאר את הלילה ולא קרב זה אל זה כל הלילה׃
20 gan aros rhwng byddin yr Aifft a byddin Israel. Yr oedd y cwmwl yn dywyllwch, ond yn goleuo trwy'r nos i'r Israeliaid; ac ni ddaeth y naill ar gyfyl y llall trwy'r nos.
21ויט משה את ידו על הים ויולך יהוה את הים ברוח קדים עזה כל הלילה וישם את הים לחרבה ויבקעו המים׃
21 Estynnodd Moses ei law dros y m�r, a thrwy'r nos gyrrodd yr ARGLWYDD y m�r yn ei �l � gwynt cryf o'r dwyrain. Gwnaeth y m�r yn sychdir, a holltwyd y dyfroedd.
22ויבאו בני ישראל בתוך הים ביבשה והמים להם חמה מימינם ומשמאלם׃
22 Aeth yr Israeliaid trwy ganol y m�r ar dir sych, ac yr oedd y dyfroedd fel mur ar y naill ochr a'r llall.
23וירדפו מצרים ויבאו אחריהם כל סוס פרעה רכבו ופרשיו אל תוך הים׃
23 Erlidiodd yr Eifftiaid hwy, ac aeth holl feirch Pharo, ei gerbydau a'i farchogion, ar eu holau i ganol y m�r.
24ויהי באשמרת הבקר וישקף יהוה אל מחנה מצרים בעמוד אש וענן ויהם את מחנה מצרים׃
24 Yn ystod gwyliadwriaeth y bore, edrychodd yr ARGLWYDD ar fyddin yr Eifftiaid trwy'r golofn d�n a'r cwmwl, a daliodd hwy
25ויסר את אפן מרכבתיו וינהגהו בכבדת ויאמר מצרים אנוסה מפני ישראל כי יהוה נלחם להם במצרים׃
25 trwy gloi olwynion eu cerbydau a'i gwneud yn anodd iddynt yrru ymlaen. Yna dywedodd yr Eifftiaid, "Gadewch inni ffoi oddi wrth Israel, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ymladd drostynt hwy yn erbyn yr Aifft."
26ויאמר יהוה אל משה נטה את ידך על הים וישבו המים על מצרים על רכבו ועל פרשיו׃
26 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Estyn dy law allan dros y m�r er mwyn i'r dyfroedd lifo'n �l dros yr Eifftiaid a'u cerbydau a'u marchogion."
27ויט משה את ידו על הים וישב הים לפנות בקר לאיתנו ומצרים נסים לקראתו וינער יהוה את מצרים בתוך הים׃
27 Felly estynnodd Moses ei law dros y m�r, ac erbyn y bore yr oedd y m�r wedi dychwelyd i'w le. Ceisiodd yr Eifftiaid ffoi rhagddo, ond bwriodd yr ARGLWYDD hwy i ganol y m�r.
28וישבו המים ויכסו את הרכב ואת הפרשים לכל חיל פרעה הבאים אחריהם בים לא נשאר בהם עד אחד׃
28 Dychwelodd y dyfroedd a gorchuddio'r cerbydau a'r marchogion, a holl fyddin Pharo oedd wedi dilyn yr Israeliaid i'r m�r, heb adael yr un ohonynt ar �l.
29ובני ישראל הלכו ביבשה בתוך הים והמים להם חמה מימינם ומשמאלם׃
29 Ond cerddodd yr Israeliaid trwy ganol y m�r ar dir sych, ac yr oedd y dyfroedd fel mur ar y naill ochr a'r llall.
30ויושע יהוה ביום ההוא את ישראל מיד מצרים וירא ישראל את מצרים מת על שפת הים׃
30 Felly achubodd yr ARGLWYDD Israel o law'r Eifftiaid y diwrnod hwnnw, a gwelsant yr Eifftiaid yn gorwedd yn farw ar lan y m�r.
31וירא ישראל את היד הגדלה אשר עשה יהוה במצרים וייראו העם את יהוה ויאמינו ביהוה ובמשה עבדו׃
31 Pan welodd Israel y weithred fawr a wnaeth yr ARGLWYDD yn erbyn yr Eifftiaid, daethant i'w ofni ac i ymddiried ynddo ef ac yn ei was Moses.