1ואל משה אמר עלה אל יהוה אתה ואהרן נדב ואביהוא ושבעים מזקני ישראל והשתחויתם מרחק׃
1 Yna fe ddywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Tyrd i fyny at yr ARGLWYDD, ti ac Aaron, Nadab, Abihu, a deg a thrigain o henuriaid Israel, ac addolwch o bell.
2ונגש משה לבדו אל יהוה והם לא יגשו והעם לא יעלו עמו׃
2 Moses yn unig sydd i nes�u at yr ARGLWYDD; nid yw'r lleill i ddod yn agos, ac nid yw'r bobl i fynd i fyny gydag ef."
3ויבא משה ויספר לעם את כל דברי יהוה ואת כל המשפטים ויען כל העם קול אחד ויאמרו כל הדברים אשר דבר יהוה נעשה׃
3 Pan ddaeth Moses, a mynegi i'r bobl holl eiriau'r ARGLWYDD a'r holl ddeddfau, atebodd y bobl i gyd yn unfryd, "Fe wnawn y cyfan a ddywedodd yr ARGLWYDD."
4ויכתב משה את כל דברי יהוה וישכם בבקר ויבן מזבח תחת ההר ושתים עשרה מצבה לשנים עשר שבטי ישראל׃
4 Yna ysgrifennodd Moses holl eiriau'r ARGLWYDD. Cododd yn gynnar yn y bore, ac wrth droed y mynydd adeiladodd allor a deuddeg colofn yn cyfateb i ddeuddeg llwyth Israel.
5וישלח את נערי בני ישראל ויעלו עלת ויזבחו זבחים שלמים ליהוה פרים׃
5 Anfonodd lanciau o blith yr Israeliaid i offrymu poethoffrymau ac aberthu bustych yn heddoffrymau i'r ARGLWYDD.
6ויקח משה חצי הדם וישם באגנת וחצי הדם זרק על המזבח׃
6 Yna cymerodd Moses hanner y gwaed a'i roi mewn cawgiau, a thywallt yr hanner arall dros yr allor.
7ויקח ספר הברית ויקרא באזני העם ויאמרו כל אשר דבר יהוה נעשה ונשמע׃
7 Cymerodd lyfr y cyfamod, ac ar �l iddo'i ddarllen yng nghlyw'r bobl, dywedasant,
8ויקח משה את הדם ויזרק על העם ויאמר הנה דם הברית אשר כרת יהוה עמכם על כל הדברים האלה׃
8 "Fe wnawn y cyfan a ddywedodd yr ARGLWYDD, a byddwn yn ufudd iddo." Yna cymerodd Moses y gwaed a'i daenellu dros y bobl, a dweud, "Dyma waed y cyfamod a wnaeth yr ARGLWYDD � chwi yn unol �'r holl eiriau hyn."
9ויעל משה ואהרן נדב ואביהוא ושבעים מזקני ישראל׃
9 Yna aeth Moses i fyny gydag Aaron, Nadab, Abihu a'r deg a thrigain o henuriaid Israel,
10ויראו את אלהי ישראל ותחת רגליו כמעשה לבנת הספיר וכעצם השמים לטהר׃
10 a gwelsant Dduw Israel; o dan ei draed yr oedd rhywbeth tebyg i balmant o faen saffir, yn ddisglair fel y nefoedd ei hun.
11ואל אצילי בני ישראל לא שלח ידו ויחזו את האלהים ויאכלו וישתו׃
11 Ni osododd ei law ar benaethiaid pobl Israel; ond cawsant weld Duw a bwyta ac yfed.
12ויאמר יהוה אל משה עלה אלי ההרה והיה שם ואתנה לך את לחת האבן והתורה והמצוה אשר כתבתי להורתם׃
12 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Tyrd i fyny ataf i'r mynydd, ac aros yno; yna fe roddaf iti lechau o garreg, gyda'r gyfraith a'r gorchymyn a ysgrifennais ar eu cyfer i'w hyfforddi."
13ויקם משה ויהושע משרתו ויעל משה אל הר האלהים׃
13 Felly cododd Moses a'i was, Josua, ac aeth Moses i fyny i fynydd Duw.
14ואל הזקנים אמר שבו לנו בזה עד אשר נשוב אליכם והנה אהרן וחור עמכם מי בעל דברים יגש אלהם׃
14 Dywedodd wrth yr henuriaid, "Arhoswch yma amdanom nes inni ddod yn �l atoch; bydd Aaron a Hur gyda chwi, ac os bydd gan rywun gu373?yn, aed atynt hwy."
15ויעל משה אל ההר ויכס הענן את ההר׃
15 Aeth Moses i fyny i'r mynydd, a gorchuddiwyd y mynydd gan gwmwl.
16וישכן כבוד יהוה על הר סיני ויכסהו הענן ששת ימים ויקרא אל משה ביום השביעי מתוך הענן׃
16 Arhosodd gogoniant yr ARGLWYDD ar Fynydd Sinai, a gorchuddiodd y cwmwl y mynydd am chwe diwrnod; yna ar y seithfed dydd, galwodd Duw ar Moses o ganol y cwmwl.
17ומראה כבוד יהוה כאש אכלת בראש ההר לעיני בני ישראל׃
17 Yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn ymddangos yng ngolwg pobl Israel fel t�n yn difa ar ben y mynydd.
18ויבא משה בתוך הענן ויעל אל ההר ויהי משה בהר ארבעים יום וארבעים לילה׃
18 Aeth Moses i ganol y cwmwl, a dringodd i fyny'r mynydd, a bu yno am ddeugain diwrnod a deugain nos.