1וידבר יהוה אל משה לאמר׃
1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2דבר אל בני ישראל ויקחו לי תרומה מאת כל איש אשר ידבנו לבו תקחו את תרומתי׃
2 "Dywed wrth bobl Israel am ddod ag offrwm i mi, a derbyniwch oddi wrth bob un yr offrwm y mae'n ei roi o'i wirfodd.
3וזאת התרומה אשר תקחו מאתם זהב וכסף ונחשת׃
3 Dyma'r offrwm yr ydych i'w dderbyn ganddynt: aur, arian ac efydd;
4ותכלת וארגמן ותולעת שני ושש ועזים׃
4 sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main; blew geifr,
5וערת אילם מאדמים וערת תחשים ועצי שטים׃
5 crwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod; coed acasia,
6שמן למאר בשמים לשמן המשחה ולקטרת הסמים׃
6 olew ar gyfer y lampau, perlysiau ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd;
7אבני שהם ואבני מלאים לאפד ולחשן׃
7 meini onyx, a gemau i'w gosod yn yr effod a'r ddwyfronneg.
8ועשו לי מקדש ושכנתי בתוכם׃
8 Y maent hefyd i wneud cysegr, er mwyn i mi drigo yn eu plith.
9ככל אשר אני מראה אותך את תבנית המשכן ואת תבנית כל כליו וכן תעשו׃
9 Yr ydych i'w wneud yn unol �'r cynllun o'r tabernacl, a'i holl ddodrefn, yr wyf yn ei ddangos i ti.
10ועשו ארון עצי שטים אמתים וחצי ארכו ואמה וחצי רחבו ואמה וחצי קמתו׃
10 "Y maent i wneud arch o goed acasia, dau gufydd a hanner o hyd, cufydd a hanner o led, a chufydd a hanner o uchder.
11וצפית אתו זהב טהור מבית ומחוץ תצפנו ועשית עליו זר זהב סביב׃
11 Yr wyt i'w goreuro ag aur pur oddi mewn ac oddi allan, ac yr wyt i wneud ymyl aur o'i hamgylch.
12ויצקת לו ארבע טבעת זהב ונתתה על ארבע פעמתיו ושתי טבעת על צלעו האחת ושתי טבעת על צלעו השנית׃
12 Yna yr wyt i lunio pedair dolen gron o aur ar gyfer ei phedair congl, dwy ar y naill ochr a dwy ar y llall.
13ועשית בדי עצי שטים וצפית אתם זהב׃
13 Gwna bolion o goed acasia a'u goreuro,
14והבאת את הבדים בטבעת על צלעת הארן לשאת את הארן בהם׃
14 a'u gosod yn y dolennau ar ochrau'r arch, i'w chario.
15בטבעת הארן יהיו הבדים לא יסרו ממנו׃
15 Y mae'r polion i aros yn nolennau'r arch heb eu symud oddi yno;
16ונתת אל הארן את העדת אשר אתן אליך׃
16 yr wyt i roi yn yr arch y dystiolaeth yr wyf yn ei rhoi iti.
17ועשית כפרת זהב טהור אמתים וחצי ארכה ואמה וחצי רחבה׃
17 Gwna drugareddfa o aur pur, dau gufydd a hanner o hyd, a chufydd a hanner o led;
18ועשית שנים כרבים זהב מקשה תעשה אתם משני קצות הכפרת׃
18 gwna hefyd ar gyfer y naill ben a'r llall i'r drugareddfa ddau gerwb o aur wedi ei guro.
19ועשה כרוב אחד מקצה מזה וכרוב אחד מקצה מזה מן הכפרת תעשו את הכרבים על שני קצותיו׃
19 Gwna un yn y naill ben a'r llall yn y pen arall, yn rhan o'r drugareddfa.
20והיו הכרבים פרשי כנפים למעלה סככים בכנפיהם על הכפרת ופניהם איש אל אחיו אל הכפרת יהיו פני הכרבים׃
20 Y mae dwy adain y cerwbiaid i fod ar led, fel eu bod yn gorchuddio'r drugareddfa; y mae'r cerwbiaid i wynebu ei gilydd, �'u hwynebau tua'r drugareddfa.
21ונתת את הכפרת על הארן מלמעלה ואל הארן תתן את העדת אשר אתן אליך׃
21 Yr wyt i roi'r drugareddfa ar ben yr arch, a rhoi yn yr arch y dystiolaeth y byddaf yn ei rhoi i ti.
22ונועדתי לך שם ודברתי אתך מעל הכפרת מבין שני הכרבים אשר על ארן העדת את כל אשר אצוה אותך אל בני ישראל׃
22 Yno byddaf yn cyfarfod � thi, ac oddi ar y drugareddfa, rhwng y ddau gerwb sydd ar arch y dystiolaeth, y byddaf yn mynegi iti yr holl bethau yr wyf yn eu gorchymyn i bobl Israel.
23ועשית שלחן עצי שטים אמתים ארכו ואמה רחבו ואמה וחצי קמתו׃
23 "Yr wyt i wneud bwrdd o goed acasia, dau gufydd o hyd, cufydd o led, a chufydd a hanner o uchder,
24וצפית אתו זהב טהור ועשית לו זר זהב סביב׃
24 a'i oreuro ag aur pur drosto, a gwneud ymyl aur o'i amgylch.
25ועשית לו מסגרת טפח סביב ועשית זר זהב למסגרתו סביב׃
25 Gwna ffr�m o led llaw o'i gwmpas, a chylch aur o amgylch y ffr�m.
26ועשית לו ארבע טבעת זהב ונתת את הטבעת על ארבע הפאת אשר לארבע רגליו׃
26 Yr wyt hefyd i wneud ar ei gyfer bedair dolen aur, a'u clymu wrth y pedair coes yn y pedair congl.
27לעמת המסגרת תהיין הטבעת לבתים לבדים לשאת את השלחן׃
27 Bydd y dolennau sydd ar ymyl y ffr�m yn dal y polion sy'n cludo'r bwrdd.
28ועשית את הבדים עצי שטים וצפית אתם זהב ונשא בם את השלחן׃
28 Yr wyt i wneud y polion a fydd yn cludo'r bwrdd o goed acasia, a'u goreuro.
29ועשית קערתיו וכפתיו וקשותיו ומנקיתיו אשר יסך בהן זהב טהור תעשה אתם׃
29 Gwna lestri a dysglau ar ei gyfer, a ffiolau a chostrelau i dywallt y diodoffrwm; yr wyt i'w gwneud o aur pur.
30ונתת על השלחן לחם פנים לפני תמיד׃
30 Yr wyt i roi'r bara gosod ar y bwrdd o'm blaen yn wastadol.
31ועשית מנרת זהב טהור מקשה תעשה המנורה ירכה וקנה גביעיה כפתריה ופרחיה ממנה יהיו׃
31 "Gwna ganhwyllbren o aur pur. Y mae gwaelod y canhwyllbren a'i baladr i'w gwneud o ddeunydd gyr, ac y mae'r pedyll, y cnapiau a'r blodau i fod yn rhan o'r cyfanwaith.
32וששה קנים יצאים מצדיה שלשה קני מנרה מצדה האחד ושלשה קני מנרה מצדה השני׃
32 Bydd chwe chainc yn dod allan o ochrau'r canhwyllbren, tair ar un ochr a thair ar y llall.
33שלשה גבעים משקדים בקנה האחד כפתר ופרח ושלשה גבעים משקדים בקנה האחד כפתר ופרח כן לששת הקנים היצאים מן המנרה׃
33 Ar un gainc bydd tair padell ar ffurf almonau, a chnap a blodeuyn arnynt, a thair ar y gainc nesaf; dyma fydd ar y chwe chainc sy'n dod allan o'r canhwyllbren.
34ובמנרה ארבעה גבעים משקדים כפתריה ופרחיה׃
34 Ar y canhwyllbren ei hun, bydd pedair padell ar ffurf almonau, a chnapiau a blodau arnynt,
35וכפתר תחת שני הקנים ממנה וכפתר תחת שני הקנים ממנה וכפתר תחת שני הקנים ממנה לששת הקנים היצאים מן המנרה׃
35 a bydd un o'r cnapiau dan bob p�r o'r chwe chainc sy'n dod allan o'r canhwyllbren.
36כפתריהם וקנתם ממנה יהיו כלה מקשה אחת זהב טהור׃
36 Bydd y cnapiau a'r ceinciau yn rhan o'r canhwyllbren, a bydd y cyfan o aur pur ac o ddeunydd gyr.
37ועשית את נרתיה שבעה והעלה את נרתיה והאיר על עבר פניה׃
37 Yr wyt i wneud ar ei gyfer saith llusern, a'u gosod fel eu bod yn goleuo'r gwagle o gwmpas.
38ומלקחיה ומחתתיה זהב טהור׃
38 Bydd ei efeiliau a'i gafnau o aur pur.
39ככר זהב טהור יעשה אתה את כל הכלים האלה׃
39 Yr wyt i wneud y canhwyllbren a'r holl lestri hyn o un dalent o aur pur.
40וראה ועשה בתבניתם אשר אתה מראה בהר׃
40 Ond gofala dy fod yn eu gwneud yn �l y patrwm a ddangoswyd i ti ar y mynydd.