1ומשה היה רעה את צאן יתרו חתנו כהן מדין וינהג את הצאן אחר המדבר ויבא אל הר האלהים חרבה׃
1 Yr oedd Moses yn bugeilio defaid ei dad-yng-nghyfraith Jethro, offeiriad Midian, ac wrth iddo arwain y praidd ar hyd cyrion yr anialwch, daeth i Horeb, mynydd Duw.
2וירא מלאך יהוה אליו בלבת אש מתוך הסנה וירא והנה הסנה בער באש והסנה איננו אכל׃
2 Yno ymddangosodd angel yr ARGLWYDD iddo mewn fflam d�n o ganol perth. Edrychodd yntau a gweld y berth ar d�n ond heb ei difa.
3ויאמר משה אסרה נא ואראה את המראה הגדל הזה מדוע לא יבער הסנה׃
3 Dywedodd Moses, "Yr wyf am droi i edrych ar yr olygfa ryfedd hon, pam nad yw'r berth wedi llosgi."
4וירא יהוה כי סר לראות ויקרא אליו אלהים מתוך הסנה ויאמר משה משה ויאמר הנני׃
4 Pan welodd yr ARGLWYDD ei fod wedi troi i edrych, galwodd Duw arno o ganol y berth, "Moses, Moses." Atebodd yntau, "Dyma fi."
5ויאמר אל תקרב הלם של נעליך מעל רגליך כי המקום אשר אתה עומד עליו אדמת קדש הוא׃
5 Yna dywedodd Duw, "Paid � dod ddim nes; tyn dy esgidiau oddi am dy draed, oherwydd y mae'r llecyn yr wyt yn sefyll arno yn dir sanctaidd."
6ויאמר אנכי אלהי אביך אלהי אברהם אלהי יצחק ואלהי יעקב ויסתר משה פניו כי ירא מהביט אל האלהים׃
6 Dywedodd hefyd, "Duw dy dadau wyf fi, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob." Cuddiodd Moses ei wyneb, oherwydd yr oedd arno ofn edrych ar Dduw.
7ויאמר יהוה ראה ראיתי את עני עמי אשר במצרים ואת צעקתם שמעתי מפני נגשיו כי ידעתי את מכאביו׃
7 Yna dywedodd yr ARGLWYDD, "Yr wyf wedi gweld adfyd fy mhobl yn yr Aifft a chlywed eu gwaedd o achos eu meistri gwaith, a gwn am eu doluriau.
8וארד להצילו מיד מצרים ולהעלתו מן הארץ ההוא אל ארץ טובה ורחבה אל ארץ זבת חלב ודבש אל מקום הכנעני והחתי והאמרי והפרזי והחוי והיבוסי׃
8 Yr wyf wedi dod i'w gwaredu o law'r Eifftiaid, a'u harwain o'r wlad honno i wlad ffrwythlon ac eang, gwlad yn llifeirio o laeth a m�l, cartref y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid.
9ועתה הנה צעקת בני ישראל באה אלי וגם ראיתי את הלחץ אשר מצרים לחצים אתם׃
9 Yn awr y mae gwaedd pobl Israel wedi dod ataf, ac yr wyf wedi gweld fel y bu'r Eifftiaid yn eu gorthrymu.
10ועתה לכה ואשלחך אל פרעה והוצא את עמי בני ישראל ממצרים׃
10 Tyrd, yr wyf yn dy anfon at Pharo er mwyn iti arwain fy mhobl, yr Israeliaid, allan o'r Aifft."
11ויאמר משה אל האלהים מי אנכי כי אלך אל פרעה וכי אוציא את בני ישראל ממצרים׃
11 Ond gofynnodd Moses i Dduw, "Pwy wyf fi i fynd at Pharo ac arwain pobl Israel allan o'r Aifft?"
12ויאמר כי אהיה עמך וזה לך האות כי אנכי שלחתיך בהוציאך את העם ממצרים תעבדון את האלהים על ההר הזה׃
12 Dywedodd yntau, "Byddaf fi gyda thi; a dyma fydd yr arwydd mai myfi sydd wedi dy anfon: wedi iti arwain y bobl allan o'r Aifft, byddwch yn addoli Duw ar y mynydd hwn."
13ויאמר משה אל האלהים הנה אנכי בא אל בני ישראל ואמרתי להם אלהי אבותיכם שלחני אליכם ואמרו לי מה שמו מה אמר אלהם׃
13 Yna dywedodd Moses wrth Dduw, "Os af at bobl Israel a dweud wrthynt, 'Y mae Duw eich hynafiaid wedi fy anfon atoch', beth a ddywedaf wrthynt os gofynnant am ei enw?"
14ויאמר אלהים אל משה אהיה אשר אהיה ויאמר כה תאמר לבני ישראל אהיה שלחני אליכם׃
14 Dywedodd Duw wrth Moses, "Ydwyf yr hyn ydwyf. Dywed hyn wrth bobl Israel, 'Ydwyf sydd wedi fy anfon atoch.'"
15ויאמר עוד אלהים אל משה כה תאמר אל בני ישראל יהוה אלהי אבתיכם אלהי אברהם אלהי יצחק ואלהי יעקב שלחני אליכם זה שמי לעלם וזה זכרי לדר דר׃
15 Dywedodd Duw eto wrth Moses, "Dywed hyn wrth bobl Israel, 'Yr ARGLWYDD, Duw eich tadau, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob sydd wedi fy anfon atoch.' Dyma fydd fy enw am byth, ac fel hyn y cofir amdanaf gan bob cenhedlaeth.
16לך ואספת את זקני ישראל ואמרת אלהם יהוה אלהי אבתיכם נראה אלי אלהי אברהם יצחק ויעקב לאמר פקד פקדתי אתכם ואת העשוי לכם במצרים׃
16 Dos, a chynnull ynghyd henuriaid Israel, a dywed wrthynt, 'Y mae'r ARGLWYDD, Duw eich tadau, Duw Abraham, Isaac a Jacob, wedi ymddangos i mi a dweud: Yr wyf wedi ymweld � chwi ac edrych ar yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aifft,
17ואמר אעלה אתכם מעני מצרים אל ארץ הכנעני והחתי והאמרי והפרזי והחוי והיבוסי אל ארץ זבת חלב ודבש׃
17 ac yr wyf wedi penderfynu eich arwain allan o adfyd yr Aifft i wlad y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid, gwlad yn llifeirio o laeth a m�l.'
18ושמעו לקלך ובאת אתה וזקני ישראל אל מלך מצרים ואמרתם אליו יהוה אלהי העבריים נקרה עלינו ועתה נלכה נא דרך שלשת ימים במדבר ונזבחה ליהוה אלהינו׃
18 Bydd henuriaid Israel yn gwrando arnat; dos dithau gyda hwy at frenin yr Aifft a dweud wrtho, 'Y mae'r ARGLWYDD, Duw'r Hebreaid, wedi ymweld � ni; yn awr gad inni fynd daith dridiau i'r anialwch er mwyn inni aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw.'
19ואני ידעתי כי לא יתן אתכם מלך מצרים להלך ולא ביד חזקה׃
19 Ond yr wyf yn gwybod na fydd brenin yr Aifft yn caniat�u i chwi fynd oni orfodir ef � llaw gadarn.
20ושלחתי את ידי והכיתי את מצרים בכל נפלאתי אשר אעשה בקרבו ואחרי כן ישלח אתכם׃
20 Felly, estynnaf fy llaw a tharo'r Eifftiaid �'r holl ryfeddodau a wnaf yn eu plith; wedi hynny, bydd yn eich gollwng yn rhydd.
21ונתתי את חן העם הזה בעיני מצרים והיה כי תלכון לא תלכו ריקם׃
21 Gwnaf i'r Eifftiaid edrych yn ffafriol ar y bobl hyn, a phan fyddwch yn ymadael, nid ewch yn waglaw,
22ושאלה אשה משכנתה ומגרת ביתה כלי כסף וכלי זהב ושמלת ושמתם על בניכם ועל בנתיכם ונצלתם את מצרים׃
22 oherwydd bydd pob gwraig yn gofyn i'w chymdoges neu i unrhyw un yn ei thu375? am dlysau o arian ac o aur, a dillad. Gwisgwch hwy am eich meibion a'ch merched, ac ysbeiliwch yr Aifft."