Hebrew: Modern

Welsh

Exodus

4

1ויען משה ויאמר והן לא יאמינו לי ולא ישמעו בקלי כי יאמרו לא נראה אליך יהוה׃
1 Yna atebodd Moses, "Ni fyddant yn fy nghredu nac yn gwrando arnaf, ond byddant yn dweud, 'Nid yw'r ARGLWYDD wedi ymddangos i ti.'"
2ויאמר אליו יהוה מזה בידך ויאמר מטה׃
2 Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Beth sydd gennyt yn dy law?" Atebodd yntau, "Gwialen."
3ויאמר השליכהו ארצה וישליכהו ארצה ויהי לנחש וינס משה מפניו׃
3 Yna dywedodd yr ARGLWYDD, "Tafl hi ar lawr." Pan daflodd hi ar lawr, trodd yn sarff, a chiliodd Moses oddi wrthi.
4ויאמר יהוה אל משה שלח ידך ואחז בזנבו וישלח ידו ויחזק בו ויהי למטה בכפו׃
4 Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Estyn dy law a gafael yn ei chynffon." Estynnodd yntau ei law a gafael ynddi, a throdd yn wialen yn ei law.
5למען יאמינו כי נראה אליך יהוה אלהי אבתם אלהי אברהם אלהי יצחק ואלהי יעקב׃
5 "Gwna hyn," meddai, "er mwyn iddynt gredu bod yr ARGLWYDD, Duw eu tadau, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob wedi ymddangos iti."
6ויאמר יהוה לו עוד הבא נא ידך בחיקך ויבא ידו בחיקו ויוצאה והנה ידו מצרעת כשלג׃
6 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Rho dy law yn dy fynwes." Rhoes yntau ei law yn ei fynwes, a phan dynnodd hi allan, yr oedd ei law yn wahanglwyfus ac yn wyn fel yr eira.
7ויאמר השב ידך אל חיקך וישב ידו אל חיקו ויוצאה מחיקו והנה שבה כבשרו׃
7 Yna dywedodd Duw, "Rho hi'n �l yn dy fynwes." Rhoes yntau ei law yn �l yn ei fynwes, a phan dynnodd hi allan, yr oedd mor iach � gweddill ei gorff.
8והיה אם לא יאמינו לך ולא ישמעו לקל האת הראשון והאמינו לקל האת האחרון׃
8 "Os na fyddant yn dy gredu nac yn ymateb i'r arwydd cyntaf," meddai'r ARGLWYDD, "hwyrach y byddant yn ymateb i'r ail arwydd.
9והיה אם לא יאמינו גם לשני האתות האלה ולא ישמעון לקלך ולקחת ממימי היאר ושפכת היבשה והיו המים אשר תקח מן היאר והיו לדם ביבשת׃
9 Ond os na fyddant yn ymateb i'r naill arwydd na'r llall, nac yn gwrando arnat, cymer ddu373?r o'r Neil a'i dywallt ar y sychdir, a bydd y du373?r a gymeri o'r afon Neil yn troi'n waed ar y tir sych."
10ויאמר משה אל יהוה בי אדני לא איש דברים אנכי גם מתמול גם משלשם גם מאז דברך אל עבדך כי כבד פה וכבד לשון אנכי׃
10 Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, "O f'Arglwydd, ni f�m erioed yn u373?r huawdl, nac yn y gorffennol nac er pan ddechreuaist lefaru wrth dy was; y mae fy lleferydd yn araf a'm tafod yn drwm."
11ויאמר יהוה אליו מי שם פה לאדם או מי ישום אלם או חרש או פקח או עור הלא אנכי יהוה׃
11 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Pwy a roes enau i feidrolyn? Pwy a'i gwna yn fud neu'n fyddar? Pwy a rydd iddo olwg, neu ei wneud yn ddall? Onid myfi, yr ARGLWYDD?
12ועתה לך ואנכי אהיה עם פיך והוריתיך אשר תדבר׃
12 Yn awr, dos, rhof help iti i lefaru, a'th ddysgu beth i'w ddweud."
13ויאמר בי אדני שלח נא ביד תשלח׃
13 Ond dywedodd ef, "O f'Arglwydd, anfon pwy bynnag arall a fynni."
14ויחר אף יהוה במשה ויאמר הלא אהרן אחיך הלוי ידעתי כי דבר ידבר הוא וגם הנה הוא יצא לקראתך וראך ושמח בלבו׃
14 Digiodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dywedodd, "Onid Aaron y Lefiad yw dy frawd? Gwn y gall ef siarad yn huawdl; y mae ar ei ffordd i'th gyfarfod, a bydd yn falch o'th weld.
15ודברת אליו ושמת את הדברים בפיו ואנכי אהיה עם פיך ועם פיהו והוריתי אתכם את אשר תעשון׃
15 Llefara di wrtho a gosod y geiriau yn ei enau, a rhof finnau help i'r ddau ohonoch i lefaru, a'ch dysgu beth i'w wneud.
16ודבר הוא לך אל העם והיה הוא יהיה לך לפה ואתה תהיה לו לאלהים׃
16 Bydd ef yn llefaru wrth y bobl ar dy ran; bydd ef fel genau iti, a byddi dithau fel Duw iddo yntau.
17ואת המטה הזה תקח בידך אשר תעשה בו את האתת׃
17 Cymer y wialen hon yn dy law, oherwydd trwyddi hi y byddi'n gwneud yr arwyddion."
18וילך משה וישב אל יתר חתנו ויאמר לו אלכה נא ואשובה אל אחי אשר במצרים ואראה העודם חיים ויאמר יתרו למשה לך לשלום׃
18 Dychwelodd Moses at Jethro ei dad-yng-nghyfraith a dweud wrtho, "Gad imi fynd yn �l at fy mhobl sydd yn yr Aifft i weld a ydynt yn dal yn fyw." Dywedodd Jethro wrtho, "Rhwydd hynt iti."
19ויאמר יהוה אל משה במדין לך שב מצרים כי מתו כל האנשים המבקשים את נפשך׃
19 Yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses yn Midian, "Dos yn �l i'r Aifft, oherwydd y mae pawb oedd yn ceisio dy ladd bellach wedi marw."
20ויקח משה את אשתו ואת בניו וירכבם על החמר וישב ארצה מצרים ויקח משה את מטה האלהים בידו׃
20 Felly, cymerodd Moses ei wraig a'i feibion, a'u gosod ar asyn a mynd yn �l i wlad yr Aifft, � gwialen Duw yn ei law.
21ויאמר יהוה אל משה בלכתך לשוב מצרימה ראה כל המפתים אשר שמתי בידך ועשיתם לפני פרעה ואני אחזק את לבו ולא ישלח את העם׃
21 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Wedi iti ddychwelyd i'r Aifft, rhaid iti wneud o flaen Pharo yr holl ryfeddodau a roddais yn dy allu; ond byddaf yn caledu ei galon ac ni fydd yn gollwng y bobl yn rhydd.
22ואמרת אל פרעה כה אמר יהוה בני בכרי ישראל׃
22 Llefara wrth Pharo, 'Dyma a ddywed yr ARGLWYDD: Israel yw fy mab cyntafanedig,
23ואמר אליך שלח את בני ויעבדני ותמאן לשלחו הנה אנכי הרג את בנך בכרך׃
23 ac yr wyf yn dweud wrthyt am ollwng fy mab yn rhydd er mwyn iddo f'addoli, ond gwrthodaist ei ollwng yn rhydd, felly fe laddaf dy fab cyntafanedig di.'"
24ויהי בדרך במלון ויפגשהו יהוה ויבקש המיתו׃
24 Mewn llety ar y ffordd, cyfarfu'r ARGLWYDD � Moses a cheisio'i ladd.
25ותקח צפרה צר ותכרת את ערלת בנה ותגע לרגליו ותאמר כי חתן דמים אתה לי׃
25 Ond cymerodd Seffora gyllell finiog a thorri blaengroen ei mab a'i fwrw i gyffwrdd � thraed Moses, a dweud, "Yr wyt yn briod imi trwy waed."
26וירף ממנו אז אמרה חתן דמים למולת׃
26 Yna gadawodd yr ARGLWYDD lonydd iddo. Dyna'r adeg y dywedodd hi, "Yr wyt yn briod trwy waed oherwydd yr enwaedu."
27ויאמר יהוה אל אהרן לך לקראת משה המדברה וילך ויפגשהו בהר האלהים וישק לו׃
27 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, "Dos i'r anialwch i gyfarfod � Moses." Aeth yntau, a chyfarfod ag ef wrth fynydd Duw a'i gusanu.
28ויגד משה לאהרן את כל דברי יהוה אשר שלחו ואת כל האתת אשר צוהו׃
28 Adroddodd Moses wrth Aaron y cyfan yr oedd yr ARGLWYDD wedi ei anfon i'w ddweud, a'r holl arwyddion yr oedd wedi gorchymyn iddo eu gwneud.
29וילך משה ואהרן ויאספו את כל זקני בני ישראל׃
29 Yna aeth Moses ac Aaron i gynnull ynghyd holl henuriaid pobl Israel,
30וידבר אהרן את כל הדברים אשר דבר יהוה אל משה ויעש האתת לעיני העם׃
30 a dywedodd Aaron wrthynt y cyfan yr oedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud wrth Moses; a gwnaeth yr arwyddion yng ngu373?ydd y bobl.
31ויאמן העם וישמעו כי פקד יהוה את בני ישראל וכי ראה את ענים ויקדו וישתחוו׃
31 Credodd y bobl, a phan glywsant fod yr ARGLWYDD wedi ymweld � phobl Israel a'i fod wedi edrych ar eu hadfyd, bu iddynt ymgrymu i lawr ac addoli.