Hebrew: Modern

Welsh

Exodus

30

1ועשית מזבח מקטר קטרת עצי שטים תעשה אתו׃
1 "Gwna allor o goed acasia ar gyfer llosgi arogldarth.
2אמה ארכו ואמה רחבו רבוע יהיה ואמתים קמתו ממנו קרנתיו׃
2 Bydd yn sgw�r, yn gufydd o hyd a chufydd o led a dau gufydd o uchder, a'i chyrn yn rhan ohoni.
3וצפית אתו זהב טהור את גגו ואת קירתיו סביב ואת קרנתיו ועשית לו זר זהב סביב׃
3 Goreura hi i gyd ag aur pur, yr wyneb, yr ochrau a'r cyrn; a gwna ymyl aur o'i hamgylch.
4ושתי טבעת זהב תעשה לו מתחת לזרו על שתי צלעתיו תעשה על שני צדיו והיה לבתים לבדים לשאת אתו בהמה׃
4 Gwna hefyd ddau fach aur dan y cylch ar y ddwy ochr, i gymryd y polion ar gyfer cario'r allor.
5ועשית את הבדים עצי שטים וצפית אתם זהב׃
5 Gwna'r polion o goed acasia, a goreura hwy.
6ונתתה אתו לפני הפרכת אשר על ארן העדת לפני הכפרת אשר על העדת אשר אועד לך שמה׃
6 Gosod yr allor o flaen y gorchudd sydd wrth arch y dystiolaeth, ac o flaen y drugareddfa ar yr arch; yno byddaf yn cyfarfod � thi.
7והקטיר עליו אהרן קטרת סמים בבקר בבקר בהיטיבו את הנרת יקטירנה׃
7 Bydd Aaron yn llosgi arogldarth peraidd arni bob bore wrth baratoi'r lampau,
8ובהעלת אהרן את הנרת בין הערבים יקטירנה קטרת תמיד לפני יהוה לדרתיכם׃
8 ac eto wrth oleuo'r lampau gyda'r hwyr; bydd hwn yn arogldarth gwastadol gerbron yr ARGLWYDD dros y cenedlaethau.
9לא תעלו עליו קטרת זרה ועלה ומנחה ונסך לא תסכו עליו׃
9 Peidiwch ag offrymu arni arogldarth halogedig, na phoethoffrwm, na bwydoffrwm; a pheidiwch � thywallt diodoffrwm arni.
10וכפר אהרן על קרנתיו אחת בשנה מדם חטאת הכפרים אחת בשנה יכפר עליו לדרתיכם קדש קדשים הוא ליהוה׃
10 Bydd Aaron yn gwneud cymod ar ei chyrn unwaith y flwyddyn dros y cenedlaethau, a bydd yn ei wneud � gwaed yr aberth dros bechod a offrymir er cymod; y mae'n gysegredig iawn i'r ARGLWYDD."
11וידבר יהוה אל משה לאמר׃
11 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
12כי תשא את ראש בני ישראל לפקדיהם ונתנו איש כפר נפשו ליהוה בפקד אתם ולא יהיה בהם נגף בפקד אתם׃
12 "Pan fyddwch yn gwneud cyfrifiad o bobl Israel, y mae pob un i roi iawn am ei fywyd i'r ARGLWYDD, rhag bod pla yn eu plith wrth wneud y cyfrifiad.
13זה יתנו כל העבר על הפקדים מחצית השקל בשקל הקדש עשרים גרה השקל מחצית השקל תרומה ליהוה׃
13 Y mae pob un a rifir yn y cyfrifiad i roi'n offrwm i'r ARGLWYDD hanner sicl, yn cyfateb i sicl y cysegr, sy'n pwyso ugain gera.
14כל העבר על הפקדים מבן עשרים שנה ומעלה יתן תרומת יהוה׃
14 Y mae pob un a rifir yn y cyfrifiad sy'n ugain oed neu'n hu375?n i roi offrwm i'r ARGLWYDD.
15העשיר לא ירבה והדל לא ימעיט ממחצית השקל לתת את תרומת יהוה לכפר על נפשתיכם׃
15 Nid yw'r cyfoethog i roi mwy, na'r tlawd i roi llai, na hanner sicl, wrth i chwi roi offrwm i'r ARGLWYDD er cymod dros eich bywyd.
16ולקחת את כסף הכפרים מאת בני ישראל ונתת אתו על עבדת אהל מועד והיה לבני ישראל לזכרון לפני יהוה לכפר על נפשתיכם׃
16 Cymer arian y cymod oddi wrth bobl Israel a'i roi at wasanaeth pabell y cyfarfod; bydd yn goffadwriaeth i bobl Israel gerbron yr ARGLWYDD, er mwyn i chwi wneud cymod dros eich bywyd."
17וידבר יהוה אל משה לאמר׃
17 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
18ועשית כיור נחשת וכנו נחשת לרחצה ונתת אתו בין אהל מועד ובין המזבח ונתת שמה מים׃
18 "Gwna noe bres, � throed pres iddi, i ymolchi; a gosod hi rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi du373?r ynddi
19ורחצו אהרן ובניו ממנו את ידיהם ואת רגליהם׃
19 i Aaron a'i feibion olchi eu dwylo a'u traed.
20בבאם אל אהל מועד ירחצו מים ולא ימתו או בגשתם אל המזבח לשרת להקטיר אשה ליהוה׃
20 Pan fyddant yn mynd i mewn i babell y cyfarfod, neu'n agos�u at yr allor i wasanaethu neu i losgi offrwm mewn t�n i'r ARGLWYDD, y maent i ymolchi �'r du373?r, rhag iddynt farw.
21ורחצו ידיהם ורגליהם ולא ימתו והיתה להם חק עולם לו ולזרעו לדרתם׃
21 Y maent i olchi eu dwylo a'u traed, rhag iddynt farw; bydd hon yn ddeddf i'w chadw am byth gan Aaron a'i ddisgynyddion dros y cenedlaethau."
22וידבר יהוה אל משה לאמר׃
22 Dywedodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses,
23ואתה קח לך בשמים ראש מר דרור חמש מאות וקנמן בשם מחציתו חמשים ומאתים וקנה בשם חמשים ומאתים׃
23 "Cymer o'r perlysiau gorau bum can sicl o fyrr pur, a hanner hynny, sef dau gant pum deg sicl o sinamon peraidd, a dau gant pum deg sicl o galamus peraidd,
24וקדה חמש מאות בשקל הקדש ושמן זית הין׃
24 a phum can sicl, yn cyfateb i sicl y cysegr, o gasia, a hin o olew'r olewydden.
25ועשית אתו שמן משחת קדש רקח מרקחת מעשה רקח שמן משחת קדש יהיה׃
25 Gwna ohonynt olew cysegredig ar gyfer eneinio, a chymysga hwy fel y gwna'r peraroglydd; bydd yn olew cysegredig ar gyfer ei eneinio.
26ומשחת בו את אהל מועד ואת ארון העדת׃
26 Eneinia ag ef babell y cyfarfod ac arch y dystiolaeth,
27ואת השלחן ואת כל כליו ואת המנרה ואת כליה ואת מזבח הקטרת׃
27 y bwrdd a'i holl lestri, y canhwyllbren a'i holl lestri, allor yr arogldarth,
28ואת מזבח העלה ואת כל כליו ואת הכיר ואת כנו׃
28 allor y poethoffrwm a'i holl lestri, a'r noe a'i throed.
29וקדשת אתם והיו קדש קדשים כל הנגע בהם יקדש׃
29 Cysegra hwy, a byddant yn gysegredig iawn; bydd beth bynnag a gyffyrdda � hwy hefyd yn gysegredig.
30ואת אהרן ואת בניו תמשח וקדשת אתם לכהן לי׃
30 Eneinia Aaron a'i feibion, a chysegra hwy i'm gwasanaethu fel offeiriaid.
31ואל בני ישראל תדבר לאמר שמן משחת קדש יהיה זה לי לדרתיכם׃
31 Yna dywed wrth bobl Israel, 'Bydd hwn yn olew cysegredig i mi dros y cenedlaethau.
32על בשר אדם לא ייסך ובמתכנתו לא תעשו כמהו קדש הוא קדש יהיה לכם׃
32 Peidiwch ag eneinio corff neb ag ef, na gwneud dim sy'n debyg iddo o ran ei gynnwys. Y mae'n gysegredig; felly bydded yn gysegredig gennych.
33איש אשר ירקח כמהו ואשר יתן ממנו על זר ונכרת מעמיו׃
33 Torrir ymaith oddi wrth ei bobl bwy bynnag sy'n gwneud cymysgedd tebyg, neu sy'n ei dywallt ar leygwr.'"
34ויאמר יהוה אל משה קח לך סמים נטף ושחלת וחלבנה סמים ולבנה זכה בד בבד יהיה׃
34 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Cymer berlysiau, sef stacte, onycha a galbanum, ac ynghyd �'r llysiau hyn, thus pur; cymer yr un faint o bob un,
35ועשית אתה קטרת רקח מעשה רוקח ממלח טהור קדש׃
35 a gwna arogldarth a'i gymysgu fel y gwna'r peraroglydd, a'i dymheru � halen i'w wneud yn bur a chysegredig.
36ושחקת ממנה הדק ונתתה ממנה לפני העדת באהל מועד אשר אועד לך שמה קדש קדשים תהיה לכם׃
36 Cura beth ohono'n f�n a'i roi o flaen y dystiolaeth ym mhabell y cyfarfod, lle byddaf yn cyfarfod � thi; bydd yn gysegredig iawn gennych.
37והקטרת אשר תעשה במתכנתה לא תעשו לכם קדש תהיה לך ליהוה׃
37 Peidiwch � gwneud arogldarth fel hwn i chwi eich hunain; bydd yn gysegredig i'r ARGLWYDD.
38איש אשר יעשה כמוה להריח בה ונכרת מעמיו׃
38 Torrir ymaith oddi wrth ei bobl bwy bynnag sy'n gwneud cymysgedd tebyg, i fwynhau ei arogl."