Hebrew: Modern

Welsh

Exodus

31

1וידבר יהוה אל משה לאמר׃
1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2ראה קראתי בשם בצלאל בן אורי בן חור למטה יהודה׃
2 "Edrych, yr wyf wedi dewis Besalel fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda,
3ואמלא אתו רוח אלהים בחכמה ובתבונה ובדעת ובכל מלאכה׃
3 a'i lenwi ag ysbryd Duw, � doethineb a deall, � gwybodaeth a phob rhyw ddawn,
4לחשב מחשבת לעשות בזהב ובכסף ובנחשת׃
4 er mwyn iddo ddyfeisio patrymau cywrain i'w gweithio mewn aur, arian a phres,
5ובחרשת אבן למלאת ובחרשת עץ לעשות בכל מלאכה׃
5 a thorri meini i'w gosod, a cherfio pren, a gwneud pob cywreinwaith.
6ואני הנה נתתי אתו את אהליאב בן אחיסמך למטה דן ובלב כל חכם לב נתתי חכמה ועשו את כל אשר צויתך׃
6 Penodais hefyd Ahol�ab fab Achisamach, o lwyth Dan, i'w gynorthwyo. Rhoddais ddawn i bob crefftwr i wneud y cyfan a orchmynnais iti:
7את אהל מועד ואת הארן לעדת ואת הכפרת אשר עליו ואת כל כלי האהל׃
7 pabell y cyfarfod, arch y dystiolaeth a'r drugareddfa sydd arni, holl ddodrefn y babell,
8ואת השלחן ואת כליו ואת המנרה הטהרה ואת כל כליה ואת מזבח הקטרת׃
8 y bwrdd a'i lestri, y canhwyllbren o aur pur a'i holl lestri, allor yr arogldarth,
9ואת מזבח העלה ואת כל כליו ואת הכיור ואת כנו׃
9 allor y poeth-offrwm a'i holl lestri, y noe a'i throed,
10ואת בגדי השרד ואת בגדי הקדש לאהרן הכהן ואת בגדי בניו לכהן׃
10 y gwisgoedd wedi eu gwn�o'n wisgoedd cysegredig i Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion, er mwyn iddynt hwythau wasanaethu fel offeiriaid,
11ואת שמן המשחה ואת קטרת הסמים לקדש ככל אשר צויתך יעשו׃
11 olew yr eneinio, a'r arogldarth peraidd ar gyfer y cysegr. Y maent i'w gwneud yn union fel y gorchmynnais i ti."
12ויאמר יהוה אל משה לאמר׃
12 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
13ואתה דבר אל בני ישראל לאמר אך את שבתתי תשמרו כי אות הוא ביני וביניכם לדרתיכם לדעת כי אני יהוה מקדשכם׃
13 "Dywed wrth bobl Israel, 'Cadwch fy Sabothau, oherwydd bydd hyn yn arwydd rhyngof a chwi dros y cenedlaethau, er mwyn i chwi wybod mai myfi, yr ARGLWYDD, sydd yn eich cysegru.
14ושמרתם את השבת כי קדש הוא לכם מחלליה מות יומת כי כל העשה בה מלאכה ונכרתה הנפש ההוא מקרב עמיה׃
14 Cadwch y Saboth, oherwydd y mae'n gysegredig i chwi; rhoddir i farwolaeth bwy bynnag sy'n ei halogi, a thorrir ymaith o blith ei bobl bwy bynnag sy'n gweithio ar y Saboth.
15ששת ימים יעשה מלאכה וביום השביעי שבת שבתון קדש ליהוה כל העשה מלאכה ביום השבת מות יומת׃
15 Am chwe diwrnod y gweithir, ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth i orffwys, ac yn gysegredig i'r ARGLWYDD; rhoddir i farwolaeth bwy bynnag sy'n gweithio ar y dydd Saboth.
16ושמרו בני ישראל את השבת לעשות את השבת לדרתם ברית עולם׃
16 Am hynny, bydd pobl Israel yn dathlu'r Saboth ac yn ei gadw dros y cenedlaethau yn gyfamod tra-gwyddol.
17ביני ובין בני ישראל אות הוא לעלם כי ששת ימים עשה יהוה את השמים ואת הארץ וביום השביעי שבת וינפש׃
17 Y mae'n arwydd tragwyddol rhyngof a phobl Israel mai mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD y nefoedd a'r ddaear, ac iddo ymatal a gorffwys ar y seithfed dydd.'"
18ויתן אל משה ככלתו לדבר אתו בהר סיני שני לחת העדת לחת אבן כתבים באצבע אלהים׃
18 Wedi iddo orffen llefaru wrth Moses ar Fynydd Sinai, rhoddodd yr ARGLWYDD iddo ddwy lech y dystiolaeth, llechau o gerrig, wedi eu hysgrifennu � bys Duw.