1וירא העם כי בשש משה לרדת מן ההר ויקהל העם על אהרן ויאמרו אליו קום עשה לנו אלהים אשר ילכו לפנינו כי זה משה האיש אשר העלנו מארץ מצרים לא ידענו מה היה לו׃
1 Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dod i lawr o'r mynydd, daethant ynghyd at Aaron a dweud wrtho, "Cod, gwna inni dduwiau i fynd o'n blaen, oherwydd ni wyddom beth a ddig-wyddodd i'r Moses hwn a ddaeth � ni i fyny o wlad yr Aifft."
2ויאמר אלהם אהרן פרקו נזמי הזהב אשר באזני נשיכם בניכם ובנתיכם והביאו אלי׃
2 Dywedodd Aaron wrthynt, "Tynnwch y tlysau aur sydd ar glustiau eich gwragedd a'ch meibion a'ch merched, a dewch � hwy ataf fi."
3ויתפרקו כל העם את נזמי הזהב אשר באזניהם ויביאו אל אהרן׃
3 Felly tynnodd yr holl bobl eu clustlysau aur, a daethant � hwy at Aaron.
4ויקח מידם ויצר אתו בחרט ויעשהו עגל מסכה ויאמרו אלה אלהיך ישראל אשר העלוך מארץ מצרים׃
4 Cymerodd yntau y tlysau ganddynt, ac wedi eu trin � chu375?n, gwnaeth lo tawdd ohonynt. Dywedodd y bobl, "Dyma, O Israel, dy dduwiau a ddaeth � thi i fyny o wlad yr Aifft."
5וירא אהרן ויבן מזבח לפניו ויקרא אהרן ויאמר חג ליהוה מחר׃
5 Pan welodd Aaron y llo tawdd, adeiladodd allor o'i flaen a chyhoeddodd, "Yfory bydd gu373?yl i'r ARGLWYDD."
6וישכימו ממחרת ויעלו עלת ויגשו שלמים וישב העם לאכל ושתו ויקמו לצחק׃
6 Trannoeth codasant yn gynnar ac offrymu poethoffrymau, a dod � heddoffrymau; yna eisteddodd y bobl i fwyta ac yfed, ac ymroi i gyfeddach.
7וידבר יהוה אל משה לך רד כי שחת עמך אשר העלית מארץ מצרים׃
7 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Dos i lawr, oherwydd y mae'r bobl y daethost � hwy i fyny o wlad yr Aifft wedi eu halogi eu hunain.
8סרו מהר מן הדרך אשר צויתם עשו להם עגל מסכה וישתחוו לו ויזבחו לו ויאמרו אלה אלהיך ישראל אשר העלוך מארץ מצרים׃
8 Y maent wedi cilio'n gyflym oddi wrth y ffordd a orchmynnais iddynt; gwnaethant iddynt eu hunain lo tawdd, ac y maent wedi ei addoli ac aberthu iddo, a dweud, 'Dyma, O Israel, dy dduwiau a ddaeth � thi i fyny o wlad yr Aifft.'"
9ויאמר יהוה אל משה ראיתי את העם הזה והנה עם קשה ערף הוא׃
9 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Yr wyf wedi gweld mor wargaled yw'r bobl hyn;
10ועתה הניחה לי ויחר אפי בהם ואכלם ואעשה אותך לגוי גדול׃
10 yn awr, gad lonydd imi er mwyn i'm llid ennyn yn eu herbyn a'u difa; ond ohonot ti fe wnaf genedl fawr."
11ויחל משה את פני יהוה אלהיו ויאמר למה יהוה יחרה אפך בעמך אשר הוצאת מארץ מצרים בכח גדול וביד חזקה׃
11 Ymbiliodd Moses �'r ARGLWYDD ei Dduw, a dweud, "O ARGLWYDD, pam y mae dy lid yn ennyn yn erbyn dy bobl a ddygaist allan o wlad yr Aifft � nerth mawr ac � llaw gadarn?
12למה יאמרו מצרים לאמר ברעה הוציאם להרג אתם בהרים ולכלתם מעל פני האדמה שוב מחרון אפך והנחם על הרעה לעמך׃
12 Pam y caiff yr Eifftiaid ddweud, '� malais yr aeth � hwy allan, er mwyn eu lladd yn y mynyddoedd a'u difa oddi ar wyneb y ddaear'? Tro oddi wrth dy lid angerddol, a bydd edifar am iti fwriadu drwg i'th bobl.
13זכר לאברהם ליצחק ולישראל עבדיך אשר נשבעת להם בך ותדבר אלהם ארבה את זרעכם ככוכבי השמים וכל הארץ הזאת אשר אמרתי אתן לזרעכם ונחלו לעלם׃
13 Cofia Abraham, Isaac ac Israel, dy weision y tyngaist iddynt yn d'enw dy hun a dweud, 'Amlhaf eich disgynyddion fel s�r y nefoedd, a rhoddaf yr holl wlad hon iddynt, fel yr addewais, yn etifeddiaeth am byth.'"
14וינחם יהוה על הרעה אשר דבר לעשות לעמו׃
14 Yna bu'n edifar gan yr ARGLWYDD am iddo fwriadu drwg i'w bobl.
15ויפן וירד משה מן ההר ושני לחת העדת בידו לחת כתבים משני עבריהם מזה ומזה הם כתבים׃
15 Trodd Moses, a mynd i lawr o'r mynydd � dwy lech y dystiolaeth yn ei law, llechau ag ysgrifen ar y ddau wyneb iddynt.
16והלחת מעשה אלהים המה והמכתב מכתב אלהים הוא חרות על הלחת׃
16 Yr oedd y llechau o waith Duw, ac ysgrifen Duw wedi ei cherfio arnynt.
17וישמע יהושע את קול העם ברעה ויאמר אל משה קול מלחמה במחנה׃
17 Pan glywodd Josua su373?n y bobl yn bloeddio, dywedodd wrth Moses, "Y mae su373?n rhyfel yn y gwersyll."
18ויאמר אין קול ענות גבורה ואין קול ענות חלושה קול ענות אנכי שמע׃
18 Ond meddai yntau, "Nid su373?n gorchfygwyr yn bloeddio na rhai a drechwyd yn gweiddi a glywaf fi, ond su373?n canu."
19ויהי כאשר קרב אל המחנה וירא את העגל ומחלת ויחר אף משה וישלך מידו את הלחת וישבר אתם תחת ההר׃
19 Pan ddaeth yn agos at y gwersyll, a gweld y llo a'r dawnsio, gwylltiodd Moses, a thaflu'r llechau o'i ddwylo a'u torri'n deilchion wrth droed y mynydd.
20ויקח את העגל אשר עשו וישרף באש ויטחן עד אשר דק ויזר על פני המים וישק את בני ישראל׃
20 Cymerodd y llo a wnaethant, a'i losgi � th�n; fe'i malodd yn llwch a'i gymysgu � du373?r, a gwnaeth i bobl Israel ei yfed.
21ויאמר משה אל אהרן מה עשה לך העם הזה כי הבאת עליו חטאה גדלה׃
21 Dywedodd Moses wrth Aaron, "Beth a wnaeth y bobl hyn i ti, i beri iti ddwyn arnynt y fath bechod?"
22ויאמר אהרן אל יחר אף אדני אתה ידעת את העם כי ברע הוא׃
22 Atebodd Aaron ef: "Paid � digio, f'arglwydd; fe wyddost am y bobl, eu bod �'u bryd ar wneud drygioni.
23ויאמרו לי עשה לנו אלהים אשר ילכו לפנינו כי זה משה האיש אשר העלנו מארץ מצרים לא ידענו מה היה לו׃
23 Dywedasant wrthyf, 'Gwna inni dduwiau i fynd o'n blaen, oherwydd ni wyddom beth a ddigwyddodd i'r Moses hwn a ddaeth � ni i fyny o wlad yr Aifft'.
24ואמר להם למי זהב התפרקו ויתנו לי ואשלכהו באש ויצא העגל הזה׃
24 Dywedais innau wrthynt, 'Y mae pawb sydd � thlysau aur ganddynt i'w tynnu i ffwrdd'. Rhoesant yr aur i mi, ac fe'i teflais yn y t�n; yna daeth y llo hwn allan."
25וירא משה את העם כי פרע הוא כי פרעה אהרן לשמצה בקמיהם׃
25 Gwelodd Moses fod y bobl yn afreolus, a bod Aaron wedi gadael iddynt fynd felly, a'u gwneud yn waradwydd ymysg eu gelynion.
26ויעמד משה בשער המחנה ויאמר מי ליהוה אלי ויאספו אליו כל בני לוי׃
26 Yna safodd Moses wrth borth y gwersyll, a dweud, "Pwy bynnag sydd o blaid yr ARGLWYDD, doed ataf fi." Ymgasglodd holl feibion Lefi ato,
27ויאמר להם כה אמר יהוה אלהי ישראל שימו איש חרבו על ירכו עברו ושובו משער לשער במחנה והרגו איש את אחיו ואיש את רעהו ואיש את קרבו׃
27 a dywedodd wrthynt, "Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: 'Bydded i bob un ohonoch osod ei gleddyf ar ei glun a mynd yn �l a blaen drwy'r gwersyll, o ddrws i ddrws, a lladded pob un ei frawd, ei gyfaill a'i gymydog.'"
28ויעשו בני לוי כדבר משה ויפל מן העם ביום ההוא כשלשת אלפי איש׃
28 Gwnaeth meibion Lefi yn �l gorchymyn Moses, a'r diwrnod hwnnw syrthiodd tua thair mil o'r bobl.
29ויאמר משה מלאו ידכם היום ליהוה כי איש בבנו ובאחיו ולתת עליכם היום ברכה׃
29 Dywedodd Moses, "Heddiw yr ydych wedi'ch ordeinio i'r ARGLWYDD, pob un ar draul ei fab a'i frawd, er mwyn iddo ef eich bendithio'r dydd hwn."
30ויהי ממחרת ויאמר משה אל העם אתם חטאתם חטאה גדלה ועתה אעלה אל יהוה אולי אכפרה בעד חטאתכם׃
30 Trannoeth dywedodd Moses wrth y bobl, "Yr ydych wedi pechu'n ddirfawr. Yr wyf am fynd, yn awr, i fyny at yr ARGLWYDD; efallai y caf wneud cymod dros eich pechod."
31וישב משה אל יהוה ויאמר אנא חטא העם הזה חטאה גדלה ויעשו להם אלהי זהב׃
31 Dychwelodd Moses at yr ARGLWYDD a dweud, "Och! Y mae'r bobl hyn wedi pechu'n ddirfawr trwy wneud iddynt eu hunain dduwiau o aur.
32ועתה אם תשא חטאתם ואם אין מחני נא מספרך אשר כתבת׃
32 Yn awr, os wyt am faddau eu pechod, maddau; ond os nad wyt, dilea fi o'r llyfr a ysgrifennaist."
33ויאמר יהוה אל משה מי אשר חטא לי אמחנו מספרי׃
33 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Y sawl a bechodd yn f'erbyn a ddileaf o'm llyfr.
34ועתה לך נחה את העם אל אשר דברתי לך הנה מלאכי ילך לפניך וביום פקדי ופקדתי עליהם חטאתם׃
34 Yn awr, dos, ac arwain y bobl i'r lle y dywedais wrthyt, a bydd fy angel yn mynd o'th flaen. Ond fe ddaw dydd pan ymwelaf � hwy am eu pechod."
35ויגף יהוה את העם על אשר עשו את העגל אשר עשה אהרן׃
35 Anfonodd yr ARGLWYDD bla ar y bobl am yr hyn a wnaethant �'r llo a luniodd Aaron.