Hebrew: Modern

Welsh

Genesis

1

1בראשית ברא אלהים את השמים ואת הארץ׃
1 Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a'r ddaear.
2והארץ היתה תהו ובהו וחשך על פני תהום ורוח אלהים מרחפת על פני המים׃
2 Yr oedd y ddaear yn afluniaidd a gwag, ac yr oedd tywyllwch ar wyneb y dyfnder, ac ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd.
3ויאמר אלהים יהי אור ויהי אור׃
3 A dywedodd Duw, "Bydded goleuni." A bu goleuni.
4וירא אלהים את האור כי טוב ויבדל אלהים בין האור ובין החשך׃
4 Gwelodd Duw fod y goleuni yn dda; a gwahanodd Duw y goleuni oddi wrth y tywyllwch.
5ויקרא אלהים לאור יום ולחשך קרא לילה ויהי ערב ויהי בקר יום אחד׃
5 Galwodd Duw y goleuni yn ddydd a'r tywyllwch yn nos. A bu hwyr a bu bore, y dydd cyntaf.
6ויאמר אלהים יהי רקיע בתוך המים ויהי מבדיל בין מים למים׃
6 Yna dywedodd Duw, "Bydded ffurfafen yng nghanol y dyfroedd yn gwahanu dyfroedd oddi wrth ddyfroedd."
7ויעש אלהים את הרקיע ויבדל בין המים אשר מתחת לרקיע ובין המים אשר מעל לרקיע ויהי כן׃
7 A gwnaeth Duw y ffurfafen, a gwahanodd y dyfroedd odani oddi wrth y dyfroedd uwchlaw iddi. A bu felly.
8ויקרא אלהים לרקיע שמים ויהי ערב ויהי בקר יום שני׃
8 Galwodd Duw y ffurfafen yn nefoedd. A bu hwyr a bu bore, yr ail ddydd.
9ויאמר אלהים יקוו המים מתחת השמים אל מקום אחד ותראה היבשה ויהי כן׃
9 Yna dywedodd Duw, "Casgler ynghyd y dyfroedd dan y nefoedd i un lle, ac ymddangosed tir sych." A bu felly.
10ויקרא אלהים ליבשה ארץ ולמקוה המים קרא ימים וירא אלהים כי טוב׃
10 Galwodd Duw y tir sych yn ddaear, a chronfa'r dyfroedd yn foroedd. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
11ויאמר אלהים תדשא הארץ דשא עשב מזריע זרע עץ פרי עשה פרי למינו אשר זרעו בו על הארץ ויהי כן׃
11 Dywedodd Duw, "Dyged y ddaear dyfiant, llysiau yn dwyn had, a choed ir ar y ddaear yn dwyn ffrwyth � had ynddo, yn �l eu rhywogaeth." A bu felly.
12ותוצא הארץ דשא עשב מזריע זרע למינהו ועץ עשה פרי אשר זרעו בו למינהו וירא אלהים כי טוב׃
12 Dygodd y ddaear dyfiant, llysiau yn dwyn had yn �l eu rhywogaeth, a choed yn dwyn ffrwyth � had ynddo, yn �l eu rhywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
13ויהי ערב ויהי בקר יום שלישי׃
13 A bu hwyr a bu bore, y trydydd dydd.
14ויאמר אלהים יהי מארת ברקיע השמים להבדיל בין היום ובין הלילה והיו לאתת ולמועדים ולימים ושנים׃
14 Yna dywedodd Duw, "Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd i wahanu'r dydd oddi wrth y nos, ac i fod yn arwyddion i'r tymhorau, a hefyd i'r dyddiau a'r blynyddoedd.
15והיו למאורת ברקיע השמים להאיר על הארץ ויהי כן׃
15 Bydded iddynt fod yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd i oleuo ar y ddaear." A bu felly.
16ויעש אלהים את שני המארת הגדלים את המאור הגדל לממשלת היום ואת המאור הקטן לממשלת הלילה ואת הכוכבים׃
16 Gwnaeth Duw y ddau olau mawr, y golau mwyaf i reoli'r dydd, a'r golau lleiaf y nos; a gwnaeth y s�r hefyd.
17ויתן אתם אלהים ברקיע השמים להאיר על הארץ׃
17 A gosododd Duw hwy yn ffurfafen y nefoedd i oleuo ar y ddaear,
18ולמשל ביום ובלילה ולהבדיל בין האור ובין החשך וירא אלהים כי טוב׃
18 i reoli'r dydd a'r nos ac i wahanu'r goleuni oddi wrth y tywyllwch. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
19ויהי ערב ויהי בקר יום רביעי׃
19 A bu hwyr a bu bore, y pedwerydd dydd.
20ויאמר אלהים ישרצו המים שרץ נפש חיה ועוף יעופף על הארץ על פני רקיע השמים׃
20 Yna dywedodd Duw, "Heigied y dyfroedd o greaduriaid byw, ac uwchlaw'r ddaear eheded adar ar draws ffurfafen y nefoedd."
21ויברא אלהים את התנינם הגדלים ואת כל נפש החיה הרמשת אשר שרצו המים למינהם ואת כל עוף כנף למינהו וירא אלהים כי טוב׃
21 A chreodd Duw y morfilod mawr, a'r holl greaduriaid byw sy'n heigio yn y dyfroedd yn �l eu rhywogaeth, a phob aderyn asgellog yn �l ei rywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
22ויברך אתם אלהים לאמר פרו ורבו ומלאו את המים בימים והעוף ירב בארץ׃
22 Bendithiodd Duw hwy a dweud, "Byddwch ffrwythlon ac amlhewch a llanwch ddyfroedd y moroedd, a lluosoged yr adar ar y ddaear."
23ויהי ערב ויהי בקר יום חמישי׃
23 A bu hwyr a bu bore, y pumed dydd.
24ויאמר אלהים תוצא הארץ נפש חיה למינה בהמה ורמש וחיתו ארץ למינה ויהי כן׃
24 Yna dywedodd Duw, "Dyged y ddaear greaduriaid byw yn �l eu rhywogaeth: anifeiliaid, ymlusgiaid a bwystfilod gwyllt yn �l eu rhywogaeth." A bu felly.
25ויעש אלהים את חית הארץ למינה ואת הבהמה למינה ואת כל רמש האדמה למינהו וירא אלהים כי טוב׃
25 Gwnaeth Duw y bwystfilod gwyllt yn �l eu rhywogaeth, a'r anifeiliaid yn �l eu rhywogaeth, a holl ymlusgiaid y tir yn �l eu rhywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
26ויאמר אלהים נעשה אדם בצלמנו כדמותנו וירדו בדגת הים ובעוף השמים ובבהמה ובכל הארץ ובכל הרמש הרמש על הארץ׃
26 Dywedodd Duw, "Gwnawn ddyn ar ein delw, yn �l ein llun ni, i lywodraethu ar bysgod y m�r, ar adar yr awyr, ar yr anifeiliaid gwyllt, ar yr holl ddaear, ac ar bopeth sy'n ymlusgo ar y ddaear."
27ויברא אלהים את האדם בצלמו בצלם אלהים ברא אתו זכר ונקבה ברא אתם׃
27 Felly creodd Duw ddyn ar ei ddelw ei hun; ar ddelw Duw y creodd ef; yn wryw ac yn fenyw y creodd hwy.
28ויברך אתם אלהים ויאמר להם אלהים פרו ורבו ומלאו את הארץ וכבשה ורדו בדגת הים ובעוף השמים ובכל חיה הרמשת על הארץ׃
28 Bendithiodd Duw hwy a dweud, "Byddwch ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a darostyngwch hi; llywodraethwch ar bysgod y m�r, ar adar yr awyr, ac ar bopeth byw sy'n ymlusgo ar y ddaear."
29ויאמר אלהים הנה נתתי לכם את כל עשב זרע זרע אשר על פני כל הארץ ואת כל העץ אשר בו פרי עץ זרע זרע לכם יהיה לאכלה׃
29 A dywedodd Duw, "Yr wyf yn rhoi i chwi bob llysieuyn sy'n dwyn had ar wyneb y ddaear, a phob coeden � had yn ei ffrwyth; byddant yn fwyd i chwi.
30ולכל חית הארץ ולכל עוף השמים ולכל רומש על הארץ אשר בו נפש חיה את כל ירק עשב לאכלה ויהי כן׃
30 Ac i bob bwystfil gwyllt, i holl adar yr awyr, ac i bopeth sy'n ymlusgo ar y ddaear, popeth ag anadl einioes ynddo, bydd pob llysieuyn glas yn fwyd." A bu felly.
31וירא אלהים את כל אשר עשה והנה טוב מאד ויהי ערב ויהי בקר יום הששי׃
31 Gwelodd Duw y cwbl a wnaeth, ac yr oedd yn dda iawn. A bu hwyr a bu bore, y chweched dydd.