1ויכלו השמים והארץ וכל צבאם׃
1 Felly gorffennwyd y nefoedd a'r ddaear a'u holl luoedd.
2ויכל אלהים ביום השביעי מלאכתו אשר עשה וישבת ביום השביעי מכל מלאכתו אשר עשה׃
2 Ac erbyn y seithfed dydd yr oedd Duw wedi gorffen y gwaith a wnaeth, a gorffwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith.
3ויברך אלהים את יום השביעי ויקדש אתו כי בו שבת מכל מלאכתו אשר ברא אלהים לעשות׃
3 Am hynny bendithiodd Duw y seithfed dydd a'i sancteiddio, am mai ar hwnnw y gorffwysodd Duw oddi wrth ei holl waith yn creu.
4אלה תולדות השמים והארץ בהבראם ביום עשות יהוה אלהים ארץ ושמים׃
4 Dyma hanes cenhedlu'r nefoedd a'r ddaear pan grewyd hwy. Yn y dydd y gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw ddaear a nefoedd,
5וכל שיח השדה טרם יהיה בארץ וכל עשב השדה טרם יצמח כי לא המטיר יהוה אלהים על הארץ ואדם אין לעבד את האדמה׃
5 nid oedd un o blanhigion y maes wedi dod ar y tir, nac un o lysiau'r maes wedi blaguro, am nad oedd yr ARGLWYDD Dduw eto wedi peri iddi lawio ar y ddaear, ac nad oedd yno ddyn i drin y tir;
6ואד יעלה מן הארץ והשקה את כל פני האדמה׃
6 ond yr oedd tarth yn esgyn o'r ddaear ac yn dyfrhau holl wyneb y tir.
7וייצר יהוה אלהים את האדם עפר מן האדמה ויפח באפיו נשמת חיים ויהי האדם לנפש חיה׃
7 Yna lluniodd yr ARGLWYDD Dduw ddyn o lwch y tir, ac anadlodd yn ei ffroenau anadl einioes; a daeth y dyn yn greadur byw.
8ויטע יהוה אלהים גן בעדן מקדם וישם שם את האדם אשר יצר׃
8 A phlannodd yr ARGLWYDD Dduw ardd yn Eden, tua'r dwyrain; a gosododd yno y dyn yr oedd wedi ei lunio.
9ויצמח יהוה אלהים מן האדמה כל עץ נחמד למראה וטוב למאכל ועץ החיים בתוך הגן ועץ הדעת טוב ורע׃
9 A gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw i bob coeden ddymunol i'r golwg, a da i fwyta ohoni, dyfu o'r tir; ac yr oedd pren y bywyd yng nghanol yr ardd, a phren gwybodaeth da a drwg.
10ונהר יצא מעדן להשקות את הגן ומשם יפרד והיה לארבעה ראשים׃
10 Yr oedd afon yn llifo allan o Eden i ddyfrhau'r ardd, ac oddi yno yr oedd yn ymrannu'n bedair.
11שם האחד פישון הוא הסבב את כל ארץ החוילה אשר שם הזהב׃
11 Enw'r afon gyntaf yw Pison; hon sy'n amgylchu holl wlad Hafila, lle y ceir aur;
12וזהב הארץ ההוא טוב שם הבדלח ואבן השהם׃
12 y mae aur y wlad honno'n dda, ac yno ceir bdeliwm a'r maen onyx.
13ושם הנהר השני גיחון הוא הסובב את כל ארץ כוש׃
13 Enw'r ail yw Gihon; hon sy'n amgylchu holl wlad Ethiopia.
14ושם הנהר השלישי חדקל הוא ההלך קדמת אשור והנהר הרביעי הוא פרת׃
14 Ac enw'r drydedd yw Tigris; hon sy'n llifo o'r tu dwyrain i Asyria. A'r bedwaredd afon yw Ewffrates.
15ויקח יהוה אלהים את האדם וינחהו בגן עדן לעבדה ולשמרה׃
15 Cymerodd yr ARGLWYDD Dduw y dyn a'i osod yng ngardd Eden, i'w thrin a'i chadw.
16ויצו יהוה אלהים על האדם לאמר מכל עץ הגן אכל תאכל׃
16 Rhoddodd yr ARGLWYDD Dduw orchymyn i'r dyn, a dweud, "Cei fwyta'n rhydd o bob coeden yn yr ardd,
17ומעץ הדעת טוב ורע לא תאכל ממנו כי ביום אכלך ממנו מות תמות׃
17 ond ni chei fwyta o bren gwybodaeth da a drwg, oherwydd y dydd y bwytei ohono ef, byddi'n sicr o farw."
18ויאמר יהוה אלהים לא טוב היות האדם לבדו אעשה לו עזר כנגדו׃
18 Dywedodd yr ARGLWYDD Dduw hefyd, "Nid da bod y dyn ar ei ben ei hun; gwnaf iddo ymgeledd cymwys."
19ויצר יהוה אלהים מן האדמה כל חית השדה ואת כל עוף השמים ויבא אל האדם לראות מה יקרא לו וכל אשר יקרא לו האדם נפש חיה הוא שמו׃
19 Felly fe luniodd yr ARGLWYDD Dduw o'r ddaear yr holl fwystfilod gwyllt a holl adar yr awyr, a daeth � hwy at y dyn i weld pa enw a roddai arnynt; a pha enw bynnag a roes y dyn ar unrhyw greadur, dyna fu ei enw.
20ויקרא האדם שמות לכל הבהמה ולעוף השמים ולכל חית השדה ולאדם לא מצא עזר כנגדו׃
20 Rhoes y dyn enw ar yr holl anifeiliaid, ar adar yr awyr, ac ar yr holl fwystfilod gwyllt; ond ni chafodd ymgeledd cymwys iddo'i hun.
21ויפל יהוה אלהים תרדמה על האדם ויישן ויקח אחת מצלעתיו ויסגר בשר תחתנה׃
21 Yna parodd yr ARGLWYDD Dduw i drymgwsg syrthio ar y dyn, a thra oedd yn cysgu, cymerodd un o'i asennau a chau ei lle � chnawd;
22ויבן יהוה אלהים את הצלע אשר לקח מן האדם לאשה ויבאה אל האדם׃
22 ac o'r asen a gymerodd gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw wraig, a daeth � hi at y dyn.
23ויאמר האדם זאת הפעם עצם מעצמי ובשר מבשרי לזאת יקרא אשה כי מאיש לקחה זאת׃
23 A dywedodd y dyn, "Dyma hi! Asgwrn o'm hesgyrn, a chnawd o'm cnawd. Gelwir hi yn wraig, am mai o u373?r y cymerwyd hi."
24על כן יעזב איש את אביו ואת אמו ודבק באשתו והיו לבשר אחד׃
24 Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam, ac yn glynu wrth ei wraig, a byddant yn un cnawd.
25ויהיו שניהם ערומים האדם ואשתו ולא יתבששו׃
25 Yr oedd y dyn a'i wraig ill dau yn noeth, ac nid oedd arnynt gywilydd.