1והנחש היה ערום מכל חית השדה אשר עשה יהוה אלהים ויאמר אל האשה אף כי אמר אלהים לא תאכלו מכל עץ הגן׃
1 Yr oedd y sarff yn fwy cyfrwys na'r holl fwystfilod gwyllt a wnaed gan yr ARGLWYDD Dduw. A dywedodd wrth y wraig, "A yw Duw yn wir wedi dweud, 'Ni chewch fwyta o'r un o goed yr ardd'?"
2ותאמר האשה אל הנחש מפרי עץ הגן נאכל׃
2 Dywedodd y wraig wrth y sarff, "Cawn fwyta o ffrwyth coed yr ardd,
3ומפרי העץ אשר בתוך הגן אמר אלהים לא תאכלו ממנו ולא תגעו בו פן תמתון׃
3 ond am ffrwyth y goeden sydd yng nghanol yr ardd dywedodd Duw, 'Peidiwch � bwyta ohono, na chyffwrdd ag ef, rhag ichwi farw.'"
4ויאמר הנחש אל האשה לא מות תמתון׃
4 Ond dywedodd y sarff wrth y wraig, "Na! ni fyddwch farw;
5כי ידע אלהים כי ביום אכלכם ממנו ונפקחו עיניכם והייתם כאלהים ידעי טוב ורע׃
5 ond fe u373?yr Duw yr agorir eich llygaid y dydd y bwytewch ohono, a byddwch fel Duw yn gwybod da a drwg."
6ותרא האשה כי טוב העץ למאכל וכי תאוה הוא לעינים ונחמד העץ להשכיל ותקח מפריו ותאכל ותתן גם לאישה עמה ויאכל׃
6 A phan ddeallodd y wraig fod y pren yn dda i fwyta ohono, a'i fod yn deg i'r golwg ac yn bren i'w ddymuno i beri doethineb, cymerodd o'i ffrwyth a'i fwyta, a'i roi hefyd i'w gu373?r oedd gyda hi, a bwytaodd yntau.
7ותפקחנה עיני שניהם וידעו כי עירמם הם ויתפרו עלה תאנה ויעשו להם חגרת׃
7 Yna agorwyd eu llygaid hwy ill dau i wybod eu bod yn noeth, a gwn�asant ddail ffigysbren i wneud ffedogau iddynt eu hunain.
8וישמעו את קול יהוה אלהים מתהלך בגן לרוח היום ויתחבא האדם ואשתו מפני יהוה אלהים בתוך עץ הגן׃
8 A chlywsant su373?n yr ARGLWYDD Dduw yn rhodio yn yr ardd gyda hwyr y dydd, ac ymguddiodd y dyn a'i wraig o olwg yr ARGLWYDD Dduw ymysg coed yr ardd.
9ויקרא יהוה אלהים אל האדם ויאמר לו איכה׃
9 Ond galwodd yr ARGLWYDD Dduw ar y dyn, a dweud wrtho, "Ble'r wyt ti?"
10ויאמר את קלך שמעתי בגן ואירא כי עירם אנכי ואחבא׃
10 Atebodd yntau, "Clywais dy su373?n yn yr ardd, ac ofnais oherwydd fy mod yn noeth, ac ymguddiais."
11ויאמר מי הגיד לך כי עירם אתה המן העץ אשר צויתיך לבלתי אכל ממנו אכלת׃
11 Dywedodd yntau, "Pwy a ddywedodd wrthyt dy fod yn noeth? A wyt ti wedi bwyta o'r pren y gorchmynnais iti beidio � bwyta ohono?"
12ויאמר האדם האשה אשר נתתה עמדי הוא נתנה לי מן העץ ואכל׃
12 A dywedodd y dyn, "Y wraig a roddaist i fod gyda mi a roes i mi o ffrwyth y pren, a bwyteais innau."
13ויאמר יהוה אלהים לאשה מה זאת עשית ותאמר האשה הנחש השיאני ואכל׃
13 Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw wrth y wraig, "Pam y gwnaethost hyn?" A dywedodd y wraig, "Y sarff a'm twyllodd, a bwyteais innau."
14ויאמר יהוה אלהים אל הנחש כי עשית זאת ארור אתה מכל הבהמה ומכל חית השדה על גחנך תלך ועפר תאכל כל ימי חייך׃
14 Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw wrth y sarff: "Am iti wneud hyn, yr wyt yn fwy melltigedig na'r holl anifeiliaid, ac na'r holl fwystfilod gwyllt; byddi'n ymlusgo ar dy dor, ac yn bwyta llwch holl ddyddiau dy fywyd.
15ואיבה אשית בינך ובין האשה ובין זרעך ובין זרעה הוא ישופך ראש ואתה תשופנו עקב׃
15 Gosodaf elyniaeth hefyd rhyngot ti a'r wraig, a rhwng dy had di a'i had hithau; bydd ef yn ysigo dy ben di, a thithau'n ysigo'i sawdl ef."
16אל האשה אמר הרבה ארבה עצבונך והרנך בעצב תלדי בנים ואל אישך תשוקתך והוא ימשל בך׃
16 Dywedodd wrth y wraig: "Byddaf yn amlhau yn ddirfawr dy boen a'th wewyr; mewn poen y byddi'n geni plant. Eto bydd dy ddyhead am dy u373?r, a bydd ef yn llywodraethu arnat."
17ולאדם אמר כי שמעת לקול אשתך ותאכל מן העץ אשר צויתיך לאמר לא תאכל ממנו ארורה האדמה בעבורך בעצבון תאכלנה כל ימי חייך׃
17 Dywedodd wrth Adda: "Am iti wrando ar lais dy wraig, a bwyta o'r pren y gorchmynnais i ti beidio � bwyta ohono, melltigedig yw'r ddaear o'th achos; trwy lafur y bwytei ohoni holl ddyddiau dy fywyd.
18וקוץ ודרדר תצמיח לך ואכלת את עשב השדה׃
18 Bydd yn rhoi iti ddrain ac ysgall, a byddi'n bwyta llysiau gwyllt.
19בזעת אפיך תאכל לחם עד שובך אל האדמה כי ממנה לקחת כי עפר אתה ואל עפר תשוב׃
19 Trwy chwys dy wyneb y byddi'n bwyta bara hyd oni ddychweli i'r pridd, oherwydd ohono y'th gymerwyd; llwch wyt ti, ac i'r llwch y dychweli."
20ויקרא האדם שם אשתו חוה כי הוא היתה אם כל חי׃
20 Rhoddodd y dyn i'w wraig yr enw Efa, am mai hi oedd mam pob un byw.
21ויעש יהוה אלהים לאדם ולאשתו כתנות עור וילבשם׃
21 A gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw beisiau crwyn i Adda a'i wraig, a'u gwisgo amdanynt.
22ויאמר יהוה אלהים הן האדם היה כאחד ממנו לדעת טוב ורע ועתה פן ישלח ידו ולקח גם מעץ החיים ואכל וחי לעלם׃
22 Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw, "Edrychwch, y mae'r dyn fel un ohonom ni, yn gwybod da a drwg. Yn awr, rhaid iddo beidio ag estyn ei law a chymryd hefyd o bren y bywyd, a bwyta, a byw hyd byth."
23וישלחהו יהוה אלהים מגן עדן לעבד את האדמה אשר לקח משם׃
23 Am hynny anfonodd yr ARGLWYDD Dduw ef allan o ardd Eden, i drin y tir y cymerwyd ef ohono.
24ויגרש את האדם וישכן מקדם לגן עדן את הכרבים ואת להט החרב המתהפכת לשמר את דרך עץ החיים׃
24 Gyrrodd y dyn allan; a gosododd gerwbiaid i'r dwyrain o ardd Eden, a chleddyf fflamllyd yn chwyrl�o, i warchod y ffordd at bren y bywyd.