1והאדם ידע את חוה אשתו ותהר ותלד את קין ותאמר קניתי איש את יהוה׃
1 Cafodd Adda gyfathrach �'i wraig Efa, a beichiogodd ac esgor ar Cain, a dywedodd, "Dygais u373?r trwy yr ARGLWYDD."
2ותסף ללדת את אחיו את הבל ויהי הבל רעה צאן וקין היה עבד אדמה׃
2 Esgorodd wedyn ar ei frawd Abel. Bugail defaid oedd Abel, a Cain yn trin y tir.
3ויהי מקץ ימים ויבא קין מפרי האדמה מנחה ליהוה׃
3 Ymhen amser daeth Cain ag offrwm o gynnyrch y tir i'r ARGLWYDD,
4והבל הביא גם הוא מבכרות צאנו ומחלבהן וישע יהוה אל הבל ואל מנחתו׃
4 a daeth Abel yntau � blaenffrwyth ei ddefaid, sef eu braster.
5ואל קין ואל מנחתו לא שעה ויחר לקין מאד ויפלו פניו׃
5 Edrychodd yr ARGLWYDD yn ffafriol ar Abel a'i offrwm, ond nid felly ar Cain a'i offrwm. Digiodd Cain yn ddirfawr, a bu'n wynepdrist.
6ויאמר יהוה אל קין למה חרה לך ולמה נפלו פניך׃
6 Ac meddai'r ARGLWYDD wrth Cain, "Pam yr wyt wedi digio? Pam yr wyt yn wynepdrist?
7הלוא אם תיטיב שאת ואם לא תיטיב לפתח חטאת רבץ ואליך תשוקתו ואתה תמשל בו׃
7 Os gwnei yn dda, oni fyddi'n gymeradwy? Ac oni wnei yn dda, y mae pechod yn llercian wrth y drws; y mae ei wanc amdanat, ond rhaid i ti ei drechu."
8ויאמר קין אל הבל אחיו ויהי בהיותם בשדה ויקם קין אל הבל אחיו ויהרגהו׃
8 A dywedodd Cain wrth Abel ei frawd, "Gad inni fynd i'r maes." A phan oeddent yn y maes, troes Cain ar Abel ei frawd, a'i ladd.
9ויאמר יהוה אל קין אי הבל אחיך ויאמר לא ידעתי השמר אחי אנכי׃
9 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Cain, "Ble mae dy frawd Abel?" Meddai yntau, "Ni wn i. Ai fi yw ceidwad fy mrawd?"
10ויאמר מה עשית קול דמי אחיך צעקים אלי מן האדמה׃
10 A dywedodd Duw, "Beth wyt wedi ei wneud? Y mae llef gwaed dy frawd yn gweiddi arnaf o'r pridd.
11ועתה ארור אתה מן האדמה אשר פצתה את פיה לקחת את דמי אחיך מידך׃
11 Yn awr, melltigedig fyddi gan y pridd a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o'th law.
12כי תעבד את האדמה לא תסף תת כחה לך נע ונד תהיה בארץ׃
12 Pan fyddi'n trin y pridd, ni fydd mwyach yn rhoi ei ffrwyth iti; ffoadur a chrwydryn fyddi ar y ddaear."
13ויאמר קין אל יהוה גדול עוני מנשא׃
13 Yna meddai Cain wrth yr ARGLWYDD, "Y mae fy nghosb yn ormod i'w dwyn.
14הן גרשת אתי היום מעל פני האדמה ומפניך אסתר והייתי נע ונד בארץ והיה כל מצאי יהרגני׃
14 Dyma ti heddiw yn fy ngyrru ymaith o'r tir, ac fe'm cuddir o'th u373?ydd; ffoadur a chrwydryn fyddaf ar y ddaear, a bydd pwy bynnag a ddaw ar fy nhraws yn fy lladd."
15ויאמר לו יהוה לכן כל הרג קין שבעתים יקם וישם יהוה לקין אות לבלתי הכות אתו כל מצאו׃
15 Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Nid felly; os bydd i rywun ladd Cain, dielir arno seithwaith." A gosododd yr ARGLWYDD nod ar Cain, rhag i neb a dd�i ar ei draws ei ladd.
16ויצא קין מלפני יהוה וישב בארץ נוד קדמת עדן׃
16 Yna aeth Cain ymaith o u373?ydd yr ARGLWYDD, a phreswylio yn nhir Nod, i'r dwyrain o Eden.
17וידע קין את אשתו ותהר ותלד את חנוך ויהי בנה עיר ויקרא שם העיר כשם בנו חנוך׃
17 Cafodd Cain gyfathrach �'i wraig, a beichiogodd ac esgor ar Enoch; ac adeiladodd ddinas, a'i galw ar �l ei fab, Enoch.
18ויולד לחנוך את עירד ועירד ילד את מחויאל ומחייאל ילד את מתושאל ומתושאל ילד את למך׃
18 Ac i Enoch ganwyd Irad; Irad oedd tad Mehwiael, Mehwiael oedd tad Methwsael, a Methwsael oedd tad Lamech.
19ויקח לו למך שתי נשים שם האחת עדה ושם השנית צלה׃
19 Cymerodd Lamech ddwy wraig; Ada oedd enw'r gyntaf, a Sila oedd enw'r ail.
20ותלד עדה את יבל הוא היה אבי ישב אהל ומקנה׃
20 Esgorodd Ada ar Jabal; ef oedd tad pob preswylydd pabell a pherchen anifail.
21ושם אחיו יובל הוא היה אבי כל תפש כנור ועוגב׃
21 Enw ei frawd oedd Jwbal; ef oedd tad pob canwr telyn a phib.
22וצלה גם הוא ילדה את תובל קין לטש כל חרש נחשת וברזל ואחות תובל קין נעמה׃
22 Esgorodd Sila, y wraig arall, ar Twbal-Cain, cyfarwyddwr pob un sy'n gwneud cywreinwaith pres a haearn. Naama oedd chwaer Twbal-Cain.
23ויאמר למך לנשיו עדה וצלה שמען קולי נשי למך האזנה אמרתי כי איש הרגתי לפצעי וילד לחברתי׃
23 A dywedodd Lamech wrth ei wragedd: "Ada a Sila, clywch fy llais; chwi wragedd Lamech, gwrandewch fy lleferydd; lleddais u373?r am fy archolli, a llanc am fy nghleisio.
24כי שבעתים יקם קין ולמך שבעים ושבעה׃
24 Os dielir am Cain seithwaith, yna Lamech saith ddengwaith a seithwaith."
25וידע אדם עוד את אשתו ותלד בן ותקרא את שמו שת כי שת לי אלהים זרע אחר תחת הבל כי הרגו קין׃
25 Cafodd Adda gyfathrach �'i wraig eto, ac esgorodd ar fab, a'i alw'n Seth, a dweud, "Darparodd Duw i mi fab arall yn lle Abel, am i Cain ei ladd."
26ולשת גם הוא ילד בן ויקרא את שמו אנוש אז הוחל לקרא בשם יהוה׃
26 I Seth hefyd fe anwyd mab, a galwodd ef yn Enos. Yr amser hwnnw y dechreuwyd galw ar enw yr ARGLWYDD.