Hebrew: Modern

Welsh

Genesis

5

1זה ספר תולדת אדם ביום ברא אלהים אדם בדמות אלהים עשה אתו׃
1 Dyma lyfr cenedlaethau Adda. Pan greodd Duw bobl, gwnaeth hwy ar lun Duw.
2זכר ונקבה בראם ויברך אתם ויקרא את שמם אדם ביום הבראם׃
2 Fe'u creodd yn wryw ac yn fenyw, a bendithiodd hwy; ac ar ddydd eu creu fe'u galwodd yn ddyn.
3ויחי אדם שלשים ומאת שנה ויולד בדמותו כצלמו ויקרא את שמו שת׃
3 Bu Adda fyw am gant tri deg o flynyddoedd cyn geni mab iddo, ar ei lun a'i ddelw; a galwodd ef yn Seth.
4ויהיו ימי אדם אחרי הולידו את שת שמנה מאת שנה ויולד בנים ובנות׃
4 Wedi geni Seth, bu Adda fyw am wyth gan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
5ויהיו כל ימי אדם אשר חי תשע מאות שנה ושלשים שנה וימת׃
5 Felly yr oedd oes gyfan Adda yn naw cant tri deg o flynyddoedd; yna bu farw.
6ויחי שת חמש שנים ומאת שנה ויולד את אנוש׃
6 Bu Seth fyw am gant a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Enos.
7ויחי שת אחרי הולידו את אנוש שבע שנים ושמנה מאות שנה ויולד בנים ובנות׃
7 Ac wedi geni Enos, bu Seth fyw am wyth gant a saith o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
8ויהיו כל ימי שת שתים עשרה שנה ותשע מאות שנה וימת׃
8 Felly yr oedd oes gyfan Seth yn naw cant a deuddeg o flynyddoedd; yna bu farw.
9ויחי אנוש תשעים שנה ויולד את קינן׃
9 Bu Enos fyw am naw deg o flynyddoedd cyn geni iddo Cenan.
10ויחי אנוש אחרי הולידו את קינן חמש עשרה שנה ושמנה מאות שנה ויולד בנים ובנות׃
10 Ac wedi geni Cenan, bu Enos fyw am wyth gant a phymtheg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
11ויהיו כל ימי אנוש חמש שנים ותשע מאות שנה וימת׃
11 Felly yr oedd oes gyfan Enos yn naw cant a phump o flynyddoedd; yna bu farw.
12ויחי קינן שבעים שנה ויולד את מהללאל׃
12 Bu Cenan fyw am saith deg o flynyddoedd cyn geni iddo Mahalalel.
13ויחי קינן אחרי הולידו את מהללאל ארבעים שנה ושמנה מאות שנה ויולד בנים ובנות׃
13 Ac wedi geni Mahalalel, bu Cenan fyw am wyth gant pedwar deg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
14ויהיו כל ימי קינן עשר שנים ותשע מאות שנה וימת׃
14 Felly yr oedd oes gyfan Cenan yn naw cant a deg o flynyddoedd; yna bu farw.
15ויחי מהללאל חמש שנים וששים שנה ויולד את ירד׃
15 Bu Mahalalel fyw am chwe deg a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Jered.
16ויחי מהללאל אחרי הולידו את ירד שלשים שנה ושמנה מאות שנה ויולד בנים ובנות׃
16 Ac wedi geni Jered, bu Mahalalel fyw am wyth gant tri deg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
17ויהיו כל ימי מהללאל חמש ותשעים שנה ושמנה מאות שנה וימת׃
17 Felly yr oedd oes gyfan Mahalalel yn wyth gant naw deg a phump o flynyddoedd; yna bu farw.
18ויחי ירד שתים וששים שנה ומאת שנה ויולד את חנוך׃
18 Bu Jered fyw am gant chwe deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo Enoch.
19ויחי ירד אחרי הולידו את חנוך שמנה מאות שנה ויולד בנים ובנות׃
19 Ac wedi geni Enoch, bu Jered fyw am wyth gan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
20ויהיו כל ימי ירד שתים וששים שנה ותשע מאות שנה וימת׃
20 Felly yr oedd oes gyfan Jered yn naw cant chwe deg a dwy o flynyddoedd; yna bu farw.
21ויחי חנוך חמש וששים שנה ויולד את מתושלח׃
21 Bu Enoch fyw am chwe deg a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Methwsela.
22ויתהלך חנוך את האלהים אחרי הולידו את מתושלח שלש מאות שנה ויולד בנים ובנות׃
22 Wedi geni Methwsela, rhodiodd Enoch gyda Duw am dri chan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
23ויהי כל ימי חנוך חמש וששים שנה ושלש מאות שנה׃
23 Felly yr oedd oes gyfan Enoch yn dri chant chwe deg a phump o flynyddoedd.
24ויתהלך חנוך את האלהים ואיננו כי לקח אתו אלהים׃
24 Rhodiodd Enoch gyda Duw, ac yna nid oedd mwyach, oherwydd cymerodd Duw ef.
25ויחי מתושלח שבע ושמנים שנה ומאת שנה ויולד את למך׃
25 Bu Methwsela fyw am gant wyth deg a saith o flynyddoedd cyn geni iddo Lamech.
26ויחי מתושלח אחרי הולידו את למך שתים ושמונים שנה ושבע מאות שנה ויולד בנים ובנות׃
26 Ac wedi geni Lamech, bu Methwsela fyw am saith gant wyth deg a dwy o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
27ויהיו כל ימי מתושלח תשע וששים שנה ותשע מאות שנה וימת׃
27 Felly yr oedd oes gyfan Methwsela yn naw cant chwe deg a naw o flynyddoedd; yna bu farw.
28ויחי למך שתים ושמנים שנה ומאת שנה ויולד בן׃
28 Bu Lamech fyw am gant wyth deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo fab;
29ויקרא את שמו נח לאמר זה ינחמנו ממעשנו ומעצבון ידינו מן האדמה אשר אררה יהוה׃
29 a galwodd ef yn Noa, a dweud, "Fe ddaw hwn � chysur i ni o waith a llafur ein dwylo yn y pridd a felltithiodd yr ARGLWYDD."
30ויחי למך אחרי הולידו את נח חמש ותשעים שנה וחמש מאת שנה ויולד בנים ובנות׃
30 Ac wedi geni Noa, bu Lamech fyw am bum cant naw deg a phump o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
31ויהי כל ימי למך שבע ושבעים שנה ושבע מאות שנה וימת׃
31 Felly yr oedd oes gyfan Lamech yn saith gant saith deg a saith o flynyddoedd; yna bu farw.
32ויהי נח בן חמש מאות שנה ויולד נח את שם את חם ואת יפת׃
32 Bu Noa fyw am bum can mlynedd cyn geni iddo Sem, Cham a Jaffeth.