Hebrew: Modern

Welsh

Genesis

13

1ויעל אברם ממצרים הוא ואשתו וכל אשר לו ולוט עמו הנגבה׃
1 Yna aeth Abram i fyny o'r Aifft i'r Negef, ef a'i wraig a'i holl eiddo, a hefyd Lot.
2ואברם כבד מאד במקנה בכסף ובזהב׃
2 Yr oedd Abram yn gyfoethog iawn o anifeiliaid, ac o arian ac aur.
3וילך למסעיו מנגב ועד בית אל עד המקום אשר היה שם אהלה בתחלה בין בית אל ובין העי׃
3 Teithiodd ymlaen o'r Negef hyd Bethel, i'r man rhwng Bethel ac Ai lle'r oedd ei babell ar y dechrau,
4אל מקום המזבח אשר עשה שם בראשנה ויקרא שם אברם בשם יהוה׃
4 y man lle'r oedd wedi gwneud allor ar y cychwyn; ac yno galwodd Abram ar enw'r ARGLWYDD.
5וגם ללוט ההלך את אברם היה צאן ובקר ואהלים׃
5 Yr oedd gan Lot, a oedd yn teithio gydag Abram, hefyd ddefaid ac ychen a phebyll;
6ולא נשא אתם הארץ לשבת יחדו כי היה רכושם רב ולא יכלו לשבת יחדו׃
6 ac ni allai'r tir eu cynnal ill dau gyda'i gilydd. Am fod eu meddiannau mor helaeth, ni allent drigo ynghyd;
7ויהי ריב בין רעי מקנה אברם ובין רעי מקנה לוט והכנעני והפרזי אז ישב בארץ׃
7 a bu cynnen rhwng bugeiliaid anifeiliaid Abram a rhai Lot. Y Canaaneaid a'r Peresiaid oedd yn byw yn y wlad yr amser hwnnw.
8ויאמר אברם אל לוט אל נא תהי מריבה ביני וביניך ובין רעי ובין רעיך כי אנשים אחים אנחנו׃
8 Yna dywedodd Abram wrth Lot, "Peidied � bod cynnen rhyngom, na rhwng fy mugeiliaid i a'th rai di, oherwydd perthnasau ydym.
9הלא כל הארץ לפניך הפרד נא מעלי אם השמאל ואימנה ואם הימין ואשמאילה׃
9 Onid yw'r holl wlad o'th flaen? Ymwahana oddi wrthyf. Os troi di i'r chwith, fe drof finnau i'r dde; ac os i'r dde, trof finnau i'r chwith."
10וישא לוט את עיניו וירא את כל ככר הירדן כי כלה משקה לפני שחת יהוה את סדם ואת עמרה כגן יהוה כארץ מצרים באכה צער׃
10 Cododd Lot ei olwg, a gwelodd fod holl wastadedd yr Iorddonen i gyfeiriad Soar i gyd yn ddyfradwy, fel gardd yr ARGLWYDD, neu wlad yr Aifft. Yr oedd hyn cyn i'r ARGLWYDD ddinistrio Sodom a Gomorra.
11ויבחר לו לוט את כל ככר הירדן ויסע לוט מקדם ויפרדו איש מעל אחיו׃
11 A dewisodd Lot iddo'i hun holl wastadedd yr Iorddonen, a theithio tua'r dwyrain; felly yr ymwahanodd y naill oddi wrth y llall.
12אברם ישב בארץ כנען ולוט ישב בערי הככר ויאהל עד סדם׃
12 Yr oedd Abram yn byw yng ngwlad Canaan, a Lot yn ninasoedd y gwastadedd, gan symud ei babell hyd at Sodom.
13ואנשי סדם רעים וחטאים ליהוה מאד׃
13 Yr oedd gwu375?r Sodom yn ddrygionus, yn pechu'n fawr yn erbyn yr ARGLWYDD.
14ויהוה אמר אל אברם אחרי הפרד לוט מעמו שא נא עיניך וראה מן המקום אשר אתה שם צפנה ונגבה וקדמה וימה׃
14 Wedi i Lot ymwahanu oddi wrtho, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, "Cod dy olwg o'r lle'r wyt, ac edrych tua'r gogledd a'r de a'r dwyrain a'r gorllewin;
15כי את כל הארץ אשר אתה ראה לך אתננה ולזרעך עד עולם׃
15 oherwydd yr holl dir yr wyt yn ei weld, fe'i rhoddaf i ti ac i'th ddisgynyddion hyd byth.
16ושמתי את זרעך כעפר הארץ אשר אם יוכל איש למנות את עפר הארץ גם זרעך ימנה׃
16 Gwnaf dy had fel llwch y ddaear; os dichon neb rifo llwch y ddaear, yna fe rifir dy had di.
17קום התהלך בארץ לארכה ולרחבה כי לך אתננה׃
17 Cod, rhodia ar hyd a lled y wlad, oherwydd i ti yr wyf yn ei rhoi."
18ויאהל אברם ויבא וישב באלני ממרא אשר בחברון ויבן שם מזבח ליהוה׃
18 Yna symudodd Abram ei babell a mynd i fyw wrth dderw Mamre, sydd yn Hebron; ac adeiladodd allor yno i'r ARGLWYDD.