Hebrew: Modern

Welsh

Genesis

14

1ויהי בימי אמרפל מלך שנער אריוך מלך אלסר כדרלעמר מלך עילם ותדעל מלך גוים׃
1 Yn nyddiau Amraffel brenin Sinar, Arioch brenin Elasar, Cedorlaomer brenin Elam, a Tidal brenin Goim,
2עשו מלחמה את ברע מלך סדם ואת ברשע מלך עמרה שנאב מלך אדמה ושמאבר מלך צביים ומלך בלע היא צער׃
2 rhyfelodd y rhain yn erbyn Bera brenin Sodom, Birsa brenin Gomorra, Sinab brenin Adma, Semeber brenin Seboim, a brenin Bela, sef Soar.
3כל אלה חברו אל עמק השדים הוא ים המלח׃
3 Cyfarfu'r rhain i gyd yn nyffryn Sidim, sef y M�r Heli.
4שתים עשרה שנה עבדו את כדרלעמר ושלש עשרה שנה מרדו׃
4 Am ddeuddeng mlynedd y buont yn gwasanaethu Cedorlaomer, nes iddynt wrthryfela yn y drydedd flwyddyn ar ddeg.
5ובארבע עשרה שנה בא כדרלעמר והמלכים אשר אתו ויכו את רפאים בעשתרת קרנים ואת הזוזים בהם ואת האימים בשוה קריתים׃
5 Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg daeth Cedorlaomer a'r brenhinoedd oedd gydag ef a tharo'r Reffaimiaid yn Asteroth-carnaim, y Susiaid yn Ham, yr Emiaid yn Safe-ciriathaim,
6ואת החרי בהררם שעיר עד איל פארן אשר על המדבר׃
6 yr Horiaid ym mynydd-dir Seir, hyd El-paran ar fin y diffeithwch.
7וישבו ויבאו אל עין משפט הוא קדש ויכו את כל שדה העמלקי וגם את האמרי הישב בחצצן תמר׃
7 Yna troesant a dod i En-mispat, sef Cades, a tharo holl dir yr Amaleciaid, a hefyd yr Amoriaid, a oedd yn trigo yn Hasason-Tamar.
8ויצא מלך סדם ומלך עמרה ומלך אדמה ומלך צביים ומלך בלע הוא צער ויערכו אתם מלחמה בעמק השדים׃
8 Yna aeth brenin Sodom, brenin Gomorra, brenin Adma, brenin Seboim a brenin Bela, sef Soar, i ryfela yn nyffryn Sidim yn erbyn
9את כדרלעמר מלך עילם ותדעל מלך גוים ואמרפל מלך שנער ואריוך מלך אלסר ארבעה מלכים את החמשה׃
9 Cedorlaomer brenin Elam, Tidal brenin Goim, Amraffel brenin Sinar ac Arioch brenin Elasar, pedwar brenin yn erbyn pump.
10ועמק השדים בארת בארת חמר וינסו מלך סדם ועמרה ויפלו שמה והנשארים הרה נסו׃
10 Yr oedd dyffryn Sidim yn llawn o byllau pyg; ac wrth i frenhinoedd Sodom a Gomorra ffoi, syrthiasant i mewn iddynt, ond ffodd y lleill i'r mynydd.
11ויקחו את כל רכש סדם ועמרה ואת כל אכלם וילכו׃
11 Yna cipiodd y pedwar holl eiddo Sodom a Gomorra, a'u holl luniaeth, a mynd ymaith.
12ויקחו את לוט ואת רכשו בן אחי אברם וילכו והוא ישב בסדם׃
12 Cymerasant hefyd Lot, mab i frawd Abram, a oedd yn byw yn Sodom, a'i eiddo, ac aethant ymaith.
13ויבא הפליט ויגד לאברם העברי והוא שכן באלני ממרא האמרי אחי אשכל ואחי ענר והם בעלי ברית אברם׃
13 A daeth un oedd wedi dianc, a dweud am hyn wrth Abram yr Hebread, a oedd yn byw wrth dderw Mamre yr Amoriad, brawd Escol ac Aner, rhai oedd mewn cynghrair ag Abram.
14וישמע אברם כי נשבה אחיו וירק את חניכיו ילידי ביתו שמנה עשר ושלש מאות וירדף עד דן׃
14 Pan glywodd Abram am gaethgludo'i frawd, casglodd ei wu375?r arfog oedd yn perthyn i'w du375?, tri chant a deunaw ohonynt, ac ymlidiodd hyd Dan.
15ויחלק עליהם לילה הוא ועבדיו ויכם וירדפם עד חובה אשר משמאל לדמשק׃
15 Aeth ef a'i weision yn finteioedd yn eu herbyn liw nos, a'u taro a'u hymlid hyd Hoba, i'r gogledd o Ddamascus.
16וישב את כל הרכש וגם את לוט אחיו ורכשו השיב וגם את הנשים ואת העם׃
16 A daeth �'r holl eiddo yn �l, a dwyn yn �l hefyd ei frawd Lot a'i eiddo, a'r gwragedd a'r bobl.
17ויצא מלך סדם לקראתו אחרי שובו מהכות את כדר לעמר ואת המלכים אשר אתו אל עמק שוה הוא עמק המלך׃
17 Wedi i Abram ddychwelyd o daro Cedorlaomer a'r brenhinoedd oedd gydag ef, aeth brenin Sodom allan i'w gyfarfod i ddyffryn Safe, sef Dyffryn y Brenin.
18ומלכי צדק מלך שלם הוציא לחם ויין והוא כהן לאל עליון׃
18 A daeth Melchisedec brenin Salem � bara a gwin iddo; yr oedd ef yn offeiriad i'r Duw Goruchaf,
19ויברכהו ויאמר ברוך אברם לאל עליון קנה שמים וארץ׃
19 a bendithiodd ef a dweud: "Bendigedig fyddo Abram gan y Duw Goruchaf, perchen nef a daear;
20וברוך אל עליון אשר מגן צריך בידך ויתן לו מעשר מכל׃
20 a bendigedig fyddo'r Duw Goruchaf, a roes dy elynion yn dy law." A rhoddodd Abram iddo ddegwm o'r cwbl.
21ויאמר מלך סדם אל אברם תן לי הנפש והרכש קח לך׃
21 Dywedodd brenin Sodom wrth Abram, "Rho'r bobl i mi, a chymer di'r eiddo."
22ויאמר אברם אל מלך סדם הרימתי ידי אל יהוה אל עליון קנה שמים וארץ׃
22 Ond dywedodd Abram wrth frenin Sodom, "Tyngais i'r ARGLWYDD Dduw Goruchaf, perchen nef a daear,
23אם מחוט ועד שרוך נעל ואם אקח מכל אשר לך ולא תאמר אני העשרתי את אברם׃
23 na chymerwn nac edau na charrai esgid, na dim oll sy'n eiddo i ti, rhag i ti ddweud, 'Yr wyf wedi cyfoethogi Abram.'
24בלעדי רק אשר אכלו הנערים וחלק האנשים אשר הלכו אתי ענר אשכל וממרא הם יקחו חלקם׃
24 Ni chymeraf ond yr hyn a fwytaodd y llanciau, a chyfran y gwu375?r a ddaeth gyda mi, sef Aner, Escol a Mamre; c�nt hwy gymryd eu cyfran."