Hebrew: Modern

Welsh

Genesis

15

1אחר הדברים האלה היה דבר יהוה אל אברם במחזה לאמר אל תירא אברם אנכי מגן לך שכרך הרבה מאד׃
1 Wedi'r pethau hyn, daeth gair yr ARGLWYDD at Abram mewn gweledigaeth, a dweud, "Nac ofna, Abram, myfi yw dy darian; bydd dy wobr yn fawr iawn."
2ויאמר אברם אדני יהוה מה תתן לי ואנכי הולך ערירי ובן משק ביתי הוא דמשק אליעזר׃
2 Ond dywedodd Abram, "O Arglwydd DDUW, beth a roddi i mi, oherwydd rwy'n para'n ddi-blant, ac etifedd fy nhu375? yw Eleasar o Ddamascus?"
3ויאמר אברם הן לי לא נתתה זרע והנה בן ביתי יורש אתי׃
3 Dywedodd Abram hefyd, "Edrych, nid wyt wedi rhoi epil i mi; a chaethwas o'm tu375? yw f'etifedd."
4והנה דבר יהוה אליו לאמר לא יירשך זה כי אם אשר יצא ממעיך הוא יירשך׃
4 Yna daeth gair yr ARGLWYDD ato a dweud, "Nid hwn fydd d'etifedd; o'th gnawd dy hun y daw d'etifedd."
5ויוצא אתו החוצה ויאמר הבט נא השמימה וספר הכוכבים אם תוכל לספר אתם ויאמר לו כה יהיה זרעך׃
5 Aeth ag ef allan a dywedodd, "Edrych tua'r nefoedd, a rhifa'r s�r os gelli." Yna dywedodd wrtho, "Felly y bydd dy ddisgynyddion."
6והאמן ביהוה ויחשבה לו צדקה׃
6 Credodd Abram yn yr ARGLWYDD, a chyfrifodd yntau hyn yn gyfiawnder iddo.
7ויאמר אליו אני יהוה אשר הוצאתיך מאור כשדים לתת לך את הארץ הזאת לרשתה׃
7 Yna dywedodd wrtho, "Myfi yw'r ARGLWYDD, a ddaeth � thi o Ur y Caldeaid, i roi'r wlad hon i ti i'w hetifeddu."
8ויאמר אדני יהוה במה אדע כי אירשנה׃
8 Ond dywedodd ef, "O Arglwydd DDUW, sut y caf wybod yr etifeddaf hi?"
9ויאמר אליו קחה לי עגלה משלשת ועז משלשת ואיל משלש ותר וגוזל׃
9 Dywedodd yntau wrtho, "Dwg imi heffer deirblwydd, gafr deirblwydd, hwrdd teirblwydd, turtur a chyw colomen."
10ויקח לו את כל אלה ויבתר אתם בתוך ויתן איש בתרו לקראת רעהו ואת הצפר לא בתר׃
10 Daeth �'r rhain i gyd ato, a'u hollti'n ddau a gosod y naill ddarn gyferbyn �'r llall; ond ni holltodd yr adar.
11וירד העיט על הפגרים וישב אתם אברם׃
11 A phan fyddai adar yn disgyn ar y cyrff byddai Abram yn eu hel i ffwrdd.
12ויהי השמש לבוא ותרדמה נפלה על אברם והנה אימה חשכה גדלה נפלת עליו׃
12 Fel yr oedd yr haul yn machlud, syrthiodd trymgwsg ar Abram; a dyna ddychryn a thywyllwch dudew yn dod arno.
13ויאמר לאברם ידע תדע כי גר יהיה זרעך בארץ לא להם ועבדום וענו אתם ארבע מאות שנה׃
13 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, "Deall di i sicrwydd y bydd dy ddisgynyddion yn ddieithriaid mewn gwlad nad yw'n eiddo iddynt, ac yn gaethweision, ac fe'u cystuddir am bedwar can mlynedd;
14וגם את הגוי אשר יעבדו דן אנכי ואחרי כן יצאו ברכש גדול׃
14 ond dof � barn ar y genedl y byddant yn ei gwasanaethu, ac wedi hynny d�nt allan gyda meddiannau lawer.
15ואתה תבוא אל אבתיך בשלום תקבר בשיבה טובה׃
15 Ond byddi di dy hun farw mewn tangnefedd, ac fe'th gleddir mewn oedran teg.
16ודור רביעי ישובו הנה כי לא שלם עון האמרי עד הנה׃
16 A dychwelant hwy yma yn y bedwaredd genhedlaeth; oherwydd ni chwblheir hyd hynny ddrygioni'r Amoriaid."
17ויהי השמש באה ועלטה היה והנה תנור עשן ולפיד אש אשר עבר בין הגזרים האלה׃
17 Yna wedi i'r haul fachlud, ac iddi dywyllu, ymddangosodd ffwrn yn mygu a ffagl fflamllyd yn symud rhwng y darnau hynny.
18ביום ההוא כרת יהוה את אברם ברית לאמר לזרעך נתתי את הארץ הזאת מנהר מצרים עד הנהר הגדל נהר פרת׃
18 Y dydd hwnnw, gwnaeth yr ARGLWYDD gyfamod ag Abram a dweud: "I'th ddisgynyddion di y rhoddaf y wlad hon, o afon yr Aifft hyd yr afon fawr, afon Ewffrates."
19את הקיני ואת הקנזי ואת הקדמני׃
19 Dyna wlad y Ceneaid, y Cenesiaid, y Cadmoniaid,
20ואת החתי ואת הפרזי ואת הרפאים׃
20 yr Hethiaid, y Peresiaid, y Reffaimiaid,
21ואת האמרי ואת הכנעני ואת הגרגשי ואת היבוסי׃
21 yr Amoriaid, y Canaaneaid, y Girgasiaid, a'r Jebusiaid.