1ויהוה פקד את שרה כאשר אמר ויעש יהוה לשרה כאשר דבר׃
1 Ymwelodd yr ARGLWYDD � Sara yn �l ei air, a gwnaeth iddi fel yr addawodd.
2ותהר ותלד שרה לאברהם בן לזקניו למועד אשר דבר אתו אלהים׃
2 Beichiogodd Sara a geni mab i Abraham yn ei henaint, ar yr union adeg a ddywedodd Duw wrtho.
3ויקרא אברהם את שם בנו הנולד לו אשר ילדה לו שרה יצחק׃
3 Rhoes Abraham i'r mab a anwyd iddo o Sara yr enw Isaac;
4וימל אברהם את יצחק בנו בן שמנת ימים כאשר צוה אתו אלהים׃
4 ac enwaedodd Abraham ei fab Isaac yn wyth diwrnod oed, fel yr oedd Duw wedi gorchymyn iddo.
5ואברהם בן מאת שנה בהולד לו את יצחק בנו׃
5 Yr oedd Abraham yn gant oed pan anwyd iddo ei fab Isaac.
6ותאמר שרה צחק עשה לי אלהים כל השמע יצחק לי׃
6 A dywedodd Sara, "Parodd Duw imi chwerthin; fe fydd pawb a glyw am hyn yn chwerthin gyda mi."
7ותאמר מי מלל לאברהם היניקה בנים שרה כי ילדתי בן לזקניו׃
7 Dywedodd hefyd, "Pwy fuasai wedi dweud wrth Abraham y rhoddai Sara sugn i blant? Eto mi enais fab iddo yn ei henaint."
8ויגדל הילד ויגמל ויעש אברהם משתה גדול ביום הגמל את יצחק׃
8 Tyfodd y bachgen, a diddyfnwyd ef; ac ar ddiwrnod diddyfnu Isaac, gwnaeth Abraham wledd fawr.
9ותרא שרה את בן הגר המצרית אשר ילדה לאברהם מצחק׃
9 Ond gwelodd Sara y mab a ddygodd Hagar yr Eifftes i Abraham yn chwarae gyda'i mab Isaac.
10ותאמר לאברהם גרש האמה הזאת ואת בנה כי לא יירש בן האמה הזאת עם בני עם יצחק׃
10 A dywedodd wrth Abraham, "Gyrr allan y gaethferch hon a'i mab; oherwydd ni chaiff mab y gaethferch hon gydetifeddu �'m mab i, Isaac."
11וירע הדבר מאד בעיני אברהם על אודת בנו׃
11 Yr oedd hyn yn atgas iawn gan Abraham o achos ei fab;
12ויאמר אלהים אל אברהם אל ירע בעיניך על הנער ועל אמתך כל אשר תאמר אליך שרה שמע בקלה כי ביצחק יקרא לך זרע׃
12 ond dywedodd Duw wrth Abraham, "Paid � phoeni am y llanc a'th gaethferch; gwna bopeth a ddywed Sara wrthyt, oherwydd trwy Isaac y cedwir dy linach.
13וגם את בן האמה לגוי אשימנו כי זרעך הוא׃
13 Gwnaf fab y gaethferch hefyd yn genedl, am ei fod yn blentyn i ti."
14וישכם אברהם בבקר ויקח לחם וחמת מים ויתן אל הגר שם על שכמה ואת הילד וישלחה ותלך ותתע במדבר באר שבע׃
14 Yna cododd Abraham yn fore, a chymerodd fara a chostrel o ddu373?r a'u rhoi i Hagar, a'u gosod hwy a'r bachgen ar ei hysgwydd, a'i hanfon ymaith. Aeth hithau i grwydro yn niffeithwch Beerseba.
15ויכלו המים מן החמת ותשלך את הילד תחת אחד השיחם׃
15 Pan oedd y du373?r yn y gostrel wedi darfod, gosododd y bachgen i lawr dan un o'r llwyni,
16ותלך ותשב לה מנגד הרחק כמטחוי קשת כי אמרה אל אראה במות הילד ותשב מנגד ותשא את קלה ותבך׃
16 ac aeth i eistedd bellter ergyd bwa oddi wrtho, gan ddweud, "Ni allaf edrych ar y bachgen yn marw." Fel yr oedd yn eistedd bellter oddi wrtho, cododd y bachgen ei lais ac wylo.
17וישמע אלהים את קול הנער ויקרא מלאך אלהים אל הגר מן השמים ויאמר לה מה לך הגר אל תיראי כי שמע אלהים אל קול הנער באשר הוא שם׃
17 Clywodd Duw lais y plentyn, a galwodd angel Duw o'r nef ar Hagar a dweud wrthi, "Beth sy'n dy boeni, Hagar? Paid ag ofni, oherwydd y mae Duw wedi clywed llais y plentyn o'r lle y mae.
18קומי שאי את הנער והחזיקי את ידך בו כי לגוי גדול אשימנו׃
18 Cod, cymer y plentyn a gafael amdano, oherwydd gwnaf ef yn genedl fawr."
19ויפקח אלהים את עיניה ותרא באר מים ותלך ותמלא את החמת מים ותשק את הנער׃
19 Yna agorodd Duw ei llygaid, a gwelodd bydew du373?r; aeth hithau i lenwi'r gostrel � du373?r a rhoi diod i'r plentyn.
20ויהי אלהים את הנער ויגדל וישב במדבר ויהי רבה קשת׃
20 Bu Duw gyda'r plentyn, a thyfodd; bu'n byw yn y diffeithwch, a daeth yn saethwr bwa.
21וישב במדבר פארן ותקח לו אמו אשה מארץ מצרים׃
21 Yr oedd yn byw yn niffeithwch Paran, a chymerodd ei fam wraig iddo o wlad yr Aifft.
22ויהי בעת ההוא ויאמר אבימלך ופיכל שר צבאו אל אברהם לאמר אלהים עמך בכל אשר אתה עשה׃
22 Yr amser hwnnw, dywedodd Abimelech a Phichol pennaeth ei fyddin wrth Abraham, "Y mae Duw gyda thi ym mhopeth yr wyt yn ei wneud;
23ועתה השבעה לי באלהים הנה אם תשקר לי ולניני ולנכדי כחסד אשר עשיתי עמך תעשה עמדי ועם הארץ אשר גרתה בה׃
23 yn awr, dos ar dy lw yn enw Duw i mi yma, na fyddi'n anffyddlon i mi, nac i'm plant, nac i'm hwyrion; ond fel yr wyf fi wedi bod yn deyrngar i ti, bydd dithau i minnau ac i'r wlad yr wyt wedi ymdeithio ynddi."
24ויאמר אברהם אנכי אשבע׃
24 A dywedodd Abraham, "Mi af ar fy llw."
25והוכח אברהם את אבימלך על אדות באר המים אשר גזלו עבדי אבימלך׃
25 Pan geryddodd Abraham Abimelech am y pydew du373?r yr oedd gweision Abimelech wedi ei gymryd trwy drais,
26ויאמר אבימלך לא ידעתי מי עשה את הדבר הזה וגם אתה לא הגדת לי וגם אנכי לא שמעתי בלתי היום׃
26 dywedodd Abimelech, "Ni wn i ddim pwy a wnaeth hyn; ni ddywedaist wrthyf, ac ni chlywais i s�n am y peth cyn heddiw."
27ויקח אברהם צאן ובקר ויתן לאבימלך ויכרתו שניהם ברית׃
27 Yna cymerodd Abraham ddefaid ac ychen, a'u rhoi i Abimelech, a gwnaethant ill dau gyfamod.
28ויצב אברהם את שבע כבשת הצאן לבדהן׃
28 Gosododd Abraham o'r neilltu saith hesbin o'r praidd.
29ויאמר אבימלך אל אברהם מה הנה שבע כבשת האלה אשר הצבת לבדנה׃
29 A gofynnodd Abimelech i Abraham, "Beth yw'r saith hesbin hyn yr wyt wedi eu gosod o'r neilltu?"
30ויאמר כי את שבע כבשת תקח מידי בעבור תהיה לי לעדה כי חפרתי את הבאר הזאת׃
30 Dywedodd yntau, "Wrth gymryd y saith hesbin gennyf, byddi'n cydnabod mai myfi a gloddiodd y pydew hwn."
31על כן קרא למקום ההוא באר שבע כי שם נשבעו שניהם׃
31 Am hynny galwyd y lle hwnnw Beerseba, oherwydd yno yr aeth y ddau ar eu llw.
32ויכרתו ברית בבאר שבע ויקם אבימלך ופיכל שר צבאו וישבו אל ארץ פלשתים׃
32 Wedi iddynt wneud cyfamod yn Beerseba, cododd Abimelech a Phichol pennaeth ei fyddin, a dychwelyd i wlad y Philistiaid.
33ויטע אשל בבאר שבע ויקרא שם בשם יהוה אל עולם׃
33 Plannodd Abraham goeden tamarisg yn Beerseba, a galwodd yno ar enw'r ARGLWYDD, y Duw tragwyddol.
34ויגר אברהם בארץ פלשתים ימים רבים׃
34 A bu Abraham yn aros am amser hir yng ngwlad y Philistiaid.