1ויהי אחר הדברים האלה והאלהים נסה את אברהם ויאמר אליו אברהם ויאמר הנני׃
1 Wedi'r pethau hyn, rhoddodd Duw brawf ar Abraham.
2ויאמר קח נא את בנך את יחידך אשר אהבת את יצחק ולך לך אל ארץ המריה והעלהו שם לעלה על אחד ההרים אשר אמר אליך׃
2 "Abraham," meddai wrtho, ac atebodd yntau, "Dyma fi." Yna dywedodd, "Cymer dy fab, dy unig fab Isaac, sy'n annwyl gennyt, a dos i wlad Moreia, ac offryma ef yno yn boethoffrwm ar y mynydd a ddangosaf iti."
3וישכם אברהם בבקר ויחבש את חמרו ויקח את שני נעריו אתו ואת יצחק בנו ויבקע עצי עלה ויקם וילך אל המקום אשר אמר לו האלהים׃
3 Felly cododd Abraham yn fore, cyfrwyodd ei asyn, a chymryd dau lanc gydag ef, a'i fab Isaac; a holltodd goed i'r poethoffrwm, a chychwynnodd i'r lle y dywedodd Duw wrtho.
4ביום השלישי וישא אברהם את עיניו וירא את המקום מרחק׃
4 Ar y trydydd dydd cododd Abraham ei olwg, a gwelodd y lle o hirbell.
5ויאמר אברהם אל נעריו שבו לכם פה עם החמור ואני והנער נלכה עד כה ונשתחוה ונשובה אליכם׃
5 Yna dywedodd Abraham wrth ei lanciau, "Arhoswch chwi yma gyda'r asyn; mi af finnau a'r bachgen draw ac addoli, ac yna dychwelwn atoch."
6ויקח אברהם את עצי העלה וישם על יצחק בנו ויקח בידו את האש ואת המאכלת וילכו שניהם יחדו׃
6 Cymerodd goed y poethoffrwm a'u gosod ar ei fab Isaac; a chymerodd y t�n a'r gyllell yn ei law ei hun. Ac felly yr aethant ill dau ynghyd.
7ויאמר יצחק אל אברהם אביו ויאמר אבי ויאמר הנני בני ויאמר הנה האש והעצים ואיה השה לעלה׃
7 Yna dywedodd Isaac wrth ei dad Abraham, "Fy nhad." Atebodd yntau, "Ie, fy mab?" Ac meddai Isaac, "Dyma'r t�n a'r coed; ond ble mae oen y poethoffrwm?"
8ויאמר אברהם אלהים יראה לו השה לעלה בני וילכו שניהם יחדו׃
8 Dywedodd Abraham, "Duw ei hun fydd yn darparu oen y poethoffrwm, fy mab." Ac felly aethant ill dau gyda'i gilydd.
9ויבאו אל המקום אשר אמר לו האלהים ויבן שם אברהם את המזבח ויערך את העצים ויעקד את יצחק בנו וישם אתו על המזבח ממעל לעצים׃
9 Wedi iddynt gyrraedd i'r lle'r oedd Duw wedi dweud wrtho, adeiladodd Abraham allor, trefnodd y coed, a rhwymodd ei fab Isaac a'i osod ar yr allor, ar ben y coed.
10וישלח אברהם את ידו ויקח את המאכלת לשחט את בנו׃
10 Yna estynnodd Abraham ei law, a chymryd y gyllell i ladd ei fab.
11ויקרא אליו מלאך יהוה מן השמים ויאמר אברהם אברהם ויאמר הנני׃
11 Ond galwodd angel yr ARGLWYDD arno o'r nef, a dweud, "Abraham! Abraham!" Dywedodd yntau, "Dyma fi."
12ויאמר אל תשלח ידך אל הנער ואל תעש לו מאומה כי עתה ידעתי כי ירא אלהים אתה ולא חשכת את בנך את יחידך ממני׃
12 A dywedodd, "Paid � gosod dy law ar y bachgen, na gwneud dim iddo; oherwydd gwn yn awr dy fod yn ofni Duw, gan nad wyt wedi gwrthod rhoi dy fab, dy unig fab, i mi."
13וישא אברהם את עיניו וירא והנה איל אחר נאחז בסבך בקרניו וילך אברהם ויקח את האיל ויעלהו לעלה תחת בנו׃
13 Cododd Abraham ei olwg ac edrych, a dyna lle'r oedd hwrdd y tu �l iddo wedi ei ddal gerfydd ei gyrn mewn drysni; aeth Abraham a chymryd yr hwrdd a'i offrymu yn boethoffrwm yn lle ei fab.
14ויקרא אברהם שם המקום ההוא יהוה יראה אשר יאמר היום בהר יהוה יראה׃
14 Ac enwodd Abraham y lle hwnnw, "Yr ARGLWYDD sy'n darparu"; fel y dywedir hyd heddiw, "Ar fynydd yr ARGLWYDD fe ddarperir."
15ויקרא מלאך יהוה אל אברהם שנית מן השמים׃
15 Galwodd angel yr ARGLWYDD eilwaith o'r nef ar Abraham,
16ויאמר בי נשבעתי נאם יהוה כי יען אשר עשית את הדבר הזה ולא חשכת את בנך את יחידך׃
16 a dweud, "Tyngais i mi fy hun," medd yr ARGLWYDD, "oherwydd iti wneud hyn, heb wrthod rhoi dy fab, dy unig fab,
17כי ברך אברכך והרבה ארבה את זרעך ככוכבי השמים וכחול אשר על שפת הים וירש זרעך את שער איביו׃
17 bendithiaf di yn fawr, ac amlhau dy ddisgynyddion yn ddirfawr, fel s�r y nefoedd ac fel y tywod ar lan y m�r. Bydd dy ddisgynyddion yn meddiannu pyrth eu gelynion,
18והתברכו בזרעך כל גויי הארץ עקב אשר שמעת בקלי׃
18 a thrwyddynt bendithir holl genhedloedd y ddaear, am iti ufuddhau i'm llais."
19וישב אברהם אל נעריו ויקמו וילכו יחדו אל באר שבע וישב אברהם בבאר שבע׃
19 Yna dychwelodd Abraham at ei lanciau ac aethant gyda'i gilydd i Beerseba; ac arhosodd Abraham yn Beerseba.
20ויהי אחרי הדברים האלה ויגד לאברהם לאמר הנה ילדה מלכה גם הוא בנים לנחור אחיך׃
20 Wedi'r pethau hyn, mynegwyd i Abraham, "Y mae Milca wedi geni plant i'th frawd Nachor:
21את עוץ בכרו ואת בוז אחיו ואת קמואל אבי ארם׃
21 Hus ei gyntaf-anedig, a'i frawd Bus, Cemuel tad Aram,
22ואת כשד ואת חזו ואת פלדש ואת ידלף ואת בתואל׃
22 Cesed, Haso, Pildas, Idlaff, a Bethuel."
23ובתואל ילד את רבקה שמנה אלה ילדה מלכה לנחור אחי אברהם׃
23 Bethuel oedd tad Rebeca. Ganwyd yr wyth hyn o Milca i Nachor, brawd Abraham.
24ופילגשו ושמה ראומה ותלד גם הוא את טבח ואת גחם ואת תחש ואת מעכה׃
24 Hefyd esgorodd Reuma, ei ordderch, ar Teba, Gaham, Tahas a Maacha.