1ויהי כי זקן יצחק ותכהין עיניו מראת ויקרא את עשו בנו הגדל ויאמר אליו בני ויאמר אליו הנני׃
1 Pan oedd Isaac yn hen a'i lygaid wedi pylu fel nad oedd yn gweld, galwodd ar Esau ei fab hynaf, a dweud wrtho, "Fy mab." Atebodd yntau, "Dyma fi."
2ויאמר הנה נא זקנתי לא ידעתי יום מותי׃
2 A dywedodd Isaac, "Yr wyf wedi mynd yn hen, ac ni wn pa ddiwrnod y byddaf farw.
3ועתה שא נא כליך תליך וקשתך וצא השדה וצודה לי צידה׃
3 Cymer yn awr dy arfau, dy gawell saethau a'th fwa, a dos i'r maes i hela bwyd i mi,
4ועשה לי מטעמים כאשר אהבתי והביאה לי ואכלה בעבור תברכך נפשי בטרם אמות׃
4 a gwna i mi y lluniaeth blasus sy'n hoff gennyf, a thyrd ag ef imi i'w fwyta; yna bendithiaf di cyn imi farw."
5ורבקה שמעת בדבר יצחק אל עשו בנו וילך עשו השדה לצוד ציד להביא׃
5 Yr oedd Rebeca yn gwrando ar Isaac yn siarad �'i fab Esau. A phan aeth Esau i'r maes i hela bwyd i ddod ag ef i'w dad,
6ורבקה אמרה אל יעקב בנה לאמר הנה שמעתי את אביך מדבר אל עשו אחיך לאמר׃
6 dywedodd Rebeca wrth ei mab Jacob, "Clywais dy dad yn siarad �'th frawd Esau ac yn dweud,
7הביאה לי ציד ועשה לי מטעמים ואכלה ואברככה לפני יהוה לפני מותי׃
7 'Tyrd � helfa imi, a gwna luniaeth blasus imi i'w fwyta; yna bendithiaf di gerbron yr ARGLWYDD cyn imi farw.'
8ועתה בני שמע בקלי לאשר אני מצוה אתך׃
8 Gwrando'n awr, fy mab, ar yr hyn a orchmynnaf i ti.
9לך נא אל הצאן וקח לי משם שני גדיי עזים טבים ואעשה אתם מטעמים לאביך כאשר אהב׃
9 Dos i blith y praidd, a thyrd � dau fyn gafr da i mi, a gwnaf finnau hwy yn lluniaeth blasus i'th dad, o'r math y mae'n ei hoffi,
10והבאת לאביך ואכל בעבר אשר יברכך לפני מותו׃
10 a chei dithau fynd ag ef i'th dad i'w fwyta, er mwyn iddo dy fendithio di cyn iddo farw."
11ויאמר יעקב אל רבקה אמו הן עשו אחי איש שער ואנכי איש חלק׃
11 Ond dywedodd Jacob wrth ei fam Rebeca, "Ond y mae Esau yn u373?r blewog, a minnau'n u373?r llyfn.
12אולי ימשני אבי והייתי בעיניו כמתעתע והבאתי עלי קללה ולא ברכה׃
12 Efallai y bydd fy nhad yn fy nheimlo, a byddaf fel twyllwr yn ei olwg, a dof � melltith arnaf fy hun yn lle bendith."
13ותאמר לו אמו עלי קללתך בני אך שמע בקלי ולך קח לי׃
13 Meddai ei fam wrtho, "Arnaf fi y bo dy felltith, fy mab; gwrando arnaf, dos a thyrd �'r geifr ataf."
14וילך ויקח ויבא לאמו ותעש אמו מטעמים כאשר אהב אביו׃
14 Felly aeth, a dod � hwy at ei fam; a gwnaeth ei fam luniaeth blasus, o'r math yr oedd ei dad yn ei hoffi.
15ותקח רבקה את בגדי עשו בנה הגדל החמדת אשר אתה בבית ותלבש את יעקב בנה הקטן׃
15 Yna cymerodd Rebeca ddillad gorau ei mab hynaf Esau, dillad oedd gyda hi yn y tu375?, a'u gwisgo am Jacob ei mab ieuengaf;
16ואת ערת גדיי העזים הלבישה על ידיו ועל חלקת צואריו׃
16 a gwisgodd hefyd grwyn y geifr am ei ddwylo ac am ei wegil llyfn;
17ותתן את המטעמים ואת הלחם אשר עשתה ביד יעקב בנה׃
17 yna rhoddodd i'w mab Jacob y lluniaeth blasus a'r bara yr oedd wedi eu paratoi.
18ויבא אל אביו ויאמר אבי ויאמר הנני מי אתה בני׃
18 Aeth yntau i mewn at ei dad a dweud, "Fy nhad." Atebodd yntau, "Dyma fi, fy mab, pwy wyt ti?"
19ויאמר יעקב אל אביו אנכי עשו בכרך עשיתי כאשר דברת אלי קום נא שבה ואכלה מצידי בעבור תברכני נפשך׃
19 Dywedodd Jacob wrth ei dad, "Esau dy gyntafanedig wyf fi. Gwneuthum fel y dywedaist wrthyf; cod ar dy eistedd a bwyta o'm helfa, a bendithia fi."
20ויאמר יצחק אל בנו מה זה מהרת למצא בני ויאמר כי הקרה יהוה אלהיך לפני׃
20 A dywedodd Isaac wrth ei fab, "Sut y cefaist hyd iddo mor fuan, fy mab?" Atebodd yntau, "Yr ARGLWYDD dy Dduw a'i trefnodd ar fy nghyfer."
21ויאמר יצחק אל יעקב גשה נא ואמשך בני האתה זה בני עשו אם לא׃
21 Yna dywedodd Isaac wrth Jacob, "Tyrd yn nes, er mwyn imi dy deimlo, fy mab, a gwybod ai ti yw fy mab Esau ai peidio."
22ויגש יעקב אל יצחק אביו וימשהו ויאמר הקל קול יעקב והידים ידי עשו׃
22 Nesaodd Jacob at Isaac ei dad, a theimlodd yntau ef a dweud, "Llais Jacob yw'r llais, ond dwylo Esau yw'r dwylo."
23ולא הכירו כי היו ידיו כידי עשו אחיו שערת ויברכהו׃
23 Ond nid adnabu mohono, am fod ei ddwylo'n flewog fel dwylo Esau ei frawd; felly bendithiodd ef.
24ויאמר אתה זה בני עשו ויאמר אני׃
24 A dywedodd, "Ai ti yn wir yw fy mab Esau?" Atebodd yntau, "Myfi yw."
25ויאמר הגשה לי ואכלה מציד בני למען תברכך נפשי ויגש לו ויאכל ויבא לו יין וישת׃
25 Dywedodd yntau, "Tyrd �'r helfa ataf, fy mab, imi gael bwyta a'th fendithio." Daeth ag ef ato, a bwytaodd yntau; a daeth � gwin iddo, ac yfodd.
26ויאמר אליו יצחק אביו גשה נא ושקה לי בני׃
26 A dywedodd ei dad Isaac wrtho, "Tyrd yn nes a chusana fi, fy mab."
27ויגש וישק לו וירח את ריח בגדיו ויברכהו ויאמר ראה ריח בני כריח שדה אשר ברכו יהוה׃
27 Felly nesaodd a chusanodd ef; clywodd yntau arogl ei wisgoedd, a bendithiodd ef, a dweud: "Dyma arogl fy mab, fel arogl maes a fendithiodd yr ARGLWYDD.
28ויתן לך האלהים מטל השמים ומשמני הארץ ורב דגן ותירש׃
28 Rhodded Duw iti o wlith y nefoedd, o fraster y ddaear, a digon o u375?d a gwin.
29יעבדוך עמים וישתחו לך לאמים הוה גביר לאחיך וישתחוו לך בני אמך ארריך ארור ומברכיך ברוך׃
29 Bydded i bobloedd dy wasanaethu di, ac i genhedloedd ymgrymu o'th flaen; bydd yn Arglwydd ar dy frodyr, ac ymgrymed meibion dy fam iti. Bydded melltith ar y rhai sy'n dy felltithio, a bendith ar y rhai sy'n dy fendithio."
30ויהי כאשר כלה יצחק לברך את יעקב ויהי אך יצא יצא יעקב מאת פני יצחק אביו ועשו אחיו בא מצידו׃
30 Wedi i Isaac orffen bendithio Jacob, a Jacob ond prin wedi mynd allan o u373?ydd ei dad Isaac, daeth ei frawd Esau i mewn o'i hela.
31ויעש גם הוא מטעמים ויבא לאביו ויאמר לאביו יקם אבי ויאכל מציד בנו בעבור תברכני נפשך׃
31 Gwnaeth yntau luniaeth blasus, a mynd ag ef i'w dad, a dweud wrtho, "Cod, fy nhad, a bwyta o helfa dy fab, a bendithia fi."
32ויאמר לו יצחק אביו מי אתה ויאמר אני בנך בכרך עשו׃
32 Gofynnodd ei dad Isaac iddo, "Pwy wyt ti?" Atebodd yntau, "Dy fab Esau, dy gyntafanedig, wyf fi."
33ויחרד יצחק חרדה גדלה עד מאד ויאמר מי אפוא הוא הצד ציד ויבא לי ואכל מכל בטרם תבוא ואברכהו גם ברוך יהיה׃
33 Yna cyffr�dd Isaac yn ddirfawr, a dywedodd, "Pwy ynteu a heliodd fwyd a'i ddwyn ataf, a minnau'n bwyta'r cwbl cyn iti ddod, ac yn rhoi'r fendith iddo ef? Ac yn wir, bendigedig fydd ef."
34כשמע עשו את דברי אביו ויצעק צעקה גדלה ומרה עד מאד ויאמר לאביו ברכני גם אני אבי׃
34 Pan glywodd Esau eiriau ei dad, gwaeddodd yn uchel a chwerw, a dweud wrth ei dad, "Bendithia fi, finnau hefyd, fy nhad."
35ויאמר בא אחיך במרמה ויקח ברכתך׃
35 Ond dywedodd ef, "Y mae dy frawd wedi dod trwy dwyll, a chymryd dy fendith."
36ויאמר הכי קרא שמו יעקב ויעקבני זה פעמים את בכרתי לקח והנה עתה לקח ברכתי ויאמר הלא אצלת לי ברכה׃
36 Ac meddai Esau, "Onid Jacob yw'r enw priodol arno? Y mae wedi fy nisodli ddwywaith: dygodd fy ngenedigaeth-fraint, a dyma ef yn awr wedi dwyn fy mendith." Yna dywedodd, "Onid oes gennyt fendith ar �l i minnau?"
37ויען יצחק ויאמר לעשו הן גביר שמתיו לך ואת כל אחיו נתתי לו לעבדים ודגן ותירש סמכתיו ולכה אפוא מה אעשה בני׃
37 Atebodd Isaac a dweud wrth Esau, "Yr wyf wedi ei wneud ef yn arglwydd arnat, a rhoi ei holl berthnasau yn weision iddo, ac u375?d a gwin i'w gynnal. Beth, felly, a allaf ei wneud i ti, fy mab?"
38ויאמר עשו אל אביו הברכה אחת הוא לך אבי ברכני גם אני אבי וישא עשו קלו ויבך׃
38 A dywedodd Esau wrth ei dad, "Ai yr un fendith hon yn unig sydd gennyt, fy nhad? Bendithia fi, finnau hefyd, fy nhad." A chododd Esau ei lais ac wylo.
39ויען יצחק אביו ויאמר אליו הנה משמני הארץ יהיה מושבך ומטל השמים מעל׃
39 Yna atebodd ei dad Isaac a dweud wrtho: "Wele, bydd dy gartref heb fraster daear, a heb wlith y nef oddi uchod.
40ועל חרבך תחיה ואת אחיך תעבד והיה כאשר תריד ופרקת עלו מעל צוארך׃
40 Wrth dy gleddyf y byddi fyw, ac fe wasanaethi dy frawd; ond pan ddoi'n rhydd, fe dorri ei iau oddi ar dy wddf."
41וישטם עשו את יעקב על הברכה אשר ברכו אביו ויאמר עשו בלבו יקרבו ימי אבל אבי ואהרגה את יעקב אחי׃
41 A chasaodd Esau Jacob o achos y fendith yr oedd ei dad wedi ei rhoi iddo, a dywedodd Esau wrtho'i hun, "Daw yn amser i alaru am fy nhad cyn hir; yna lladdaf fy mrawd Jacob."
42ויגד לרבקה את דברי עשו בנה הגדל ותשלח ותקרא ליעקב בנה הקטן ותאמר אליו הנה עשו אחיך מתנחם לך להרגך׃
42 Ond cafodd Rebeca wybod am eiriau Esau ei mab hynaf; anfonodd hithau a galw am Jacob ei mab ieuengaf, a dweud wrtho, "Edrych, y mae dy frawd Esau yn ei gysuro ei hun wrth feddwl am dy ladd.
43ועתה בני שמע בקלי וקום ברח לך אל לבן אחי חרנה׃
43 Yn awr, fy mab, gwrando arnaf; cod, a ffo i Haran at fy mrawd Laban,
44וישבת עמו ימים אחדים עד אשר תשוב חמת אחיך׃
44 ac aros dros dro gydag ef, nes bod llid dy frawd wedi cilio.
45עד שוב אף אחיך ממך ושכח את אשר עשית לו ושלחתי ולקחתיך משם למה אשכל גם שניכם יום אחד׃
45 Yna pan fydd dicter dy frawd wedi cilio, ac yntau wedi anghofio'r hyn a wnaethost, mi anfonaf i'th gyrchu oddi yno. Pam y caf fy amddifadu ohonoch eich dau mewn un diwrnod?"
46ותאמר רבקה אל יצחק קצתי בחיי מפני בנות חת אם לקח יעקב אשה מבנות חת כאלה מבנות הארץ למה לי חיים׃
46 Dywedodd Rebeca wrth Isaac, "Yr wyf wedi blino byw o achos merched yr Hethiaid. Os prioda Jacob wraig o blith merched yr Hethiaid fel un o'r rhain, sef un o ferched y wlad, i beth y byddaf fyw?"