Hebrew: Modern

Welsh

Genesis

28

1ויקרא יצחק אל יעקב ויברך אתו ויצוהו ויאמר לו לא תקח אשה מבנות כנען׃
1 Yna galwodd Isaac ar Jacob, a bendithiodd ef. Gorchmynnodd iddo, "Paid � phriodi gwraig o blith merched Canaan.
2קום לך פדנה ארם ביתה בתואל אבי אמך וקח לך משם אשה מבנות לבן אחי אמך׃
2 Cod, dos i Padan Aram, i du375? Bethuel tad dy fam; a chymer iti yno wraig o blith merched Laban brawd dy fam.
3ואל שדי יברך אתך ויפרך וירבך והיית לקהל עמים׃
3 Boed i Dduw Hollalluog dy fendithio, a'th wneud yn ffrwythlon a lluosog fel y byddi'n gynulliad o bobloedd.
4ויתן לך את ברכת אברהם לך ולזרעך אתך לרשתך את ארץ מגריך אשר נתן אלהים לאברהם׃
4 Rhodded ef fendith Abraham i ti ac i'th hil hefyd, fel y cei etifeddu'r wlad yr wyt yn ymdeithio ynddi, yr un a roddodd Duw i Abraham."
5וישלח יצחק את יעקב וילך פדנה ארם אל לבן בן בתואל הארמי אחי רבקה אם יעקב ועשו׃
5 Felly, anfonodd Isaac Jacob ymaith; ac aeth yntau i Padan Aram at Laban fab Bethuel yr Aramead, brawd Rebeca mam Jacob ac Esau.
6וירא עשו כי ברך יצחק את יעקב ושלח אתו פדנה ארם לקחת לו משם אשה בברכו אתו ויצו עליו לאמר לא תקח אשה מבנות כנען׃
6 Deallodd Esau fod Isaac wedi bendithio Jacob a'i anfon ymaith i Padan Aram i gymryd gwraig oddi yno, ac iddo orchymyn iddo wrth ei fendithio, "Paid � phriodi gwraig o blith merched Canaan",
7וישמע יעקב אל אביו ואל אמו וילך פדנה ארם׃
7 a bod Jacob wedi gwrando ar ei rieni a mynd i Padan Aram.
8וירא עשו כי רעות בנות כנען בעיני יצחק אביו׃
8 Pan welodd Esau nad oedd merched Canaan wrth fodd Isaac ei dad,
9וילך עשו אל ישמעאל ויקח את מחלת בת ישמעאל בן אברהם אחות נביות על נשיו לו לאשה׃
9 aeth at Ismael a chymryd yn wraig, at ei wragedd eraill, Mahalath ferch Ismael, fab Abraham, chwaer Nebaioth.
10ויצא יעקב מבאר שבע וילך חרנה׃
10 Ymadawodd Jacob � Beerseba a theithio tua Haran.
11ויפגע במקום וילן שם כי בא השמש ויקח מאבני המקום וישם מראשתיו וישכב במקום ההוא׃
11 A daeth i ryw fan ac aros noson yno, gan fod yr haul wedi machlud. Cymerodd un o gerrig y lle a'i gosod dan ei ben, a gorweddodd i gysgu yn y fan honno.
12ויחלם והנה סלם מצב ארצה וראשו מגיע השמימה והנה מלאכי אלהים עלים וירדים בו׃
12 Breuddwydiodd ei fod yn gweld ysgol wedi ei gosod ar y ddaear, a'i phen yn cyrraedd i'r nefoedd, ac angylion Duw yn dringo a disgyn ar hyd-ddi.
13והנה יהוה נצב עליו ויאמר אני יהוה אלהי אברהם אביך ואלהי יצחק הארץ אשר אתה שכב עליה לך אתננה ולזרעך׃
13 A safodd yr ARGLWYDD gerllaw iddo a dweud, "Myfi yw'r ARGLWYDD, Duw Abraham dy dad, a Duw Isaac; rhoddaf y tir yr wyt yn gorwedd arno i ti ac i'th ddisgynyddion;
14והיה זרעך כעפר הארץ ופרצת ימה וקדמה וצפנה ונגבה ונברכו בך כל משפחת האדמה ובזרעך׃
14 bydd dy hil fel llwch y ddaear, a byddi'n ymestyn i'r gorllewin a'r dwyrain ac i'r gogledd a'r de; a bendithir holl deuluoedd y ddaear ynot ti ac yn dy ddisgynyddion.
15והנה אנכי עמך ושמרתיך בכל אשר תלך והשבתיך אל האדמה הזאת כי לא אעזבך עד אשר אם עשיתי את אשר דברתי לך׃
15 Wele, yr wyf fi gyda thi, a chadwaf di ple bynnag yr ei, a dof � thi'n �l i'r wlad hon; oherwydd ni'th adawaf nes imi wneud yr hyn a ddywedais."
16וייקץ יעקב משנתו ויאמר אכן יש יהוה במקום הזה ואנכי לא ידעתי׃
16 Pan ddeffr�dd Jacob o'i gwsg, dywedodd, "Y mae'n sicr fod yr ARGLWYDD yn y lle hwn, ac ni wyddwn i."
17ויירא ויאמר מה נורא המקום הזה אין זה כי אם בית אלהים וזה שער השמים׃
17 A daeth arno ofn, ac meddai, "Mor ofnadwy yw'r lle hwn! Nid yw'n ddim amgen na thu375? i Dduw, a dyma borth y nefoedd."
18וישכם יעקב בבקר ויקח את האבן אשר שם מראשתיו וישם אתה מצבה ויצק שמן על ראשה׃
18 Cododd Jacob yn fore, a chymerodd y garreg a fu dan ei ben, a gosododd hi'n golofn, a thywallt olew drosti.
19ויקרא את שם המקום ההוא בית אל ואולם לוז שם העיר לראשנה׃
19 Galwodd y lle, Bethel, ond enw'r ddinas ar y dechrau oedd Lus.
20וידר יעקב נדר לאמר אם יהיה אלהים עמדי ושמרני בדרך הזה אשר אנכי הולך ונתן לי לחם לאכל ובגד ללבש׃
20 Yna gwnaeth Jacob adduned, a dweud, "Os bydd Duw gyda mi, ac yn fy nghadw'n ddiogel ar fy nhaith, a rhoi imi fara i'w fwyta a dillad i'w gwisgo,
21ושבתי בשלום אל בית אבי והיה יהוה לי לאלהים׃
21 a minnau'n dychwelyd mewn heddwch i du375? fy nhad, yna bydd yr ARGLWYDD yn Dduw i mi,
22והאבן הזאת אשר שמתי מצבה יהיה בית אלהים וכל אשר תתן לי עשר אעשרנו לך׃
22 a bydd y garreg hon a osodais yn golofn yn du375? i Dduw; ac o bob peth a roi i mi, mi rof ddegwm i ti."