Hebrew: Modern

Welsh

Genesis

31

1וישמע את דברי בני לבן לאמר לקח יעקב את כל אשר לאבינו ומאשר לאבינו עשה את כל הכבד הזה׃
1 Clywodd Jacob fod meibion Laban yn dweud, "Y mae Jacob wedi cymryd holl eiddo ein tad, ac o'r hyn oedd yn perthyn i'n tad y mae ef wedi ennill yr holl gyfoeth hwn."
2וירא יעקב את פני לבן והנה איננו עמו כתמול שלשום׃
2 A gwelodd Jacob nad oedd agwedd Laban ato fel y bu o'r blaen.
3ויאמר יהוה אל יעקב שוב אל ארץ אבותיך ולמולדתך ואהיה עמך׃
3 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Jacob, "Dos yn �l i wlad dy dadau ac at dy dylwyth, a byddaf gyda thi."
4וישלח יעקב ויקרא לרחל וללאה השדה אל צאנו׃
4 Felly anfonodd Jacob a galw Rachel a Lea i'r maes lle'r oedd ei braidd;
5ויאמר להן ראה אנכי את פני אביכן כי איננו אלי כתמל שלשם ואלהי אבי היה עמדי׃
5 a dywedodd wrthynt, "Gwelaf nad yw agwedd eich tad ataf fel y bu o'r blaen, ond bu Duw fy nhad gyda mi.
6ואתנה ידעתן כי בכל כחי עבדתי את אביכן׃
6 Gwyddoch fy mod wedi gweithio i'ch tad �'m holl egni;
7ואביכן התל בי והחלף את משכרתי עשרת מנים ולא נתנו אלהים להרע עמדי׃
7 ond twyllodd eich tad fi, a newid fy nghyflog ddengwaith; eto ni adawodd Duw iddo fy niweidio.
8אם כה יאמר נקדים יהיה שכרך וילדו כל הצאן נקדים ואם כה יאמר עקדים יהיה שכרך וילדו כל הצאן עקדים׃
8 Pan ddywedai ef, 'Y brithion fydd dy gyflog', yna yr oedd yr holl braidd yn epilio ar frithion; a phan ddywedai ef, 'Y broc fydd dy gyflog', yna yr oedd yr holl braidd yn epilio ar rai broc.
9ויצל אלהים את מקנה אביכם ויתן לי׃
9 Felly cymerodd Duw anifeiliaid eich tad a'u rhoi i mi.
10ויהי בעת יחם הצאן ואשא עיני וארא בחלום והנה העתדים העלים על הצאן עקדים נקדים וברדים׃
10 Yn nhymor beichiogi'r praidd codais fy ngolwg a gweld mewn breuddwyd fod yr hyrddod oedd yn llamu'r praidd wedi eu marcio'n frith a broc.
11ויאמר אלי מלאך האלהים בחלום יעקב ואמר הנני׃
11 Yna dywedodd angel Duw wrthyf yn fy mreuddwyd, 'Jacob.' Atebais innau, 'Dyma fi.'
12ויאמר שא נא עיניך וראה כל העתדים העלים על הצאן עקדים נקדים וברדים כי ראיתי את כל אשר לבן עשה לך׃
12 Yna dywedodd, 'Cod dy olwg ac edrych; y mae'r holl hyrddod sy'n llamu'r praidd wedi eu marcio'n frith a broc; yr wyf wedi gweld popeth y mae Laban yn ei wneud i ti.
13אנכי האל בית אל אשר משחת שם מצבה אשר נדרת לי שם נדר עתה קום צא מן הארץ הזאת ושוב אל ארץ מולדתך׃
13 Myfi yw Duw Bethel, lle'r eneiniaist golofn a gwneud adduned i mi. Yn awr cod, dos o'r wlad hon a dychwel i wlad dy enedigaeth.'"
14ותען רחל ולאה ותאמרנה לו העוד לנו חלק ונחלה בבית אבינו׃
14 Yna atebodd Rachel a Lea ef, "A oes i ni bellach ran neu etifeddiaeth yn nhu375? ein tad?
15הלוא נכריות נחשבנו לו כי מכרנו ויאכל גם אכול את כספנו׃
15 Onid ydym ni'n cael ein cyfrif ganddo yn estroniaid? Oherwydd y mae wedi'n gwerthu, ac wedi gwario'r arian.
16כי כל העשר אשר הציל אלהים מאבינו לנו הוא ולבנינו ועתה כל אשר אמר אלהים אליך עשה׃
16 Yr holl gyfoeth y mae Duw wedi ei gymryd oddi ar ein tad, ein heiddo ni a'n plant ydyw; yn awr, felly, gwna bopeth a ddywedodd Duw wrthyt."
17ויקם יעקב וישא את בניו ואת נשיו על הגמלים׃
17 Yna cododd Jacob a gosod ei blant a'i wragedd ar gamelod;
18וינהג את כל מקנהו ואת כל רכשו אשר רכש מקנה קנינו אשר רכש בפדן ארם לבוא אל יצחק אביו ארצה כנען׃
18 a thywysodd ei holl anifeiliaid a'i holl eiddo, a gafodd yn Padan Aram, i fynd i wlad Canaan at ei dad Isaac.
19ולבן הלך לגזז את צאנו ותגנב רחל את התרפים אשר לאביה׃
19 Yr oedd Laban wedi mynd i gneifio'i ddefaid, a lladrataodd Rachel ddelwau'r teulu oedd yn perthyn i'w thad.
20ויגנב יעקב את לב לבן הארמי על בלי הגיד לו כי ברח הוא׃
20 Felly bu i Jacob dwyllo Laban yr Aramead trwy ffoi heb ddweud wrtho.
21ויברח הוא וכל אשר לו ויקם ויעבר את הנהר וישם את פניו הר הגלעד׃
21 Ffodd gyda'i holl eiddo, a chroesi'r Ewffrates, a mynd i gyfeiriad mynydd-dir Gilead.
22ויגד ללבן ביום השלישי כי ברח יעקב׃
22 Ymhen tridiau rhoed gwybod i Laban fod Jacob wedi ffoi.
23ויקח את אחיו עמו וירדף אחריו דרך שבעת ימים וידבק אתו בהר הגלעד׃
23 Cymerodd yntau ei berthnasau gydag ef, a'i ymlid am saith diwrnod a'i ganlyn hyd fynydd-dir Gilead.
24ויבא אלהים אל לבן הארמי בחלם הלילה ויאמר לו השמר לך פן תדבר עם יעקב מטוב עד רע׃
24 Ond daeth Duw at Laban yr Aramead mewn breuddwyd nos, a dweud wrtho, "Gofala na ddywedi air wrth Jacob, na da na drwg."
25וישג לבן את יעקב ויעקב תקע את אהלו בהר ולבן תקע את אחיו בהר הגלעד׃
25 Pan oddiweddodd Laban Jacob, yr oedd Jacob wedi lledu ei babell yn y mynydd-dir; ac felly, gwersyllodd Laban gyda'i frodyr ym mynydd-dir Gilead.
26ויאמר לבן ליעקב מה עשית ותגנב את לבבי ותנהג את בנתי כשביות חרב׃
26 A dywedodd Laban wrth Jacob, "Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud? Yr wyt wedi fy nhwyllo, a dwyn ymaith fy merched fel caethion rhyfel.
27למה נחבאת לברח ותגנב אתי ולא הגדת לי ואשלחך בשמחה ובשרים בתף ובכנור׃
27 Pam y ffoaist yn ddirgel a'm twyllo? Pam na roist wybod i mi, er mwyn imi gael dy hebrwng yn llawen � chaniadau a thympan a thelyn?
28ולא נטשתני לנשק לבני ולבנתי עתה הסכלת עשו׃
28 Ni adewaist imi gusanu fy meibion a'm merched; yr wyt wedi gwneud peth ff�l.
29יש לאל ידי לעשות עמכם רע ואלהי אביכם אמש אמר אלי לאמר השמר לך מדבר עם יעקב מטוב עד רע׃
29 Gallwn wneud niwed i chwi, ond llefarodd Duw dy dad wrthyf neithiwr, a dweud, 'Gofala na ddywedi air wrth Jacob, na da na drwg.'
30ועתה הלך הלכת כי נכסף נכספתה לבית אביך למה גנבת את אלהי׃
30 Diau mai am iti hiraethu am du375? dy dad yr aethost ymaith, ond pam y lladrateaist fy nuwiau?"
31ויען יעקב ויאמר ללבן כי יראתי כי אמרתי פן תגזל את בנותיך מעמי׃
31 Yna atebodd Jacob Laban, "Ffoais am fod arnaf ofn, gan imi feddwl y byddit yn dwyn dy ferched oddi arnaf trwy drais.
32עם אשר תמצא את אלהיך לא יחיה נגד אחינו הכר לך מה עמדי וקח לך ולא ידע יעקב כי רחל גנבתם׃
32 Ond y sawl sy'n cadw dy dduwiau, na chaffed fyw! Yng ngu373?ydd ein brodyr myn wybod beth o'th eiddo sydd gyda mi, a chymer ef." Ni wyddai Jacob mai Rachel oedd wedi eu lladrata.
33ויבא לבן באהל יעקב ובאהל לאה ובאהל שתי האמהת ולא מצא ויצא מאהל לאה ויבא באהל רחל׃
33 Felly aeth Laban i mewn i babell Jacob, ac i babell Lea, ac i babell y ddwy forwyn, ond heb gael y duwiau. Daeth allan o babell Lea a mynd i mewn i babell Rachel.
34ורחל לקחה את התרפים ותשמם בכר הגמל ותשב עליהם וימשש לבן את כל האהל ולא מצא׃
34 Yr oedd Rachel wedi cymryd delwau'r teulu a'u gosod yng nghyfrwy'r camel, ac yr oedd yn eistedd arnynt. Chwiliodd Laban trwy'r babell heb eu cael.
35ותאמר אל אביה אל יחר בעיני אדני כי לוא אוכל לקום מפניך כי דרך נשים לי ויחפש ולא מצא את התרפים׃
35 A dywedodd Rachel wrth ei thad, "Peidied f'arglwydd � digio am na fedraf godi o'th flaen, oherwydd y mae arfer gwragedd arnaf." Er iddo chwilio, ni chafodd hyd i ddelwau'r teulu.
36ויחר ליעקב וירב בלבן ויען יעקב ויאמר ללבן מה פשעי מה חטאתי כי דלקת אחרי׃
36 Yna digiodd Jacob ac edliw i Laban, a dweud wrtho, "Beth yw fy nhrosedd? Beth yw fy mhechod, dy fod wedi fy erlid?
37כי מששת את כל כלי מה מצאת מכל כלי ביתך שים כה נגד אחי ואחיך ויוכיחו בין שנינו׃
37 Er iti chwilio fy holl eiddo, beth a gefaist sy'n perthyn i ti? Gosod ef yma yng ngu373?ydd fy mrodyr i a'th frodyr dithau, er mwyn iddynt farnu rhyngom ein dau.
38זה עשרים שנה אנכי עמך רחליך ועזיך לא שכלו ואילי צאנך לא אכלתי׃
38 Yr wyf bellach wedi bod ugain mlynedd gyda thi; nid yw dy ddefaid na'th eifr wedi erthylu, ac nid wyf wedi bwyta hyrddod dy braidd.
39טרפה לא הבאתי אליך אנכי אחטנה מידי תבקשנה גנבתי יום וגנבתי לילה׃
39 Pan fyddai anifail wedi ei ysglyfaethu, ni ddygais mohono erioed atat ti, ond derbyniais y golled fy hun; o'm llaw i y gofynnaist iawn am ladrad, prun ai yn y dydd neu yn y nos.
40הייתי ביום אכלני חרב וקרח בלילה ותדד שנתי מעיני׃
40 Dyma sut yr oeddwn i: yr oedd gwres y dydd ac oerni'r nos yn fy llethu, a chiliodd fy nghwsg oddi wrthyf;
41זה לי עשרים שנה בביתך עבדתיך ארבע עשרה שנה בשתי בנתיך ושש שנים בצאנך ותחלף את משכרתי עשרת מנים׃
41 b�m am ugain mlynedd yn dy du375?; gweithiais iti am bedair blynedd ar ddeg am dy ddwy ferch, ac am chwe blynedd am dy braidd, a newidiaist fy nghyflog ddengwaith.
42לולי אלהי אבי אלהי אברהם ופחד יצחק היה לי כי עתה ריקם שלחתני את עניי ואת יגיע כפי ראה אלהים ויוכח אמש׃
42 Oni bai fod Duw fy nhad, Duw Abraham ac Arswyd Isaac o'm plaid, diau y buasit wedi fy ngyrru i ffwrdd yn waglaw. Gwelodd Duw fy nghystudd a llafur fy nwylo, a neithiwr ceryddodd di."
43ויען לבן ויאמר אל יעקב הבנות בנתי והבנים בני והצאן צאני וכל אשר אתה ראה לי הוא ולבנתי מה אעשה לאלה היום או לבניהן אשר ילדו׃
43 Atebodd Laban a dweud wrth Jacob, "Fy merched i yw'r merched, a'm plant i yw'r plant, a'm praidd i yw'r praidd, ac y mae'r cwbl a weli yn eiddo i mi. Ond beth a wnaf heddiw ynghylch fy merched hyn, a'r plant a anwyd iddynt?
44ועתה לכה נכרתה ברית אני ואתה והיה לעד ביני ובינך׃
44 Tyrd, gwnawn gyfamod, ti a minnau; a bydd yn dystiolaeth rhyngom."
45ויקח יעקב אבן וירימה מצבה׃
45 Felly cymerodd Jacob garreg a'i gosod i fyny'n golofn.
46ויאמר יעקב לאחיו לקטו אבנים ויקחו אבנים ויעשו גל ויאכלו שם על הגל׃
46 Ac meddai Jacob wrth ei berthnasau, "Casglwch gerrig," a chymerasant gerrig a'u gwneud yn garnedd; a bwytasant yno wrth y garnedd.
47ויקרא לו לבן יגר שהדותא ויעקב קרא לו גלעד׃
47 Enwodd Laban hi Jegar-sahadwtha, ond galwodd Jacob hi Galeed.
48ויאמר לבן הגל הזה עד ביני ובינך היום על כן קרא שמו גלעד׃
48 Dywedodd Laban, "Y mae'r garnedd hon yn dystiolaeth rhyngom heddiw." Am hynny, enwodd hi Galeed,
49והמצפה אשר אמר יצף יהוה ביני ובינך כי נסתר איש מרעהו׃
49 a hefyd Mispa, oherwydd dywedodd, "Gwylied yr ARGLWYDD rhyngom, pan fyddwn o olwg ein gilydd.
50אם תענה את בנתי ואם תקח נשים על בנתי אין איש עמנו ראה אלהים עד ביני ובינך׃
50 Os bydd iti gam-drin fy merched, neu gymryd gwragedd heblaw fy merched, heb i neb ohonom ni wybod, y mae Duw yn dyst rhyngom."
51ויאמר לבן ליעקב הנה הגל הזה והנה המצבה אשר יריתי ביני ובינך׃
51 A dywedodd Laban wrth Jacob, "Dyma'r garnedd hon a'r golofn yr wyf wedi ei gosod rhyngom.
52עד הגל הזה ועדה המצבה אם אני לא אעבר אליך את הגל הזה ואם אתה לא תעבר אלי את הגל הזה ואת המצבה הזאת לרעה׃
52 Y mae'r garnedd hon yn dystiolaeth, ac y mae'r golofn hon yn dystiolaeth, na ddof heibio'r garnedd hon atat ti, ac na ddoi dithau heibio'r garnedd hon a'r golofn hon ataf fi, i wneud niwed.
53אלהי אברהם ואלהי נחור ישפטו בינינו אלהי אביהם וישבע יעקב בפחד אביו יצחק׃
53 Boed i Dduw Abraham a Duw Nachor, Duw eu tadau, farnu rhyngom." A thyngodd Jacob lw i Arswyd Isaac, ei dad,
54ויזבח יעקב זבח בהר ויקרא לאחיו לאכל לחם ויאכלו לחם וילינו בהר׃
54 ac offrymodd Jacob aberth ar y mynydd, a galw ar ei berthnasau i fwyta bara; a bwytasant fara ac aros dros nos ar y mynydd.
55וישכם לבן בבקר וינשק לבניו ולבנותיו ויברך אתהם וילך וישב לבן למקמו׃
55 Cododd Laban yn gynnar drannoeth a chusanodd ei blant a'i ferched a'u bendithio; yna aeth ymaith a dychwelyd i'w fro ei hun.