1ויעקב הלך לדרכו ויפגעו בו מלאכי אלהים׃
1 Aeth Jacob i'w daith, a chyfarfu angylion Duw ag ef;
2ויאמר יעקב כאשר ראם מחנה אלהים זה ויקרא שם המקום ההוא מחנים׃
2 a phan welodd hwy, dywedodd Jacob, "Dyma wersyll Duw." Felly enwodd y lle hwnnw Mahanaim.
3וישלח יעקב מלאכים לפניו אל עשו אחיו ארצה שעיר שדה אדום׃
3 Yna anfonodd Jacob negeswyr o'i flaen at ei frawd Esau i wlad Seir yn nhir Edom,
4ויצו אתם לאמר כה תאמרון לאדני לעשו כה אמר עבדך יעקב עם לבן גרתי ואחר עד עתה׃
4 a gorchymyn iddynt, "Dywedwch fel hyn wrth f'arglwydd Esau: 'Fel hyn y mae dy was Jacob yn dweud: B�m yn aros gyda Laban, ac yno y b�m hyd yn awr;
5ויהי לי שור וחמור צאן ועבד ושפחה ואשלחה להגיד לאדני למצא חן בעיניך׃
5 y mae gennyf ychen, asynnod, defaid, gweision a morynion, ac anfonais i fynegi i'm harglwydd, er mwyn imi gael ffafr yn dy olwg.'"
6וישבו המלאכים אל יעקב לאמר באנו אל אחיך אל עשו וגם הלך לקראתך וארבע מאות איש עמו׃
6 Dychwelodd y negeswyr at Jacob a dweud, "Daethom at dy frawd Esau, ac y mae ef yn dod i'th gyfarfod gyda phedwar cant o ddynion."
7ויירא יעקב מאד ויצר לו ויחץ את העם אשר אתו ואת הצאן ואת הבקר והגמלים לשני מחנות׃
7 Yna daeth ofn mawr ar Jacob, ac yr oedd mewn cyfyngder; rhannodd y bobl oedd gydag ef, a'r defaid, ychen a chamelod, yn ddau wersyll,
8ויאמר אם יבוא עשו אל המחנה האחת והכהו והיה המחנה הנשאר לפליטה׃
8 gan feddwl, "Os daw Esau at y naill wersyll a'i daro, yna caiff y llall ddianc."
9ויאמר יעקב אלהי אבי אברהם ואלהי אבי יצחק יהוה האמר אלי שוב לארצך ולמולדתך ואיטיבה עמך׃
9 A dywedodd Jacob, "O Dduw fy nhadau, Duw Abraham a Duw Isaac, O ARGLWYDD, dywedaist wrthyf, 'Dos yn �l i'th wlad ac at dy dylwyth, a gwnaf i ti ddaioni.'
10קטנתי מכל החסדים ומכל האמת אשר עשית את עבדך כי במקלי עברתי את הירדן הזה ועתה הייתי לשני מחנות׃
10 Nid wyf yn deilwng o gwbl o'r holl ymlyniad a'r holl ffyddlondeb a ddangosaist tuag at dy was; oherwydd deuthum dros yr Iorddonen hon heb ddim ond fy ffon, ond yn awr yr wyf yn ddau wersyll.
11הצילני נא מיד אחי מיד עשו כי ירא אנכי אתו פן יבוא והכני אם על בנים׃
11 Achub fi o law fy mrawd, o law Esau; y mae arnaf ei ofn, rhag iddo ddod a'n lladd, yn famau a phlant.
12ואתה אמרת היטב איטיב עמך ושמתי את זרעך כחול הים אשר לא יספר מרב׃
12 Yr wyt ti wedi addo, 'Yn ddiau gwnaf ddaioni i ti, a bydd dy hil fel tywod y m�r, sy'n rhy niferus i'w rifo.'"
13וילן שם בלילה ההוא ויקח מן הבא בידו מנחה לעשו אחיו׃
13 Arhosodd yno y noson honno, a chymerodd o'r hyn oedd ganddo anrheg i'w frawd Esau:
14עזים מאתים ותישים עשרים רחלים מאתים ואילים עשרים׃
14 dau gant o eifr ac ugain o fychod, dau gant o ddefaid ac ugain o hyrddod,
15גמלים מיניקות ובניהם שלשים פרות ארבעים ופרים עשרה אתנת עשרים ועירם עשרה׃
15 deg ar hugain o gamelod magu a'u llydnod, deugain o wartheg a deg o deirw, ugain o asennod a deg asyn.
16ויתן ביד עבדיו עדר עדר לבדו ויאמר אל עבדיו עברו לפני ורוח תשימו בין עדר ובין עדר׃
16 Rhoes hwy yng ngofal ei weision, bob gyr ar ei phen ei hun, a dywedodd wrth ei weision, "Ewch o'm blaen, a gadewch fwlch rhwng pob gyr a'r nesaf."
17ויצו את הראשון לאמר כי יפגשך עשו אחי ושאלך לאמר למי אתה ואנה תלך ולמי אלה לפניך׃
17 Gorchmynnodd i'r cyntaf, "Pan ddaw fy mrawd Esau i'th gyfarfod a gofyn, 'I bwy yr wyt yn perthyn? I ble'r wyt ti'n mynd? A phwy biau'r rhain sydd dan dy ofal?'
18ואמרת לעבדך ליעקב מנחה הוא שלוחה לאדני לעשו והנה גם הוא אחרינו׃
18 yna dywed, 'Dy was Jacob biau'r rhain; anfonwyd hwy'n anrheg i'm harglwydd Esau, ac y mae Jacob ei hun yn ein dilyn.'"
19ויצו גם את השני גם את השלישי גם את כל ההלכים אחרי העדרים לאמר כדבר הזה תדברון אל עשו במצאכם אתו׃
19 Rhoes yr un gorchymyn i'r ail a'r trydydd, ac i bob un oedd yn canlyn y gyrroedd, a dweud, "Yr un peth a ddywedwch chwithau wrth Esau pan ddewch i'w gyfarfod,
20ואמרתם גם הנה עבדך יעקב אחרינו כי אמר אכפרה פניו במנחה ההלכת לפני ואחרי כן אראה פניו אולי ישא פני׃
20 'Y mae dy was Jacob yn ein dilyn.'" Hyn oedd yn ei feddwl: "Enillaf ei ffafr �'r anrheg sy'n mynd o'm blaen; wedyn, pan ddof i'w gyfarfod, efallai y bydd yn fy nerbyn."
21ותעבר המנחה על פניו והוא לן בלילה ההוא במחנה׃
21 Felly anfonodd yr anrheg o'i flaen, ond treuliodd ef y noson honno yn y gwersyll.
22ויקם בלילה הוא ויקח את שתי נשיו ואת שתי שפחתיו ואת אחד עשר ילדיו ויעבר את מעבר יבק׃
22 Yn ystod y noson honno cododd Jacob a chymryd ei ddwy wraig, ei ddwy forwyn a'i un mab ar ddeg, a chroesi rhyd Jabboc.
23ויקחם ויעברם את הנחל ויעבר את אשר לו׃
23 Wedi iddo'u cymryd a'u hanfon dros yr afon, anfonodd ei eiddo drosodd hefyd.
24ויותר יעקב לבדו ויאבק איש עמו עד עלות השחר׃
24 Gadawyd Jacob ei hunan, ac ymgodymodd gu373?r ag ef hyd doriad y wawr.
25וירא כי לא יכל לו ויגע בכף ירכו ותקע כף ירך יעקב בהאבקו עמו׃
25 Pan welodd y gu373?r nad oedd yn cael y trechaf arno, trawodd wasg ei glun, a datgysylltwyd clun Jacob wrth iddo ymgodymu ag ef.
26ויאמר שלחני כי עלה השחר ויאמר לא אשלחך כי אם ברכתני׃
26 Yna dywedodd y gu373?r, "Gollwng fi, oherwydd y mae'n gwawrio." Ond atebodd yntau, "Ni'th ollyngaf heb iti fy mendithio."
27ויאמר אליו מה שמך ויאמר יעקב׃
27 "Beth yw d'enw?" meddai ef. Ac atebodd yntau, "Jacob."
28ויאמר לא יעקב יאמר עוד שמך כי אם ישראל כי שרית עם אלהים ועם אנשים ותוכל׃
28 Yna dywedodd, "Ni'th elwir Jacob mwyach, ond Israel, oherwydd yr wyt wedi ymdrechu � Duw a dynion, ac wedi gorchfygu."
29וישאל יעקב ויאמר הגידה נא שמך ויאמר למה זה תשאל לשמי ויברך אתו שם׃
29 A gofynnodd Jacob iddo, "Dywed imi dy enw." Ond dywedodd yntau, "Pam yr wyt yn gofyn fy enw?" A bendithiodd ef yno.
30ויקרא יעקב שם המקום פניאל כי ראיתי אלהים פנים אל פנים ותנצל נפשי׃
30 Felly enwodd Jacob y lle Penuel, a dweud, "Gwelais Dduw wyneb yn wyneb, ond arbedwyd fy mywyd."
31ויזרח לו השמש כאשר עבר את פנואל והוא צלע על ירכו׃
31 Cododd yr haul arno fel yr oedd yn mynd heibio i Penuel, ac yr oedd yn gloff o'i glun.
32על כן לא יאכלו בני ישראל את גיד הנשה אשר על כף הירך עד היום הזה כי נגע בכף ירך יעקב בגיד הנשה׃
32 Dyna pam nad yw plant Israel yn bwyta giewyn gwasg y glun hyd heddiw, oherwydd trawo gwasg clun Jacob i fyw y giewyn.