1ויבא יוסף ויגד לפרעה ויאמר אבי ואחי וצאנם ובקרם וכל אשר להם באו מארץ כנען והנם בארץ גשן׃
1 Yna aeth Joseff a dweud wrth Pharo, "Y mae fy nhad a'm brodyr wedi dod o wlad Canaan, gyda'u preiddiau, eu gyrroedd, a'u holl eiddo, ac y maent wedi cyrraedd gwlad Gosen."
2ומקצה אחיו לקח חמשה אנשים ויצגם לפני פרעה׃
2 Cymerodd bump o'i frodyr a'u cyflwyno i Pharo,
3ויאמר פרעה אל אחיו מה מעשיכם ויאמרו אל פרעה רעה צאן עבדיך גם אנחנו גם אבותינו׃
3 a gofynnodd Pharo i'r brodyr, "Beth yw eich galwedigaeth?" Atebasant, "Bugeiliaid yw dy weision, fel ein tadau."
4ויאמרו אל פרעה לגור בארץ באנו כי אין מרעה לצאן אשר לעבדיך כי כבד הרעב בארץ כנען ועתה ישבו נא עבדיך בארץ גשן׃
4 Dywedasant hefyd wrth Pharo, "Yr ydym wedi dod i aros dros dro yn y wlad, gan nad oes borfa i anifeiliaid dy weision, oherwydd y mae'r newyn yn drwm yng ngwlad Canaan. Yn awr, caniat� i'th weision gael aros yng ngwlad Gosen."
5ויאמר פרעה אל יוסף לאמר אביך ואחיך באו אליך׃
5 Yna dywedodd Pharo wrth Joseff, "Daeth dy dad a'th frodyr atat,
6ארץ מצרים לפניך הוא במיטב הארץ הושב את אביך ואת אחיך ישבו בארץ גשן ואם ידעת ויש בם אנשי חיל ושמתם שרי מקנה על אשר לי׃
6 ac y mae gwlad yr Aifft o'th flaen. Rho gartref i'th dad a'th frodyr yn y man gorau, a gad iddynt fyw yng ngwlad Gosen. Os gwyddost am wu375?r medrus yn eu mysg, gosod hwy yn benbugeiliaid ar fy anifeiliaid i."
7ויבא יוסף את יעקב אביו ויעמדהו לפני פרעה ויברך יעקב את פרעה׃
7 Daeth Joseff �'i dad i'w gyflwyno gerbron Pharo, a bendithiodd Jacob Pharo.
8ויאמר פרעה אל יעקב כמה ימי שני חייך׃
8 Gofynnodd Pharo i Jacob, "Faint yw dy oed?"
9ויאמר יעקב אל פרעה ימי שני מגורי שלשים ומאת שנה מעט ורעים היו ימי שני חיי ולא השיגו את ימי שני חיי אבתי בימי מגוריהם׃
9 Atebodd Jacob, "Yr wyf wedi cael ymdeithio ar y ddaear am gant tri deg o flynyddoedd. Byr a chaled fu fy ngyrfa, ac ni chyrhaeddais eto oed fy nhadau pan oeddent hwy yn fyw."
10ויברך יעקב את פרעה ויצא מלפני פרעה׃
10 Wedi i Jacob fendithio Pharo, aeth allan o'i u373?ydd.
11ויושב יוסף את אביו ואת אחיו ויתן להם אחזה בארץ מצרים במיטב הארץ בארץ רעמסס כאשר צוה פרעה׃
11 Yna gwnaeth Joseff gartref i'w dad a'i frodyr, a rhoes iddynt feddiant yn y rhan orau o wlad yr Aifft, yn nhir Rameses, fel y gorchmynnodd Pharo.
12ויכלכל יוסף את אביו ואת אחיו ואת כל בית אביו לחם לפי הטף׃
12 Gofalodd Joseff am fwyd i'w dad a'i frodyr, ac i holl dylwyth ei dad yn �l yr angen.
13ולחם אין בכל הארץ כי כבד הרעב מאד ותלה ארץ מצרים וארץ כנען מפני הרעב׃
13 Darfu'r bwyd drwy'r wlad, am fod y newyn yn drwm iawn; a nychodd gwlad yr Aifft a gwlad Canaan o achos y newyn.
14וילקט יוסף את כל הכסף הנמצא בארץ מצרים ובארץ כנען בשבר אשר הם שברים ויבא יוסף את הכסף ביתה פרעה׃
14 Casglodd Joseff bob darn o arian a oedd yn yr Aifft a Chanaan yn d�l am yr u375?d a brynwyd, a daeth �'r arian i du375? Pharo.
15ויתם הכסף מארץ מצרים ומארץ כנען ויבאו כל מצרים אל יוסף לאמר הבה לנו לחם ולמה נמות נגדך כי אפס כסף׃
15 Pan wariwyd yr holl arian yn yr Aifft a Chanaan, daeth yr holl Eifftiaid at Joseff a dweud, "Rho inni fwyd. Pam y byddwn farw o flaen dy lygaid? Y mae ein harian wedi darfod yn llwyr."
16ויאמר יוסף הבו מקניכם ואתנה לכם במקניכם אם אפס כסף׃
16 Atebodd Joseff, "Os darfu'r arian, dewch �'ch anifeiliaid, a rhoddaf fwyd i chwi yn gyfnewid amdanynt."
17ויביאו את מקניהם אל יוסף ויתן להם יוסף לחם בסוסים ובמקנה הצאן ובמקנה הבקר ובחמרים וינהלם בלחם בכל מקנהם בשנה ההוא׃
17 Felly daethant �'u hanifeiliaid at Joseff. Rhoddodd yntau fwyd iddynt yn gyfnewid am y meirch, y defaid, y gwartheg a'r asynnod. Cynhaliodd hwy dros y flwyddyn honno trwy gyfnewid bwyd am eu holl anifeiliaid.
18ותתם השנה ההוא ויבאו אליו בשנה השנית ויאמרו לו לא נכחד מאדני כי אם תם הכסף ומקנה הבהמה אל אדני לא נשאר לפני אדני בלתי אם גויתנו ואדמתנו׃
18 Pan ddaeth y flwyddyn i ben, daethant ato y flwyddyn ddilynol a dweud, "Ni chelwn ddim oddi wrth ein harglwydd: y mae ein harian wedi darfod, aeth ein hanifeiliaid hefyd yn eiddo i'n harglwydd, ac nid oes yn aros i'n harglwydd ond ein cyrff a'n tir.
19למה נמות לעיניך גם אנחנו גם אדמתנו קנה אתנו ואת אדמתנו בלחם ונהיה אנחנו ואדמתנו עבדים לפרעה ותן זרע ונחיה ולא נמות והאדמה לא תשם׃
19 Pam y byddwn farw o flaen dy lygaid, ni a'n tir? Pryn ni a'n tir am fwyd, a byddwn ni a'n tir yn gaethion i Pharo; rho dithau had inni i'n cadw'n fyw, rhag inni farw ac i'r tir fynd yn ddiffaith."
20ויקן יוסף את כל אדמת מצרים לפרעה כי מכרו מצרים איש שדהו כי חזק עלהם הרעב ותהי הארץ לפרעה׃
20 Felly prynodd Joseff holl dir yr Aifft i Pharo. Gwerthodd pob un o'r Eifftiaid ei faes am fod y newyn yn drwm, ac aeth y wlad yn eiddo Pharo.
21ואת העם העביר אתו לערים מקצה גבול מצרים ועד קצהו׃
21 Ac am y bobl, fe'u gwnaeth i gyd yn gaethion, o naill gwr yr Aifft i'r llall.
22רק אדמת הכהנים לא קנה כי חק לכהנים מאת פרעה ואכלו את חקם אשר נתן להם פרעה על כן לא מכרו את אדמתם׃
22 Yr unig dir na phrynodd mohono oedd tir yr offeiriaid. Yr oedd gan yr offeiriaid gyfran wedi ei phennu gan Pharo, ac ar y gyfran a roddwyd iddynt gan Pharo yr oeddent yn byw; felly ni werthasant eu tir.
23ויאמר יוסף אל העם הן קניתי אתכם היום ואת אדמתכם לפרעה הא לכם זרע וזרעתם את האדמה׃
23 Yna dywedodd Joseff wrth y bobl, "Yr wyf heddiw wedi eich prynu chwi a'ch tir i Pharo. Dyma had ichwi; heuwch chwithau'r tir.
24והיה בתבואת ונתתם חמישית לפרעה וארבע הידת יהיה לכם לזרע השדה ולאכלכם ולאשר בבתיכם ולאכל לטפכם׃
24 Pan ddaw'r cynhaeaf rhowch y bumed ran i Pharo. Cewch gadw pedair rhan o'r cnwd yn had i'r meysydd ac yn fwyd i chwi, eich teuluoedd a'ch rhai bach."
25ויאמרו החיתנו נמצא חן בעיני אדני והיינו עבדים לפרעה׃
25 Meddent hwythau, "Yr wyt wedi arbed ein bywyd. Os yw'n dderbyniol gan ein harglwydd, byddwn yn gaethion i Pharo."
26וישם אתה יוסף לחק עד היום הזה על אדמת מצרים לפרעה לחמש רק אדמת הכהנים לבדם לא היתה לפרעה׃
26 Felly gwnaeth Joseff hi'n ddeddf yng ngwlad yr Aifft, deddf sy'n sefyll hyd heddiw, fod y bumed ran yn eiddo i Pharo. Tir yr offeiriaid oedd yr unig dir na ddaeth yn eiddo i Pharo.
27וישב ישראל בארץ מצרים בארץ גשן ויאחזו בה ויפרו וירבו מאד׃
27 Arhosodd yr Israeliaid yn yr Aifft, yng ngwlad Gosen. Cawsant feddiannau ynddi, a bu iddynt gynyddu ac amlhau yn ddirfawr.
28ויחי יעקב בארץ מצרים שבע עשרה שנה ויהי ימי יעקב שני חייו שבע שנים וארבעים ומאת שנה׃
28 Bu Jacob fyw ddwy flynedd ar bymtheg yng ngwlad yr Aifft. Felly yr oedd oed llawn Jacob yn gant pedwar deg a saith.
29ויקרבו ימי ישראל למות ויקרא לבנו ליוסף ויאמר לו אם נא מצאתי חן בעיניך שים נא ידך תחת ירכי ועשית עמדי חסד ואמת אל נא תקברני במצרים׃
29 Pan nesaodd diwrnod marw Israel, galwodd ei fab Joseff, ac meddai wrtho, "Os cefais unrhyw ffafr yn dy olwg, rho dy law dan fy nghlun a thynga y byddi'n deyrngar a ffyddlon imi. Paid �'m claddu yn yr Aifft,
30ושכבתי עם אבתי ונשאתני ממצרים וקברתני בקברתם ויאמר אנכי אעשה כדברך׃
30 ond pan orweddaf gyda'm hynafiaid, cluda fi o'r Aifft a'm claddu yn eu beddrod hwy." Atebodd Joseff, "Mi wnaf fel yr wyt yn dymuno."
31ויאמר השבעה לי וישבע לו וישתחו ישראל על ראש המטה׃
31 Ychwanegodd Jacob, "Dos ar dy lw wrthyf." Aeth yntau ar ei lw. Yna ymgrymodd Israel a'i bwys ar ei ffon.