1ויהי אחרי הדברים האלה ויאמר ליוסף הנה אביך חלה ויקח את שני בניו עמו את מנשה ואת אפרים׃
1 Ar �l hyn dywedwyd wrth Joseff, "Y mae dy dad yn wael." Felly cymerodd gydag ef ei ddau fab, Manasse ac Effraim,
2ויגד ליעקב ויאמר הנה בנך יוסף בא אליך ויתחזק ישראל וישב על המטה׃
2 a phan ddywedwyd wrth Jacob, "Y mae dy fab Joseff wedi dod atat", cafodd Israel nerth i godi ar ei eistedd yn y gwely.
3ויאמר יעקב אל יוסף אל שדי נראה אלי בלוז בארץ כנען ויברך אתי׃
3 Yna dywedodd Jacob wrth Joseff, "Ymddangosodd Duw Hollalluog i mi yn Lus, yng ngwlad Canaan, a'm bendithio
4ויאמר אלי הנני מפרך והרביתך ונתתיך לקהל עמים ונתתי את הארץ הזאת לזרעך אחריך אחזת עולם׃
4 a dweud wrthyf, 'Fe'th wnaf di'n ffrwythlon a lluosog, yn gynulliad o bobloedd, a rhof y wlad hon yn etifeddiaeth dragwyddol i'th ddisgynyddion ar dy �l.'
5ועתה שני בניך הנולדים לך בארץ מצרים עד באי אליך מצרימה לי הם אפרים ומנשה כראובן ושמעון יהיו לי׃
5 Ac yn awr, fi piau dy ddau fab, a anwyd i ti yng ngwlad yr Aifft cyn i mi ddod atat i'r Aifft. Fi piau Effraim a Manasse; byddant fel Reuben a Simeon i mi.
6ומולדתך אשר הולדת אחריהם לך יהיו על שם אחיהם יקראו בנחלתם׃
6 Ti fydd piau'r plant a genhedli ar eu h�l, ond dan enw eu brodyr y byddant yn etifeddu.
7ואני בבאי מפדן מתה עלי רחל בארץ כנען בדרך בעוד כברת ארץ לבא אפרתה ואקברה שם בדרך אפרת הוא בית לחם׃
7 Oherwydd fel yr oeddwn yn dod o Padan, bu Rachel farw ar y daith yng ngwlad Canaan pan oedd eto dipyn o ffordd i Effrath, a chleddais hi yno ar y ffordd i Effrath, hynny yw Bethlehem."
8וירא ישראל את בני יוסף ויאמר מי אלה׃
8 Pan welodd Israel feibion Joseff, gofynnodd, "Pwy yw'r rhain?"
9ויאמר יוסף אל אביו בני הם אשר נתן לי אלהים בזה ויאמר קחם נא אלי ואברכם׃
9 Ac atebodd Joseff ei dad, "Dyma fy meibion a roddodd Duw imi yma." Dywedodd yntau, "Tyrd � hwy ataf i mi eu bendithio."
10ועיני ישראל כבדו מזקן לא יוכל לראות ויגש אתם אליו וישק להם ויחבק להם׃
10 Yr oedd llygaid Israel wedi pylu gan henaint, ac ni allai weld. Felly aeth Joseff � hwy yn nes at ei dad, a chusanodd yntau hwy a'u cofleidio.
11ויאמר ישראל אל יוסף ראה פניך לא פללתי והנה הראה אתי אלהים גם את זרעך׃
11 A dywedodd Israel wrth Joseff, "Ni feddyliais y cawn weld dy wyneb byth eto, a dyma Dduw wedi peri imi weld dy blant hefyd."
12ויוצא יוסף אתם מעם ברכיו וישתחו לאפיו ארצה׃
12 Derbyniodd Joseff hwy oddi ar lin Jacob, ac ymgrymodd i'r llawr.
13ויקח יוסף את שניהם את אפרים בימינו משמאל ישראל ואת מנשה בשמאלו מימין ישראל ויגש אליו׃
13 Yna cymerodd Joseff y ddau ohonynt, Effraim yn ei law dde i fod ar law chwith Israel, a Manasse yn ei law chwith i fod ar law dde Israel, a daeth � hwy ato.
14וישלח ישראל את ימינו וישת על ראש אפרים והוא הצעיר ואת שמאלו על ראש מנשה שכל את ידיו כי מנשה הבכור׃
14 Estynnodd Israel ei law dde a'i gosod ar ben Effraim, yr ieuengaf, a'i law chwith ar ben Manasse, trwy groesi ei ddwylo, er mai Manasse oedd yr hynaf.
15ויברך את יוסף ויאמר האלהים אשר התהלכו אבתי לפניו אברהם ויצחק האלהים הרעה אתי מעודי עד היום הזה׃
15 Yna bendithiodd Joseff a dweud: "Y Duw y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac o'i flaen, y Duw a fu'n fugail imi trwy fy mywyd hyd heddiw,
16המלאך הגאל אתי מכל רע יברך את הנערים ויקרא בהם שמי ושם אבתי אברהם ויצחק וידגו לרב בקרב הארץ׃
16 yr angel a'm gwaredodd rhag pob drwg, bydded iddo ef fendithio'r llanciau hyn. Bydded arnynt fy enw i ac enw fy nhadau, Abraham ac Isaac, a boed iddynt gynyddu yn niferus ar y ddaear."
17וירא יוסף כי ישית אביו יד ימינו על ראש אפרים וירע בעיניו ויתמך יד אביו להסיר אתה מעל ראש אפרים על ראש מנשה׃
17 Gwelodd Joseff fod ei dad wedi gosod ei law dde ar ben Effraim, ac nid oedd yn hoffi hynny. Gafaelodd yn llaw ei dad i'w symud oddi ar ben Effraim a'i gosod ar ben Manasse,
18ויאמר יוסף אל אביו לא כן אבי כי זה הבכר שים ימינך על ראשו׃
18 ac meddai Joseff wrth ei dad, "Nid fel yna, fy nhad; hwn yw'r cyntafanedig, gosod dy law dde ar ei ben ef."
19וימאן אביו ויאמר ידעתי בני ידעתי גם הוא יהיה לעם וגם הוא יגדל ואולם אחיו הקטן יגדל ממנו וזרעו יהיה מלא הגוים׃
19 Ond gwrthododd ei dad gan ddweud, "Mi wn i, fy mab, mi wn i. Bydd yntau hefyd yn bobl, a bydd yn fawr; ond bydd ei frawd ieuengaf yn fwy nag ef, a bydd ei ddisgynyddion yn lliaws o genhedloedd."
20ויברכם ביום ההוא לאמור בך יברך ישראל לאמר ישמך אלהים כאפרים וכמנשה וישם את אפרים לפני מנשה׃
20 Felly bendithiodd hwy y dydd hwnnw a dweud: "Ynoch chwi bydd Israel yn bendithio ac yn dweud, 'Gwnaed Duw di fel Effraim a Manasse.'" Felly gosododd Effraim o flaen Manasse.
21ויאמר ישראל אל יוסף הנה אנכי מת והיה אלהים עמכם והשיב אתכם אל ארץ אבתיכם׃
21 Yna dywedodd Israel wrth Joseff, "Yr wyf yn marw, ond bydd Duw gyda chwi, ac fe'ch dychwel i dir eich hynafiaid.
22ואני נתתי לך שכם אחד על אחיך אשר לקחתי מיד האמרי בחרבי ובקשתי׃
22 A rhoddaf i ti yn hytrach nag i'th frodyr gefnen o dir a gymerais oddi ar yr Amoriaid �'m cleddyf ac �'m bwa."