Hebrew: Modern

Welsh

Genesis

7

1ויאמר יהוה לנח בא אתה וכל ביתך אל התבה כי אתך ראיתי צדיק לפני בדור הזה׃
1 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Noa, "Dos i mewn i'r arch, ti a'th holl deulu, oherwydd gwelais dy fod di yn gyfiawn ger fy mron yn y genhedlaeth hon.
2מכל הבהמה הטהורה תקח לך שבעה שבעה איש ואשתו ומן הבהמה אשר לא טהרה הוא שנים איש ואשתו׃
2 Cymer gyda thi saith b�r o'r holl anifeiliaid gl�n, y gwryw a'i gymar; a ph�r o'r anifeiliaid nad ydynt l�n, y gwryw a'i gymar;
3גם מעוף השמים שבעה שבעה זכר ונקבה לחיות זרע על פני כל הארץ׃
3 a phob yn saith b�r hefyd o adar yr awyr, y gwryw a'r fenyw, i gadw eu hil yn fyw ar wyneb yr holl ddaear.
4כי לימים עוד שבעה אנכי ממטיר על הארץ ארבעים יום וארבעים לילה ומחיתי את כל היקום אשר עשיתי מעל פני האדמה׃
4 Oherwydd ymhen saith diwrnod paraf iddi lawio ar y ddaear am ddeugain diwrnod a deugain nos, a byddaf yn dileu oddi ar wyneb y ddaear bopeth byw a wneuthum."
5ויעש נח ככל אשר צוהו יהוה׃
5 Gwnaeth Noa bopeth fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddo.
6ונח בן שש מאות שנה והמבול היה מים על הארץ׃
6 Chwe chant oed oedd Noa pan ddaeth dyfroedd y dilyw ar y ddaear.
7ויבא נח ובניו ואשתו ונשי בניו אתו אל התבה מפני מי המבול׃
7 Aeth Noa i mewn i'r arch, a'i feibion a'i wraig a gwragedd ei feibion gydag ef, rhag dyfroedd y dilyw.
8מן הבהמה הטהורה ומן הבהמה אשר איננה טהרה ומן העוף וכל אשר רמש על האדמה׃
8 Cymerodd o'r anifeiliaid gl�n a'r anifeiliaid nad oeddent l�n, o'r adar a phopeth oedd yn ymlusgo ar y tir,
9שנים שנים באו אל נח אל התבה זכר ונקבה כאשר צוה אלהים את נח׃
9 a daethant i mewn ato i'r arch bob yn ddau, yn wryw a benyw, fel y gorchmynnodd Duw i Noa.
10ויהי לשבעת הימים ומי המבול היו על הארץ׃
10 Ymhen saith diwrnod daeth dyfroedd y dilyw ar y ddaear.
11בשנת שש מאות שנה לחיי נח בחדש השני בשבעה עשר יום לחדש ביום הזה נבקעו כל מעינת תהום רבה וארבת השמים נפתחו׃
11 Yn y chwe chanfed flwyddyn o oes Noa, yn yr ail fis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o'r mis, y diwrnod hwnnw rhwygwyd holl ffynhonnau'r dyfnder mawr ac agorwyd ffenestri'r nefoedd,
12ויהי הגשם על הארץ ארבעים יום וארבעים לילה׃
12 fel y bu'n glawio ar y ddaear am ddeugain diwrnod a deugain nos.
13בעצם היום הזה בא נח ושם וחם ויפת בני נח ואשת נח ושלשת נשי בניו אתם אל התבה׃
13 Y diwrnod hwnnw aeth Noa a'i feibion Sem, Cham a Jaffeth, gwraig Noa a thair gwraig ei feibion hefyd gyda hwy i mewn i'r arch,
14המה וכל החיה למינה וכל הבהמה למינה וכל הרמש הרמש על הארץ למינהו וכל העוף למינהו כל צפור כל כנף׃
14 hwy a phob bwystfil yn �l ei rywogaeth, a phob anifail yn �l ei rywogaeth, a phob peth sy'n ymlusgo ar y ddaear yn �l ei rywogaeth, a'r holl adar yn �l eu rhywogaeth, pob aderyn asgellog.
15ויבאו אל נח אל התבה שנים שנים מכל הבשר אשר בו רוח חיים׃
15 Daethant at Noa i'r arch bob yn ddau, o bob creadur ag anadl einioes ynddo.
16והבאים זכר ונקבה מכל בשר באו כאשר צוה אתו אלהים ויסגר יהוה בעדו׃
16 Yr oeddent yn dod yn wryw ac yn fenyw o bob creadur, ac aethant i mewn fel y gorchmynnodd Duw iddo; a chaeodd yr ARGLWYDD arno.
17ויהי המבול ארבעים יום על הארץ וירבו המים וישאו את התבה ותרם מעל הארץ׃
17 Am ddeugain diwrnod y bu'r dilyw yn dod ar y ddaear; amlhaodd y dyfroedd, gan gludo'r arch a'i chodi oddi ar y ddaear.
18ויגברו המים וירבו מאד על הארץ ותלך התבה על פני המים׃
18 Cryfhaodd y dyfroedd ac amlhau'n ddirfawr ar y ddaear, a moriodd yr arch ar wyneb y dyfroedd.
19והמים גברו מאד מאד על הארץ ויכסו כל ההרים הגבהים אשר תחת כל השמים׃
19 Cryfhaodd y dyfroedd gymaint ar y ddaear nes gorchuddio'r holl fynyddoedd uchel ym mhob man dan y nefoedd;
20חמש עשרה אמה מלמעלה גברו המים ויכסו ההרים׃
20 cododd y dyfroedd dros y mynyddoedd a'u gorchuddio dan ddyfnder o bymtheg cufydd.
21ויגוע כל בשר הרמש על הארץ בעוף ובבהמה ובחיה ובכל השרץ השרץ על הארץ וכל האדם׃
21 Trengodd pob cnawd oedd yn symud ar y ddaear, yn adar, anifeiliaid, bwystfilod, popeth oedd yn heigio ar y ddaear, a phobl hefyd;
22כל אשר נשמת רוח חיים באפיו מכל אשר בחרבה מתו׃
22 bu farw popeth ar y tir sych oedd ag anadl einioes yn ei ffroenau.
23וימח את כל היקום אשר על פני האדמה מאדם עד בהמה עד רמש ועד עוף השמים וימחו מן הארץ וישאר אך נח ואשר אתו בתבה׃
23 Dilewyd popeth byw oedd ar wyneb y tir, yn ddyn ac anifail, yn ymlusgiaid ac adar yr awyr; fe'u dilewyd o'r ddaear. Noa yn unig a adawyd, a'r rhai oedd gydag ef yn yr arch.
24ויגברו המים על הארץ חמשים ומאת יום׃
24 Parhaodd y dyfroedd ar y ddaear am gant a hanner o ddyddiau.