Hebrew: Modern

Welsh

Genesis

8

1ויזכר אלהים את נח ואת כל החיה ואת כל הבהמה אשר אתו בתבה ויעבר אלהים רוח על הארץ וישכו המים׃
1 Cofiodd Duw am Noa a'r holl fwystfilod a'r holl anifeiliaid oedd gydag ef yn yr arch. Parodd Duw i wynt chwythu dros y ddaear, a gostyngodd y dyfroedd;
2ויסכרו מעינת תהום וארבת השמים ויכלא הגשם מן השמים׃
2 caewyd ffynhonnau'r dyfnder a ffenestri'r nefoedd, ac ataliwyd y glaw o'r nef.
3וישבו המים מעל הארץ הלוך ושוב ויחסרו המים מקצה חמשים ומאת יום׃
3 Ciliodd y dyfroedd yn raddol oddi ar y ddaear, ac wedi cant a hanner o ddyddiau aeth y dyfroedd ar drai.
4ותנח התבה בחדש השביעי בשבעה עשר יום לחדש על הרי אררט׃
4 Yn y seithfed mis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o'r mis, glaniodd yr arch ar fynyddoedd Ararat.
5והמים היו הלוך וחסור עד החדש העשירי בעשירי באחד לחדש נראו ראשי ההרים׃
5 Ciliodd y dyfroedd yn raddol hyd y degfed mis; ac yn y degfed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, daeth pennau'r mynyddoedd i'r golwg.
6ויהי מקץ ארבעים יום ויפתח נח את חלון התבה אשר עשה׃
6 Ymhen deugain diwrnod agorodd Noa y ffenestr yr oedd wedi ei gwneud yn yr arch,
7וישלח את הערב ויצא יצוא ושוב עד יבשת המים מעל הארץ׃
7 ac anfon allan gigfran i weld a oedd y dyfroedd wedi treio, ac aeth hithau yma ac acw nes i'r dyfroedd sychu oddi ar y ddaear.
8וישלח את היונה מאתו לראות הקלו המים מעל פני האדמה׃
8 Yna gollyngodd golomen i weld a oedd y dyfroedd wedi treio oddi ar wyneb y tir;
9ולא מצאה היונה מנוח לכף רגלה ותשב אליו אל התבה כי מים על פני כל הארץ וישלח ידו ויקחה ויבא אתה אליו אל התבה׃
9 ond ni chafodd y golomen le i roi ei throed i lawr, a dychwelodd ato i'r arch am fod du373?r dros wyneb yr holl ddaear. Estynnodd yntau ei law i'w derbyn, a'i chymryd ato i'r arch.
10ויחל עוד שבעת ימים אחרים ויסף שלח את היונה מן התבה׃
10 Arhosodd eto saith diwrnod, ac anfonodd y golomen eilwaith o'r arch.
11ותבא אליו היונה לעת ערב והנה עלה זית טרף בפיה וידע נח כי קלו המים מעל הארץ׃
11 Pan ddychwelodd y golomen ato gyda'r hwyr, yr oedd yn ei phig ddeilen olewydd newydd ei thynnu; a deallodd Noa fod y dyfroedd wedi treio oddi ar y ddaear.
12וייחל עוד שבעת ימים אחרים וישלח את היונה ולא יספה שוב אליו עוד׃
12 Arhosodd eto saith diwrnod; anfonodd allan y golomen, ond ni ddaeth yn �l ato y tro hwn.
13ויהי באחת ושש מאות שנה בראשון באחד לחדש חרבו המים מעל הארץ ויסר נח את מכסה התבה וירא והנה חרבו פני האדמה׃
13 Yn y flwyddyn chwe chant ac un o oed Noa, yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o'r mis, sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear; a symudodd Noa gaead yr arch, a phan edrychodd allan, gwelodd wyneb y tir yn sychu.
14ובחדש השני בשבעה ועשרים יום לחדש יבשה הארץ׃
14 Erbyn yr ail fis, ar y seithfed dydd ar hugain o'r mis, yr oedd y ddaear wedi sychu.
15וידבר אלהים אל נח לאמר׃
15 Yna llefarodd Duw wrth Noa, a dweud,
16צא מן התבה אתה ואשתך ובניך ונשי בניך אתך׃
16 "Dos allan o'r arch, ti a'th wraig a'th feibion a gwragedd dy feibion gyda thi;
17כל החיה אשר אתך מכל בשר בעוף ובבהמה ובכל הרמש הרמש על הארץ הוצא אתך ושרצו בארץ ופרו ורבו על הארץ׃
17 a dwg allan gyda thi bob creadur byw o bob cnawd, yn adar ac anifeiliaid a phopeth sy'n ymlusgo ar y ddaear, er mwyn iddynt epilio ar y ddaear, a ffrwytho ac amlhau ynddi."
18ויצא נח ובניו ואשתו ונשי בניו אתו׃
18 Felly aeth Noa allan gyda'i feibion a'i wraig a gwragedd ei feibion;
19כל החיה כל הרמש וכל העוף כל רומש על הארץ למשפחתיהם יצאו מן התבה׃
19 hefyd aeth allan o'r arch bob bwystfil, pob ymlusgiad, pob aderyn a phob peth sy'n ymlusgo ar y ddaear, yn �l eu rhywogaeth.
20ויבן נח מזבח ליהוה ויקח מכל הבהמה הטהורה ומכל העוף הטהר ויעל עלת במזבח׃
20 Yna adeiladodd Noa allor i'r ARGLWYDD, a chymryd rhai o bob math o'r anifeiliaid gl�n ac o'r adar gl�n, ac offrymu poethoffrymau ar yr allor.
21וירח יהוה את ריח הניחח ויאמר יהוה אל לבו לא אסף לקלל עוד את האדמה בעבור האדם כי יצר לב האדם רע מנעריו ולא אסף עוד להכות את כל חי כאשר עשיתי׃
21 A phan glywodd yr ARGLWYDD yr arogl hyfryd, dywedodd yr ARGLWYDD ynddo'i hun, "Ni felltithiaf y ddaear mwyach o achos dyn, er bod gogwydd ei feddwl yn ddrwg o'i ieuenctid; ni ddifethaf eto bopeth byw fel y gwneuthum.
22עד כל ימי הארץ זרע וקציר וקר וחם וקיץ וחרף ויום ולילה לא ישבתו׃
22 Tra pery'r ddaear, ni pheidia pryd hau a medi, oerni a gwres, haf a gaeaf, dydd a nos."