Hebrew: Modern

Welsh

Genesis

9

1ויברך אלהים את נח ואת בניו ויאמר להם פרו ורבו ומלאו את הארץ׃
1 Bendithiodd Duw Noa a'i feibion a dweud, "Byddwch ffrwythlon, amlhewch a llanwch y ddaear.
2ומוראכם וחתכם יהיה על כל חית הארץ ועל כל עוף השמים בכל אשר תרמש האדמה ובכל דגי הים בידכם נתנו׃
2 Bydd eich ofn a'ch arswyd ar yr holl fwystfilod gwyllt, ar holl adar yr awyr, ar holl ymlusgiaid y tir ac ar holl bysgod y m�r; gosodwyd hwy dan eich awdurdod.
3כל רמש אשר הוא חי לכם יהיה לאכלה כירק עשב נתתי לכם את כל׃
3 Bydd popeth byw sy'n symud yn fwyd i chwi; fel y rhoddais eisoes lysiau gleision i chwi, rhoddaf i chwi bopeth.
4אך בשר בנפשו דמו לא תאכלו׃
4 Ond peidiwch � bwyta cig �'i einioes, sef ei waed, ynddo.
5ואך את דמכם לנפשתיכם אדרש מיד כל חיה אדרשנו ומיד האדם מיד איש אחיו אדרש את נפש האדם׃
5 Yn wir, mynnaf iawn am waed eich einioes; mynnaf ef gan bob bwystfil a chan bobl; ie, mynnaf iawn am fywyd y sawl a leddir gan arall.
6שפך דם האדם באדם דמו ישפך כי בצלם אלהים עשה את האדם׃
6 A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau; oherwydd gwnaeth Duw ddyn ar ei ddelw ei hun.
7ואתם פרו ורבו שרצו בארץ ורבו בה׃
7 Chwithau, byddwch ffrwythlon ac amlhewch, epiliwch ar y ddaear ac amlhewch ynddi."
8ויאמר אלהים אל נח ואל בניו אתו לאמר׃
8 Llefarodd Duw wrth Noa a'i feibion, a dweud,
9ואני הנני מקים את בריתי אתכם ואת זרעכם אחריכם׃
9 "Dyma fi'n sefydlu fy nghyfamod � chwi ac �'ch had ar eich �l,
10ואת כל נפש החיה אשר אתכם בעוף בבהמה ובכל חית הארץ אתכם מכל יצאי התבה לכל חית הארץ׃
10 ac � phob creadur byw gyda chwi, yn adar ac anifeiliaid, a'r holl fwystfilod gwyllt sydd gyda chwi, y cwbl a ddaeth allan o'r arch.
11והקמתי את בריתי אתכם ולא יכרת כל בשר עוד ממי המבול ולא יהיה עוד מבול לשחת הארץ׃
11 Sefydlaf fy nghyfamod � chwi, rhag torri ymaith eto bob cnawd trwy ddyfroedd dilyw, na bod dilyw arall i ddifa'r ddaear."
12ויאמר אלהים זאת אות הברית אשר אני נתן ביני וביניכם ובין כל נפש חיה אשר אתכם לדרת עולם׃
12 A dywedodd Duw, "Dyma a osodaf yn arwydd o'r cyfamod yr wyf yn ei wneud � chwi ac � phopeth byw gyda chwi tros oesoedd di-rif:
13את קשתי נתתי בענן והיתה לאות ברית ביני ובין הארץ׃
13 gosodaf fy mwa yn y cwmwl, a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof a'r ddaear.
14והיה בענני ענן על הארץ ונראתה הקשת בענן׃
14 Pan godaf gwmwl ar y ddaear bydd bwa yn ymddangos yn y cwmwl,
15וזכרתי את בריתי אשר ביני וביניכם ובין כל נפש חיה בכל בשר ולא יהיה עוד המים למבול לשחת כל בשר׃
15 a chofiaf fy nghyfamod rhyngof a chwi a phob creadur byw o bob math, ac ni ddaw'r dyfroedd eto yn ddilyw i ddifa pob cnawd.
16והיתה הקשת בענן וראיתיה לזכר ברית עולם בין אלהים ובין כל נפש חיה בכל בשר אשר על הארץ׃
16 Pan fydd y bwa yn y cwmwl, byddaf yn edrych arno ac yn cofio'r cyfamod tragwyddol rhwng Duw a phob creadur byw o bob math ar y ddaear."
17ויאמר אלהים אל נח זאת אות הברית אשר הקמתי ביני ובין כל בשר אשר על הארץ׃
17 Dywedodd Duw wrth Noa, "Dyma arwydd y cyfamod yr wyf wedi ei sefydlu rhyngof a phob cnawd ar y ddaear."
18ויהיו בני נח היצאים מן התבה שם וחם ויפת וחם הוא אבי כנען׃
18 Sem, Cham a Jaffeth oedd meibion Noa a ddaeth allan o'r arch. Cham oedd tad Canaan.
19שלשה אלה בני נח ומאלה נפצה כל הארץ׃
19 Dyma dri mab Noa, ac ohonynt y poblogwyd yr holl ddaear.
20ויחל נח איש האדמה ויטע כרם׃
20 Dechreuodd Noa fod yn amaethwr. Plannodd winllan,
21וישת מן היין וישכר ויתגל בתוך אהלה׃
21 ac yna yfodd o'r gwin nes meddwi, a gorwedd yn noeth yn ei babell.
22וירא חם אבי כנען את ערות אביו ויגד לשני אחיו בחוץ׃
22 Gwelodd Cham, tad Canaan, ei dad yn noeth, a dywedodd wrth ei ddau frawd y tu allan;
23ויקח שם ויפת את השמלה וישימו על שכם שניהם וילכו אחרנית ויכסו את ערות אביהם ופניהם אחרנית וערות אביהם לא ראו׃
23 ond cymerodd Sem a Jaffeth fantell a'i gosod ar eu hysgwyddau, a cherdded yn wysg eu cefnau a gorchuddio noethni eu tad, gan droi eu hwynebau i ffwrdd rhag gweld noethni eu tad.
24וייקץ נח מיינו וידע את אשר עשה לו בנו הקטן׃
24 Pan ddeffr�dd Noa o'i win, a gwybod beth yr oedd ei fab ieuengaf wedi ei wneud iddo,
25ויאמר ארור כנען עבד עבדים יהיה לאחיו׃
25 dywedodd, "Melltigedig fyddo Canaan; gwas i weision ei frodyr fydd."
26ויאמר ברוך יהוה אלהי שם ויהי כנען עבד למו׃
26 Dywedodd hefyd, "Bendigedig gan yr ARGLWYDD fy Nuw fyddo Sem; bydded Canaan yn was iddo.
27יפת אלהים ליפת וישכן באהלי שם ויהי כנען עבד למו׃
27 Helaethed Duw Jaffeth, iddo breswylio ym mhebyll Sem; bydded Canaan yn was iddo."
28ויחי נח אחר המבול שלש מאות שנה וחמשים שנה׃
28 Bu Noa fyw wedi'r dilyw am dri chant a hanner o flynyddoedd.
29ויהיו כל ימי נח תשע מאות שנה וחמשים שנה וימת׃
29 Felly yr oedd oes gyfan Noa yn naw cant a hanner o flynyddoedd; yna bu farw.