Hebrew: Modern

Welsh

Isaiah

32

1הן לצדק ימלך מלך ולשרים למשפט ישרו׃
1 Wele, bydd brenin yn teyrnasu mewn cyfiawnder, a'i dywysogion yn llywodraethu mewn barn,
2והיה איש כמחבא רוח וסתר זרם כפלגי מים בציון כצל סלע כבד בארץ עיפה׃
2 pob un yn gysgod rhag y gwynt ac yn lloches rhag y dymestl, fel afonydd dyfroedd mewn sychdir, fel cysgod craig fawr mewn tir blinedig.
3ולא תשעינה עיני ראים ואזני שמעים תקשבנה׃
3 Ni chaeir llygaid y rhai sy'n gweld, ac fe glyw clustiau'r rhai sy'n gwrando;
4ולבב נמהרים יבין לדעת ולשון עלגים תמהר לדבר צחות׃
4 bydd calon y difeddwl yn synied ac yn deall, a thafod y bloesg yn siarad yn llithrig a chlir.
5לא יקרא עוד לנבל נדיב ולכילי לא יאמר שוע׃
5 Ni elwir mwyach y ffu373?l yn fonheddig, ac ni ddywedir bod y cnaf yn llednais.
6כי נבל נבלה ידבר ולבו יעשה און לעשות חנף ולדבר אל יהוה תועה להריק נפש רעב ומשקה צמא יחסיר׃
6 Oherwydd y mae'r ffu373?l yn traethu ffolineb, a'i galon yn dyfeisio drygioni, i weithio annuwioldeb, i draethu celwydd am yr ARGLWYDD; y mae'n atal bwyd rhag y newynog, ac yn gwrthod diod i'r sychedig.
7וכלי כליו רעים הוא זמות יעץ לחבל ענוים באמרי שקר ובדבר אביון משפט׃
7 Y mae cynllwyn y cnaf yn faleisus; y mae'n dyfeisio camwri i ddifetha'r tlawd trwy dwyll, a gwadu cyfiawnder i'r anghenus.
8ונדיב נדיבות יעץ והוא על נדיבות יקום׃
8 Ond y mae'r anrhydeddus yn gweithredu anrhydedd, ac yn ei anrhydedd y saif.
9נשים שאננות קמנה שמענה קולי בנות בטחות האזנה אמרתי׃
9 Safwch, chwi wragedd moethus, a chlywch; gwrandewch fy ymadroddion, chwi ferched hyderus.
10ימים על שנה תרגזנה בטחות כי כלה בציר אסף בלי יבוא׃
10 Ymhen ychydig dros flwyddyn cewch eich ysgwyd o'ch difrawder, oherwydd derfydd y cynhaeaf gwin, a chwithau heb gasglu ffrwyth.
11חרדו שאננות רגזה בטחות פשטה וערה וחגורה על חלצים׃
11 Chwi sy'n ddiofal, pryderwch, ymysgydwch o'ch difrawder. Tynnwch eich dillad ac ymnoethi; rhowch sachliain am eich lwynau.
12על שדים ספדים על שדי חמד על גפן פריה׃
12 Curwch eich bronnau am y meysydd braf a'r gwinwydd ffrwythlon,
13על אדמת עמי קוץ שמיר תעלה כי על כל בתי משוש קריה עליזה׃
13 am dir fy mhobl, sy'n tyfu drain a mieri, ac am yr holl dai diddan yn y ddinas lon.
14כי ארמון נטש המון עיר עזב עפל ובחן היה בעד מערות עד עולם משוש פראים מרעה עדרים׃
14 Canys cefnwyd ar y palas, a gwacawyd y ddinas boblog. Aeth y gaer a'r tu373?r yn ogofeydd am byth, yn hyfrydwch i'r asynnod gwyllt ac yn borfa i'r preiddiau.
15עד יערה עלינו רוח ממרום והיה מדבר לכרמל וכרמל ליער יחשב׃
15 Pan dywelltir arnom ysbryd oddi fry, a'r anialwch yn mynd yn ddoldir, a'r doldir yn cael ei ystyried yn goetir,
16ושכן במדבר משפט וצדקה בכרמל תשב׃
16 yna caiff barn drigo yn yr anialwch a chyfiawnder gartrefu yn y doldir;
17והיה מעשה הצדקה שלום ועבדת הצדקה השקט ובטח עד עולם׃
17 bydd cyfiawnder yn creu heddwch, a'i effeithiau yn llonyddwch a diogelwch hyd byth.
18וישב עמי בנוה שלום ובמשכנות מבטחים ובמנוחת שאננות׃
18 Yna bydd fy mhobl yn trigo mewn bro heddychlon, mewn anheddau diogel, a chartrefi tawel,
19וברד ברדת היער ובשפלה תשפל העיר׃
19 a'r goedwig wedi ei thorri i lawr, a'r ddinas yn gydwastad �'r pridd.
20אשריכם זרעי על כל מים משלחי רגל השור והחמור׃
20 Gwyn eich byd chwi sy'n hau wrth lan pob afon, ac yn gollwng yr ych a'r asyn yn rhydd.