1הוי שודד ואתה לא שדוד ובוגד ולא בגדו בו כהתמך שודד תושד כנלתך לבגד יבגדו בך׃
1 Gwae di, anrheithiwr na chefaist dy anrheithio, ti dwyllwr na chefaist dy dwyllo; pan beidi ag anrheithio, fe'th anrheithir, pan beidi � thwyllo, fe'th dwyllir di.
2יהוה חננו לך קוינו היה זרעם לבקרים אף ישועתנו בעת צרה׃
2 O ARGLWYDD, trugarha wrthym, yr ydym yn disgwyl amdant; bydd yn nerth i ni bob bore, ac yn iachawdwriaeth i ni ar awr gyfyng.
3מקול המון נדדו עמים מרוממתך נפצו גוים׃
3 Gan su373?n terfysg fe ffy pobloedd, gan dy daranu di fe wasgerir cenhedloedd.
4ואסף שללכם אסף החסיל כמשק גבים שוקק בו׃
4 Cesglir eich ysbail fel petai lindys yn ei gasglu; fel haid o locustiaid fe heidir o'i gylch.
5נשגב יהוה כי שכן מרום מלא ציון משפט וצדקה׃
5 Dyrchafwyd yr ARGLWYDD, fe drig yn yr uchelder; fe leinw Seion � barn a chyfiawnder,
6והיה אמונת עתיך חסן ישועת חכמת ודעת יראת יהוה היא אוצרו׃
6 ac ef fydd sicrwydd dy amserau. Doethineb a gwybodaeth fydd cyfoeth dy iachawdwriaeth, ac ofn yr ARGLWYDD fydd dy drysor.
7הן אראלם צעקו חצה מלאכי שלום מר יבכיון׃
7 Clyw! Y mae'r glewion yn galw o'r tu allan, a chenhadau heddwch yn wylo'n chwerw.
8נשמו מסלות שבת עבר ארח הפר ברית מאס ערים לא חשב אנוש׃
8 Y mae'r priffyrdd yn ddiffaith, heb neb yn troedio'r ffordd; diddymwyd cyfamodau, diystyrwyd cytundebau, nid yw neb yn cyfrif dim.
9אבל אמללה ארץ החפיר לבנון קמל היה השרון כערבה ונער בשן וכרמל׃
9 Y mae'r wlad mewn galar a gofid, Lebanon wedi drysu a gwywo; aeth Saron yn anialwch, a Basan a Charmel heb ddail.
10עתה אקום יאמר יהוה עתה ארומם עתה אנשא׃
10 "Ond yn awr mi godaf," medd yr ARGLWYDD, "yn awr mi ymddyrchafaf, yn awr byddaf yn uchel.
11תהרו חשש תלדו קש רוחכם אש תאכלכם׃
11 Yr ydych yn feichiog o us ac yn esgor ar sofl; t�n yn eich ysu fydd eich anadl;
12והיו עמים משרפות שיד קוצים כסוחים באש יצתו׃
12 bydd y bobl fel llwch calch, fel drain wedi eu torri a'u llosgi yn y t�n."
13שמעו רחוקים אשר עשיתי ודעו קרובים גברתי׃
13 Chwi rai pell, gwrandewch beth a wneuthum, ac ystyriwch fy nerth, chwi rai agos.
14פחדו בציון חטאים אחזה רעדה חנפים מי יגור לנו אש אוכלה מי יגור לנו מוקדי עולם׃
14 Mae'r pechaduriaid yn Seion yn ofni, a'r annuwiol yn crynu gan ddychryn: "Pwy ohonom a all fyw gyda th�n ysol, a phwy a breswylia mewn llosgfa dragwyddol?"
15הלך צדקות ודבר מישרים מאס בבצע מעשקות נער כפיו מתמך בשחד אטם אזנו משמע דמים ועצם עיניו מראות ברע׃
15 Y sawl sy'n rhodio'n gyfiawn ac yn dweud y gwir, sy'n gwrthod elw trawster, sy'n cau ei ddwrn rhag derbyn llwgrwobr, sy'n cau ei glustiau rhag clywed am lofruddio, sy'n cau ei lygaid rhag edrych ar anfadwaith.
16הוא מרומים ישכן מצדות סלעים משגבו לחמו נתן מימיו נאמנים׃
16 Y mae ef yn trigo yn yr uchelder, a'i loches yn amddiffynfeydd y creigiau, a'i fara'n dod iddo, a'i ddu373?r yn sicr.
17מלך ביפיו תחזינה עיניך תראינה ארץ מרחקים׃
17 Fe w�l dy lygaid frenin yn ei degwch, a gwelant dir yn ymestyn ymhell;
18לבך יהגה אימה איה ספר איה שקל איה ספר את המגדלים׃
18 byddi'n dwyn i gof yr ofnau: "Ble mae'r un fu'n cofnodi? Ble mae'r un fu'n pwyso? Ble mae'r un fu'n cyfri'r tyrau?"
19את עם נועז לא תראה עם עמקי שפה משמוע נלעג לשון אין בינה׃
19 Ni chei weld pobl farbaraidd, pobl a'u hiaith yn rhy ddieithr i'w dirnad, a'u tafod yn rhy floesg i'w ddeall.
20חזה ציון קרית מועדנו עיניך תראינה ירושלם נוה שאנן אהל בל יצען בל יסע יתדתיו לנצח וכל חבליו בל ינתקו׃
20 Edrych ar Seion, dinas ein huchelwyliau; bydded dy lygaid yn gweld Jerwsalem, bro diddanwch, pabell na symudir; ni thynnir un o'i phegiau byth, ac ni thorrir un o'i rhaffau.
21כי אם שם אדיר יהוה לנו מקום נהרים יארים רחבי ידים בל תלך בו אני שיט וצי אדיר לא יעברנו׃
21 Yno, yn wir, y mae gennym yr ARGLWYDD yn ei fawredd, a mangre afonydd a ffrydiau llydain; ni fydd llong rwyfau'n tramwy yno, na llong fawr yn hwylio heibio.
22כי יהוה שפטנו יהוה מחקקנו יהוה מלכנו הוא יושיענו׃
22 Yr ARGLWYDD yw ein barnwr, yr ARGLWYDD yw ein deddfwr; yr ARGLWYDD yw ein brenin, ac ef fydd yn ein gwaredu.
23נטשו חבליך בל יחזקו כן תרנם בל פרשו נס אז חלק עד שלל מרבה פסחים בזזו בז׃
23 Y mae dy raffau'n llac, heb ddal yr hwylbren yn gadarn yn ei le, ac nid yw'r hwyliau wedi eu lledu. Yna fe rennir ysbail ac anrhaith mawr, a bydd y cloff yn rheibio ysglyfaeth.
24ובל יאמר שכן חליתי העם הישב בה נשא עון׃
24 Ni ddywed neb o'r preswylwyr, "'Rwy'n glaf", a maddeuir i'r trigolion eu camweddau.