Hebrew: Modern

Welsh

Isaiah

34

1קרבו גוים לשמע ולאמים הקשיבו תשמע הארץ ומלאה תבל וכל צאצאיה׃
1 Nesewch i wrando, chwi genhedloedd; clywch, chwi bobloedd. Gwrandawed y ddaear a'i llawnder, y byd a'i holl gynnyrch.
2כי קצף ליהוה על כל הגוים וחמה על כל צבאם החרימם נתנם לטבח׃
2 Canys y mae dicter yr ARGLWYDD yn erbyn yr holl bobl, a'i lid ar eu holl luoedd; difroda hwy a'u rhoi i'w lladd.
3וחלליהם ישלכו ופגריהם יעלה באשם ונמסו הרים מדמם׃
3 Bwrir allan eu lladdedigion, cyfyd drewdod o'u celanedd, a throchir y mynyddoedd �'u gwaed.
4ונמקו כל צבא השמים ונגלו כספר השמים וכל צבאם יבול כנבל עלה מגפן וכנבלת מתאנה׃
4 Malurir holl lu'r nefoedd, plygir yr wybren fel sgr�l, a chwymp ei holl lu, fel cwympo dail oddi ar winwydden a ffrwyth aeddfed oddi ar ffigysbren.
5כי רותה בשמים חרבי הנה על אדום תרד ועל עם חרמי למשפט׃
5 Canys ymddengys cleddyf yr ARGLWYDD yn y nef; wele, fe ddisgyn ar Edom, ar y bobl a ddedfryda i farn.
6חרב ליהוה מלאה דם הדשנה מחלב מדם כרים ועתודים מחלב כליות אילים כי זבח ליהוה בבצרה וטבח גדול בארץ אדום׃
6 Y mae gan yr ARGLWYDD gleddyf wedi ei drochi mewn gwaed a'i besgi ar fraster, ar waed u373?yn a bychod a braster arennau hyrddod. Y mae gan yr ARGLWYDD aberth yn Bosra, a lladdfa fawr yn nhir Edom.
7וירדו ראמים עמם ופרים עם אבירים ורותה ארצם מדם ועפרם מחלב ידשן׃
7 Daw ychen gwyllt i lawr gyda hwy, a bustych gyda theirw; mwydir eu tir gan waed, a bydd eu pridd yn doreithiog gan y braster.
8כי יום נקם ליהוה שנת שלומים לריב ציון׃
8 Canys y mae gan yr ARGLWYDD ddydd dial, a chan amddiffynnydd Seion flwyddyn talu'r pwyth.
9ונהפכו נחליה לזפת ועפרה לגפרית והיתה ארצה לזפת בערה׃
9 Troir afonydd Edom yn byg, a'i phridd yn frwmstan; bydd ei gwlad yn byg yn llosgi;
10לילה ויומם לא תכבה לעולם יעלה עשנה מדור לדור תחרב לנצח נצחים אין עבר בה׃
10 nis diffoddir na nos na dydd, a bydd ei mwg yn esgyn am byth. O genhedlaeth i genhedlaeth bydd yn ddiffaith, ac ni fydd neb yn ei thramwyo byth eto.
11וירשוה קאת וקפוד וינשוף וערב ישכנו בה ונטה עליה קו תהו ואבני בהו׃
11 Fe'i meddiennir gan y pelican ac aderyn y bwn, a bydd y dylluan wen a'r gigfran yn trigo yno; bydd ef yn estyn drosti linyn anhrefn, a phlymen tryblith dros ei dewrion.
12חריה ואין שם מלוכה יקראו וכל שריה יהיו אפס׃
12 Fe'i gelwir yn lle heb deyrn, a bydd ei holl dywysogion yn ddiddim.
13ועלתה ארמנתיה סירים קמוש וחוח במבצריה והיתה נוה תנים חציר לבנות יענה׃
13 Bydd drain yn tyfu yn ei phalasau, danadl ac ysgall o fewn ei cheyrydd; bydd yn drigfan i fleiddiaid, yn gyrchfan i estrys.
14ופגשו ציים את איים ושעיר על רעהו יקרא אך שם הרגיעה לילית ומצאה לה מנוח׃
14 Bydd yr anifeiliaid gwyllt a'r siacal yn cydgrynhoi, a'r bwch-gafr yn galw ar ei gymar; yno hefyd y clwyda'r fr�n nos ac y daw o hyd i'w gorffwysfa.
15שמה קננה קפוז ותמלט ובקעה ודגרה בצלה אך שם נקבצו דיות אשה רעותה׃
15 Yno y nytha'r dylluan, a dodwy ei hwyau a'u deor, a chasglu ei chywion dan ei hadain; yno hefyd y bydd y barcutiaid yn ymgasglu, pob un gyda'i gymar.
16דרשו מעל ספר יהוה וקראו אחת מהנה לא נעדרה אשה רעותה לא פקדו כי פי הוא צוה ורוחו הוא קבצן׃
16 Chwiliwch yn llyfr yr ARGLWYDD, darllenwch ef; ni chollir dim un o'r rhain, ni fydd un ohonynt heb ei gymar; canys genau'r ARGLWYDD a orchmynnodd, a'i ysbryd ef a'u casglodd ynghyd.
17והוא הפיל להן גורל וידו חלקתה להם בקו עד עולם יירשוה לדור ודור ישכנו בה׃
17 Ef hefyd a drefnodd eu cyfran, a'i law a rannodd iddynt � llinyn mesur; c�nt ei meddiannu hyd byth, a phreswylio ynddi o genhedlaeth i genhedlaeth.