1נדרשתי ללוא שאלו נמצאתי ללא בקשני אמרתי הנני הנני אל גוי לא קרא בשמי׃
1 "Yr oeddwn yno i'm ceisio gan rai nad oeddent yn holi amdanaf, yno i'm cael gan rai na chwilient amdanaf. Dywedais, 'Edrychwch, dyma fi', wrth genedl na alwai ar fy enw.
2פרשתי ידי כל היום אל עם סורר ההלכים הדרך לא טוב אחר מחשבתיהם׃
2 Estynnais fy nwylo'n feunyddiol at bobl wrthryfelgar, rhai oedd yn rhodio ffordd drygioni, ac yn dilyn eu mympwy eu hunain,
3העם המכעיסים אותי על פני תמיד זבחים בגנות ומקטרים על הלבנים׃
3 rhai oedd yn fy mhryfocio'n ddi�baid yn fy wyneb, yn aberthu mewn gerddi ac arogldarthu ar briddfeini,
4הישבים בקברים ובנצורים ילינו האכלים בשר החזיר ופרק פגלים כליהם׃
4 yn eistedd ymhlith y beddau, ac yn treulio'r nos mewn mynwentydd, yn bwyta cig moch, a'u llestri'n llawn o gawl aflan.
5האמרים קרב אליך אל תגש בי כי קדשתיך אלה עשן באפי אש יקדת כל היום׃
5 Dywedant, 'Cadw draw, paid �'m cyffwrdd, 'rwy'n rhy sanctaidd i ti.' Y mae'r bobl hyn yn fwg yn fy ffroenau, yn d�n sy'n mygu drwy'r dydd.
6הנה כתובה לפני לא אחשה כי אם שלמתי ושלמתי על חיקם׃
6 Ond y mae'r cyfan wedi ei ysgrifennu o'm blaen; ni thawaf, ond fe dalaf yn �l; i'r byw y talaf yn �
7עונתיכם ועונת אבותיכם יחדו אמר יהוה אשר קטרו על ההרים ועל הגבעות חרפוני ומדתי פעלתם ראשנה על חיקם׃
7 eich camweddau chwi a'ch hynafiaid," medd yr ARGLWYDD. "Am iddynt arogldarthu ar y mynyddoedd, a'm cablu ar y bryniau, mesuraf eu t�l iddynt i'r byw."
8כה אמר יהוה כאשר ימצא התירוש באשכול ואמר אל תשחיתהו כי ברכה בו כן אעשה למען עבדי לבלתי השחית הכל׃
8 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Fel pan geir gwin newydd mewn swp o rawn, ac y dywedir, 'Paid �'i ddinistrio, oherwydd y mae bendith ynddo', felly y gwnaf finnau er mwyn fy ngweision; ni ddinistriaf yr un ohonynt.
9והוצאתי מיעקב זרע ומיהודה יורש הרי וירשוה בחירי ועבדי ישכנו שמה׃
9 Ond paraf i epil ddod o Jacob, a rhai i etifeddu fy mynyddoedd o Jwda; bydd y rhai a ddewisaf yn eu hetifeddu, a'm gweision yn trigo yno.
10והיה השרון לנוה צאן ועמק עכור לרבץ בקר לעמי אשר דרשוני׃
10 Bydd Saron yn borfa defaid, a dyffryn Achor yn orweddfa gwartheg, ar gyfer fy mhobl sy'n fy ngheisio.
11ואתם עזבי יהוה השכחים את הר קדשי הערכים לגד שלחן והממלאים למני ממסך׃
11 "Ond chwi sy'n gwrthod yr ARGLWYDD, sy'n diystyru fy mynydd sanctaidd, sy'n gosod bwrdd i'r duw Ffawd ac yn llenwi cwpanau o win cymysg i Hap,
12ומניתי אתכם לחרב וכלכם לטבח תכרעו יען קראתי ולא עניתם דברתי ולא שמעתם ותעשו הרע בעיני ובאשר לא חפצתי בחרתם׃
12 dedfrydaf chwi i'r cleddyf, a'ch darostwng i gyd i'ch lladd; canys gelwais, ond ni roesoch ateb, lleferais, ond ni wrandawsoch. Gwnaethoch bethau sy'n atgas gennyf, a dewis yr hyn nad yw wrth fy modd."
13לכן כה אמר אדני יהוה הנה עבדי יאכלו ואתם תרעבו הנה עבדי ישתו ואתם תצמאו הנה עבדי ישמחו ואתם תבשו׃
13 Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: "Edrychwch, bydd fy ngweision yn bwyta a chwithau'n newynu; bydd fy ngweision yn yfed a chwithau'n sychedu; bydd fy ngweision yn llawenhau a chwithau'n cywilyddio;
14הנה עבדי ירנו מטוב לב ואתם תצעקו מכאב לב ומשבר רוח תילילו׃
14 bydd fy ngweision yn canu o lawenydd a chwithau'n griddfan mewn gofid calon, ac yn galaru mewn ing.
15והנחתם שמכם לשבועה לבחירי והמיתך אדני יהוה ולעבדיו יקרא שם אחר׃
15 Erys eich enw yn felltith gan f'etholedigion; bydd yr Arglwydd DDUW yn dy ddifa, ond fe rydd enw gwahanol ar ei weision.
16אשר המתברך בארץ יתברך באלהי אמן והנשבע בארץ ישבע באלהי אמן כי נשכחו הצרות הראשנות וכי נסתרו מעיני׃
16 Bydd pawb ar y ddaear sy'n ceisio bendith yn ceisio'i fendith yn enw Duw gwirionedd, a phawb ar y ddaear sy'n tyngu llw yn tyngu ei lw yn enw Duw gwirionedd." "Anghofir y treialon gynt, ac fe'u cuddir o'm golwg.
17כי הנני בורא שמים חדשים וארץ חדשה ולא תזכרנה הראשנות ולא תעלינה על לב׃
17 Yr wyf fi'n creu nefoedd newydd a daear newydd; ni chofir y pethau gynt na meddwl amdanynt.
18כי אם שישו וגילו עדי עד אשר אני בורא כי הנני בורא את ירושלם גילה ועמה משוש׃
18 Byddwch lawen, gorfoleddwch yn ddi-baid am fy mod i yn creu, ie, yn creu Jerwsalem yn orfoledd, a'i phobl yn llawenydd.
19וגלתי בירושלם וששתי בעמי ולא ישמע בה עוד קול בכי וקול זעקה׃
19 Gorfoleddaf yn Jerwsalem, llawenychaf yn fy mhobl; ni chlywir ynddi mwyach na su373?n wylofain na chri trallod.
20לא יהיה משם עוד עול ימים וזקן אשר לא ימלא את ימיו כי הנער בן מאה שנה ימות והחוטא בן מאה שנה יקלל׃
20 Ni bydd yno byth eto blentyn yn dihoeni, na henwr heb gyflawni nifer ei flynyddoedd; llanc fydd yr un sy'n marw'n ganmlwydd, a dilornir y sawl nad yw'n cyrraedd ei gant.
21ובנו בתים וישבו ונטעו כרמים ואכלו פרים׃
21 Byddant yn adeiladu tai ac yn byw ynddynt, yn plannu gwinllannoedd ac yn bwyta'u ffrwyth;
22לא יבנו ואחר ישב לא יטעו ואחר יאכל כי כימי העץ ימי עמי ומעשה ידיהם יבלו בחירי׃
22 ni fydd neb yn adeiladu i arall gyfanheddu, nac yn plannu ac arall yn bwyta. Bydd fy mhobl yn byw cyhyd � choeden, a'm hetholedig yn llwyr fwynhau gwaith eu dwylo.
23לא ייגעו לריק ולא ילדו לבהלה כי זרע ברוכי יהוה המה וצאצאיהם אתם׃
23 Ni fyddant yn llafurio'n ofer, nac yn magu plant i drallod; cenhedlaeth a fendithiwyd gan yr ARGLWYDD ydynt, hwy a'u hepil hefyd.
24והיה טרם יקראו ואני אענה עוד הם מדברים ואני אשמע׃
24 Byddaf yn eu hateb cyn iddynt alw, ac yn eu gwrando wrth iddynt lefaru.
25זאב וטלה ירעו כאחד ואריה כבקר יאכל תבן ונחש עפר לחמו לא ירעו ולא ישחיתו בכל הר קדשי אמר יהוה׃
25 Bydd y blaidd a'r oen yn cydbori, a'r llew yn bwyta gwair fel ych; a llwch fydd bwyd y sarff. Ni wn�nt ddrwg na difrod yn fy holl fynydd sanctaidd," medd yr ARGLWYDD.