1כה אמר יהוה השמים כסאי והארץ הדם רגלי אי זה בית אשר תבנו לי ואי זה מקום מנוחתי׃
1 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Y nefoedd yw fy ngorsedd, a'r ddaear fy nhroedfainc; ple, felly, y codwch du375? i mi, a phle y caf fan i orffwys?
2ואת כל אלה ידי עשתה ויהיו כל אלה נאם יהוה ואל זה אביט אל עני ונכה רוח וחרד על דברי׃
2 Fy llaw i a wnaeth y pethau hyn i gyd, a'r eiddof fi yw pob peth," medd yr ARGLWYDD. "Ond fe edrychaf ar y truan, yr un o ysbryd gostyngedig, ac sy'n parchu fy ngair.
3שוחט השור מכה איש זובח השה ערף כלב מעלה מנחה דם חזיר מזכיר לבנה מברך און גם המה בחרו בדרכיהם ובשקוציהם נפשם חפצה׃
3 "Prun ai lladd ych ai lladd dyn, ai aberthu oen ai tagu ci, ai offrymu bwydoffrwm ai aberthu gwaed moch, ai arogldarthu thus ai bendithio eilun, dewis eu ffordd eu hunain y maent, ac ymhyfrydu yn eu ffeidd�dra
4גם אני אבחר בתעלליהם ומגורתם אביא להם יען קראתי ואין עונה דברתי ולא שמעו ויעשו הרע בעיני ובאשר לא חפצתי בחרו׃
4 Ond dewisaf fi ofid iddynt, a dwyn arnynt yr hyn a ofnant; oherwydd pan elwais, ni chefais ateb, pan leferais, ni wrandawsant; gwnaethant bethau sydd yn atgas gennyf, a dewis yr hyn nad yw wrth fy modd."
5שמעו דבר יהוה החרדים אל דברו אמרו אחיכם שנאיכם מנדיכם למען שמי יכבד יהוה ונראה בשמחתכם והם יבשו׃
5 Clywch air yr ARGLWYDD, chwi sy'n parchu ei air: "Dywedodd eich tylwyth sy'n eich cas�u, ac sy'n eich gwrthod oherwydd fy enw, 'Bydded i'r ARGLWYDD gael ei ogoneddu, er mwyn i ni weld eich llawenydd.' Ond cywilyddir hwy.
6קול שאון מעיר קול מהיכל קול יהוה משלם גמול לאיביו׃
6 Clywch! Gwaedd o'r ddinas, llef o'r deml, su373?n yr ARGLWYDD yn talu'r pwyth i'w elynion.
7בטרם תחיל ילדה בטרם יבוא חבל לה והמליטה זכר׃
7 "A fydd gwraig yn esgor cyn dechrau ei phoenau? A yw'n geni plentyn cyn i'w gwewyr ddod arni?
8מי שמע כזאת מי ראה כאלה היוחל ארץ ביום אחד אם יולד גוי פעם אחת כי חלה גם ילדה ציון את בניה׃
8 A glywodd rhywun am y fath beth? A welodd rhywun rywbeth tebyg? A ddaw gwlad i fod mewn un dydd? A enir cenedl ar unwaith? Ond gyda bod Seion yn clafychu, bydd yn esgor ar ei phlant.
9האני אשביר ולא אוליד יאמר יהוה אם אני המוליד ועצרתי אמר אלהיך׃
9 A ddygaf fi at y geni heb beri esgor?" medd yr ARGLWYDD. "A baraf fi esgor ac yna'i rwystro?" medd dy Dduw.
10שמחו את ירושלם וגילו בה כל אהביה שישו אתה משוש כל המתאבלים עליה׃
10 "Llawenhewch gyda Jerwsalem, a byddwch yn falch o'i herwydd, bawb sy'n ei charu; llawenhewch gyda hi �'ch holl galon, bawb a fu'n galaru o'i phlegid,
11למען תינקו ושבעתם משד תנחמיה למען תמצו והתענגתם מזיז כבודה׃
11 er mwyn ichwi fedru sugno a chael eich diwallu o'i bronnau diddanus, er mwyn ichwi fedru tynnu arni a chael eich diddanu gan ddigonedd ei gogoniant."
12כי כה אמר יהוה הנני נטה אליה כנהר שלום וכנחל שוטף כבוד גוים וינקתם על צד תנשאו ועל ברכים תשעשעו׃
12 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Edrychwch, 'rwy'n estyn iddi heddwch fel afon, a golud y cenhedloedd fel ffrwd lifeiriol. Cewch sugno, cewch eich cludo ar ei hystlys, a'ch siglo ar ei gliniau.
13כאיש אשר אמו תנחמנו כן אנכי אנחמכם ובירושלם תנחמו׃
13 Fel y cysurir plentyn gan ei fam byddaf fi'n eich cysuro chwi; ac yn Jerwsalem y'ch cysurir.
14וראיתם ושש לבכם ועצמותיכם כדשא תפרחנה ונודעה יד יהוה את עבדיו וזעם את איביו׃
14 Cewch weld hyn, a bydd yn llawenydd i'ch calon, bydd eich holl gorff yn ffynnu fel llysieuyn; dangosir bod llaw yr ARGLWYDD gyda'i weision, a'i lid yn erbyn ei elynion.
15כי הנה יהוה באש יבוא וכסופה מרכבתיו להשיב בחמה אפו וגערתו בלהבי אש׃
15 Edrychwch, y mae'r ARGLWYDD yn dod � th�n, a'i gerbydau fel corwynt, i dalu'r pwyth mewn llid dicllon, ac i geryddu � fflamau t�n.
16כי באש יהוה נשפט ובחרבו את כל בשר ורבו חללי יהוה׃
16 Oherwydd trwy d�n y bydd yr ARGLWYDD yn barnu, a thrwy gleddyf yn erbyn pob cnawd; a lleddir llawer gan yr ARGLWYDD.
17המתקדשים והמטהרים אל הגנות אחר אחד בתוך אכלי בשר החזיר והשקץ והעכבר יחדו יספו נאם יהוה׃
17 "Pawb sy'n ymgysegru ac yn eu puro eu hunain ar gyfer y gerddi, ac yn gorymdeithio trwyddynt, ac yn bwyta cig moch, ymlusgiaid, a llygod � daw diwedd ar eu gwaith a'u bwriad," medd yr ARGLWYDD.
18ואנכי מעשיהם ומחשבתיהם באה לקבץ את כל הגוים והלשנות ובאו וראו את כבודי׃
18 "'Rwyf fi'n dod i gasglu ynghyd bob cenedl ac iaith; a d�nt i weld fy ngogoniant.
19ושמתי בהם אות ושלחתי מהם פליטים אל הגוים תרשיש פול ולוד משכי קשת תבל ויון האיים הרחקים אשר לא שמעו את שמעי ולא ראו את כבודי והגידו את כבודי בגוים׃
19 Gosodaf arwydd yn eu mysg, ac anfonaf rai o'u gwaredigion at y cenhedloedd, i Tarsis, Put, Lydia, Mesech, Tubal a Jafan, ac ynysoedd pell, na chlywsant s�n amdanaf na gweld fy ngogoniant; a chyhoeddant hwy fy ngogoniant i'r cenhedloedd.
20והביאו את כל אחיכם מכל הגוים מנחה ליהוה בסוסים וברכב ובצבים ובפרדים ובכרכרות על הר קדשי ירושלם אמר יהוה כאשר יביאו בני ישראל את המנחה בכלי טהור בית יהוה׃
20 Dygant eich tylwyth i gyd o blith yr holl genhedloedd yn fwydoffrwm i'r ARGLWYDD; ar feirch, mewn cerbydau a gwageni, ar fulod a chamelod y d�nt i'm mynydd sanctaidd, Jerwsalem," medd yr ARGLWYDD, "yn union fel y bydd plant Israel yn dwyn y bwydoffrwm mewn llestr gl�n i du375?'r ARGLWYDD.
21וגם מהם אקח לכהנים ללוים אמר יהוה׃
21 A byddaf yn dewis rhai ohonynt yn offeiriaid ac yn Lefiaid," medd yr ARGLWYDD.
22כי כאשר השמים החדשים והארץ החדשה אשר אני עשה עמדים לפני נאם יהוה כן יעמד זרעכם ושמכם׃
22 "Fel y bydd y nefoedd newydd a'r ddaear newydd, yr wyf fi yn eu creu, yn parhau ger fy mron," medd yr ARGLWYDD, "felly y parha eich had a'ch enw chwi.
23והיה מדי חדש בחדשו ומדי שבת בשבתו יבוא כל בשר להשתחות לפני אמר יהוה׃
23 O fis i fis, o Saboth i Saboth, daw pob cnawd i ymgrymu o'm blaen," medd yr ARGLWYDD.
24ויצאו וראו בפגרי האנשים הפשעים בי כי תולעתם לא תמות ואשם לא תכבה והיו דראון לכל בשר׃
24 "Ac �nt allan a gweld celanedd y rhai a bechodd yn f'erbyn; ni bydd eu pryf yn marw, na'u t�n yn diffodd; a byddant yn ffiaidd gan bawb."