1דברי ירמיהו בן חלקיהו מן הכהנים אשר בענתות בארץ בנימן׃
1 Geiriau Jeremeia fab Hilceia, un o'r offeiriaid oedd yn Anathoth, yn nhiriogaeth Benjamin.
2אשר היה דבר יהוה אליו בימי יאשיהו בן אמון מלך יהודה בשלש עשרה שנה למלכו׃
2 Ato ef y daeth gair yr ARGLWYDD yn nyddiau Joseia fab Amon, brenin Jwda, yn y drydedd flwyddyn ar ddeg o'i deyrnasiad.
3ויהי בימי יהויקים בן יאשיהו מלך יהודה עד תם עשתי עשרה שנה לצדקיהו בן יאשיהו מלך יהודה עד גלות ירושלם בחדש החמישי׃
3 Daeth hefyd yn ystod dyddiau Jehoiacim, mab Joseia brenin Jwda, a hyd ddiwedd yr un mlynedd ar ddeg o deyrnasiad Sedeceia, mab Joseia brenin Jwda, sef hyd at gaethgludiad Jerwsalem yn y pumed mis.
4ויהי דבר יהוה אלי לאמר׃
4 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
5בטרם אצורך בבטן ידעתיך ובטרם תצא מרחם הקדשתיך נביא לגוים נתתיך׃
5 "Cyn i mi dy lunio yn y groth, fe'th adnab�m; a chyn dy eni, fe'th gysegrais; rhoddais di'n broffwyd i'r cenhedloedd."
6ואמר אהה אדני יהוה הנה לא ידעתי דבר כי נער אנכי׃
6 Dywedais innau, "O Arglwydd DDUW, ni wn pa fodd i lefaru, oherwydd bachgen wyf fi."
7ויאמר יהוה אלי אל תאמר נער אנכי כי על כל אשר אשלחך תלך ואת כל אשר אצוך תדבר׃
7 Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Paid � dweud, 'Bachgen wyf fi'; oherwydd fe ei at bawb yr anfonaf di atynt, a llefaru pob peth a orchmynnaf i ti.
8אל תירא מפניהם כי אתך אני להצלך נאם יהוה׃
8 Paid ag ofni o'u hachos, oherwydd yr wyf fi gyda thi i'th waredu," medd yr ARGLWYDD.
9וישלח יהוה את ידו ויגע על פי ויאמר יהוה אלי הנה נתתי דברי בפיך׃
9 Yna estynnodd yr ARGLWYDD ei law a chyffwrdd �'m genau; a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Wele, rhoddais fy ngeiriau yn dy enau.
10ראה הפקדתיך היום הזה על הגוים ועל הממלכות לנתוש ולנתוץ ולהאביד ולהרוס לבנות ולנטוע׃
10 Edrych, fe'th osodais di heddiw dros y cenhedloedd a thros y teyrnasoedd, i ddiwreiddio ac i dynnu i lawr, i ddifetha ac i ddymchwelyd, i adeiladu ac i blannu."
11ויהי דבר יהוה אלי לאמר מה אתה ראה ירמיהו ואמר מקל שקד אני ראה׃
11 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, "Jeremeia, beth a weli di?" Dywedais innau, "Yr wyf yn gweld gwialen almon."
12ויאמר יהוה אלי היטבת לראות כי שקד אני על דברי לעשתו׃
12 Atebodd yr ARGLWYDD, "Gwelaist yn gywir, oherwydd yr wyf fi'n gwylio fy ngair i'w gyflawni."
13ויהי דבר יהוה אלי שנית לאמר מה אתה ראה ואמר סיר נפוח אני ראה ופניו מפני צפונה׃
13 A daeth gair yr ARGLWYDD ataf yr eildro a dweud, "Beth a weli di?" Dywedais innau, "Yr wyf yn gweld crochan yn berwi, a'i ogwydd o'r gogledd."
14ויאמר יהוה אלי מצפון תפתח הרעה על כל ישבי הארץ׃
14 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "o'r gogledd yr ymarllwys dinistr dros holl drigolion y tir.
15כי הנני קרא לכל משפחות ממלכות צפונה נאם יהוה ובאו ונתנו איש כסאו פתח שערי ירושלם ועל כל חומתיה סביב ועל כל ערי יהודה׃
15 Oherwydd dyma fi'n galw holl deuluoedd teyrnas y gogledd," medd yr ARGLWYDD, "a d�nt a gosod bob un ei orsedd ar drothwy pyrth Jerwsalem, yn erbyn ei holl furiau o'u hamgylch, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda;
16ודברתי משפטי אותם על כל רעתם אשר עזבוני ויקטרו לאלהים אחרים וישתחוו למעשי ידיהם׃
16 a thraethaf fy marnedigaeth arnynt am eu holl gamwedd yn cefnu arnaf fi, gan arogldarthu i dduwiau eraill, ac addoli gwaith eu dwylo eu hunain.
17ואתה תאזר מתניך וקמת ודברת אליהם את כל אשר אנכי אצוך אל תחת מפניהם פן אחתך לפניהם׃
17 "Torcha dithau dy wisg; cod a llefara wrthynt bob peth a orchmynnaf i ti. Paid ag arswydo o'u hachos, rhag i mi dy ddistrywio di o'u blaen.
18ואני הנה נתתיך היום לעיר מבצר ולעמוד ברזל ולחמות נחשת על כל הארץ למלכי יהודה לשריה לכהניה ולעם הארץ׃
18 A rhof finnau di heddiw yn ddinas gaerog, yn golofn haearn ac yn fur pres, yn erbyn yr holl dir, yn erbyn brenhinoedd Jwda a'i thywysogion, ei hoffeiriaid a phobl y wlad.
19ונלחמו אליך ולא יוכלו לך כי אתך אני נאם יהוה להצילך׃
19 Ymladdant yn dy erbyn, ond ni'th orchfygant oherwydd yr wyf fi gyda thi i'th waredu," medd yr ARGLWYDD.