1לאמר הן ישלח איש את אשתו והלכה מאתו והיתה לאיש אחר הישוב אליה עוד הלוא חנוף תחנף הארץ ההיא ואת זנית רעים רבים ושוב אלי נאם יהוה׃
1 "Os bydd gu373?r yn ysgaru ei wraig, a hithau'n ei adael ac yn mynd yn eiddo i arall, a ddychwel ef ati? Oni halogid y tir yn ddirfawr trwy hyn? Yr wyt wedi puteinio gyda chariadon lawer, ond a fyddi'n dychwelyd ataf?" medd yr ARGLWYDD.
2שאי עיניך על שפים וראי איפה לא שגלת על דרכים ישבת להם כערבי במדבר ותחניפי ארץ בזנותיך וברעתך׃
2 "Cod dy olwg i'r moelydd, ac edrych am fan na phuteiniaist ynddo; disgwyliaist amdanynt ger y ffyrdd, fel Arab yn yr anialwch; halogaist y tir �'th buteindra, ac �'th ddrygioni.
3וימנעו רבבים ומלקוש לוא היה ומצח אשה זונה היה לך מאנת הכלם׃
3 Ataliwyd y glawogydd, ac ni ddaeth y cawodydd diweddar; ond talcen putain oedd gennyt, a gwrthodaist gywilyddio.
4הלוא מעתה קראתי לי אבי אלוף נערי אתה׃
4 Ac onid wyt yn awr yn galw arnaf, 'Fy nhad, cyfaill fy ieuenctid wyt ti �
5הינטר לעולם אם ישמר לנצח הנה דברתי ותעשי הרעות ותוכל׃
5 a fydd ef yn ddig hyd byth? a geidw ef lid bob amser?' Fel hyn y lleferaist, ond gwnaethost ddrygioni hyd y gellaist."
6ויאמר יהוה אלי בימי יאשיהו המלך הראית אשר עשתה משבה ישראל הלכה היא על כל הר גבה ואל תחת כל עץ רענן ותזני שם׃
6 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf yn nyddiau'r Brenin Joseia, "A welaist ti'r hyn a wnaeth Israel anffyddlon? Bu'n rhodianna ar bob bryn uchel a than bob pren gwyrddlas, a phuteinio yno.
7ואמר אחרי עשותה את כל אלה אלי תשוב ולא שבה ותראה בגודה אחותה יהודה׃
7 Dywedais, 'Wedi iddi wneud hyn i gyd, fe ddychwel ataf.' Ond ni ddychwelodd, a gwelodd ei chwaer dwyllodrus Jwda hynny.
8וארא כי על כל אדות אשר נאפה משבה ישראל שלחתיה ואתן את ספר כריתתיה אליה ולא יראה בגדה יהודה אחותה ותלך ותזן גם היא׃
8 Gwelodd mai'n unig oherwydd i Israel anffyddlon odinebu y gollyngais hi, a rhoi iddi ei llythyr ysgar; er hynny nid ofnodd Jwda, ei chwaer dwyllodrus, ond aeth hithau hefyd a phuteinio.
9והיה מקל זנותה ותחנף את הארץ ותנאף את האבן ואת העץ׃
9 Halogodd y tir trwy buteinio mor rhwydd, gan odinebu gyda maen a chyda phren.
10וגם בכל זאת לא שבה אלי בגודה אחותה יהודה בכל לבה כי אם בשקר נאם יהוה׃
10 Ac er hyn oll ni ddychwelodd ei chwaer dwyllodrus Jwda ataf fi �'i holl galon, ond mewn rhagrith," medd yr ARGLWYDD.
11ויאמר יהוה אלי צדקה נפשה משבה ישראל מבגדה יהודה׃
11 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Fe'i cyfiawnhaodd Israel anffyddlon ei hun rhagor Jwda dwyllodrus.
12הלך וקראת את הדברים האלה צפונה ואמרת שובה משבה ישראל נאם יהוה לוא אפיל פני בכם כי חסיד אני נאם יהוה לא אטור לעולם׃
12 Dos a chyhoedda'r geiriau hyn tua'r gogledd, a dywed: 'Dychwel, Israel anffyddlon,' medd yr ARGLWYDD. 'Ni fwriaf fy llid arnoch, canys ffyddlon wyf fi,' medd yr ARGLWYDD. 'Ni fyddaf ddig hyd byth.
13אך דעי עונך כי ביהוה אלהיך פשעת ותפזרי את דרכיך לזרים תחת כל עץ רענן ובקולי לא שמעתם נאם יהוה׃
13 Yn unig cydnebydd dy gamwedd, iti wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD dy Dduw, ac afradu dy ffafrau i ddieithriaid dan bob pren gwyrddlas, heb wrando ar fy llais,' medd yr ARGLWYDD.
14שובו בנים שובבים נאם יהוה כי אנכי בעלתי בכם ולקחתי אתכם אחד מעיר ושנים ממשפחה והבאתי אתכם ציון׃
14 "Dychwelwch, blant anffyddlon," medd yr ARGLWYDD, "oherwydd myfi a'ch piau chwi, ac fe'ch cymeraf bob yn un o ddinas a bob yn ddau o lwyth, a'ch dwyn i Seion.
15ונתתי לכם רעים כלבי ורעו אתכם דעה והשכיל׃
15 Yno y rhof i chwi fugeiliaid wrth fodd fy nghalon, a phorthant chwi � gwybodaeth a deall.
16והיה כי תרבו ופריתם בארץ בימים ההמה נאם יהוה לא יאמרו עוד ארון ברית יהוה ולא יעלה על לב ולא יזכרו בו ולא יפקדו ולא יעשה עוד׃
16 Wedi i chwi amlhau a chynyddu yn y wlad, fe ddaw amser," medd yr ARGLWYDD, "pan na ddywedir mwyach, 'Arch cyfamod yr ARGLWYDD', ac ni ddaw i feddwl neb gofio amdani nac ymweld � hi, ac ni wneir hynny mwyach.
17בעת ההיא יקראו לירושלם כסא יהוה ונקוו אליה כל הגוים לשם יהוה לירושלם ולא ילכו עוד אחרי שררות לבם הרע׃
17 Yr adeg honno galwant Jerwsalem yn orsedd yr ARGLWYDD, ac ymgasgla ati'r holl genhedloedd yno at enw'r ARGLWYDD yn Jerwsalem; ac ni rodiant mwyach yn �l ystyfnigrwydd eu calon ddrygionus.
18בימים ההמה ילכו בית יהודה על בית ישראל ויבאו יחדו מארץ צפון על הארץ אשר הנחלתי את אבותיכם׃
18 Yn y dyddiau hynny fe � tu375? Jwda at du375? Israel, a d�nt ynghyd o dir y gogledd i'r tir y perais i'ch hynafiaid ei etifeddu.
19ואנכי אמרתי איך אשיתך בבנים ואתן לך ארץ חמדה נחלת צבי צבאות גוים ואמר אבי תקראו לי ומאחרי לא תשובו׃
19 "Dywedais, 'Sut y gosodaf di ymhlith y plant, i roi i ti dir dymunol, ac etifeddiaeth orau'r cenhedloedd?' A dywedais, 'Fe'm gelwi, "Fy nhad", ac ni throi ymaith oddi ar fy �l.'
20אכן בגדה אשה מרעה כן בגדתם בי בית ישראל נאם יהוה׃
20 Yn ddiau, fel y bydd gwraig yn anffyddlon i'w chymar, felly, du375? Israel, y buoch yn anffyddlon i mi," medd yr ARGLWYDD.
21קול על שפיים נשמע בכי תחנוני בני ישראל כי העוו את דרכם שכחו את יהוה אלהיהם׃
21 Clyw! Ar y moelydd clywir wylofain ac ymbil tu375? Israel, am iddynt wyro eu ffordd ac anghofio'r ARGLWYDD eu Duw.
22שובו בנים שובבים ארפה משובתיכם הננו אתנו לך כי אתה יהוה אלהינו׃
22 "Dychwelwch, blant anffyddlon; iach�f eich ysbryd anffyddlon." "Wele, fe ddown atat, oherwydd ti yw'r ARGLWYDD ein Duw.
23אכן לשקר מגבעות המון הרים אכן ביהוה אלהינו תשועת ישראל׃
23 Diau y daw oferedd o gyfeddach y bryniau a'r mynyddoedd, ond yn yr ARGLWYDD ein Duw y mae iachawdwriaeth Israel.
24והבשת אכלה את יגיע אבותינו מנעורינו את צאנם ואת בקרם את בניהם ואת בנותיהם׃
24 Y mae'r gwarth wedi ysu llafur ein hynafiaid o'n hieuenctid: eu defaid a'u gwartheg, eu meibion a'u merched.
25נשכבה בבשתנו ותכסנו כלמתנו כי ליהוה אלהינו חטאנו אנחנו ואבותינו מנעורינו ועד היום הזה ולא שמענו בקול יהוה אלהינו׃
25 Gorweddwn yn ein gwarth, a'n cywilydd wedi ein hamd�i. Yr ydym wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw, nyni a'n hynafiaid, o'n hieuenctid hyd y dydd heddiw, ac ni wrandawsom ar lais yr ARGLWYDD ein Duw."