1אם תשוב ישראל נאם יהוה אלי תשוב ואם תסיר שקוציך מפני ולא תנוד׃
1 "Os dychweli, Israel," medd yr ARGLWYDD, "os dychweli ataf fi, a rhoi heibio dy ffieidd-dra o'm gu373?ydd, a pheidio � simsanu,
2ונשבעת חי יהוה באמת במשפט ובצדקה והתברכו בו גוים ובו יתהללו׃
2 ac os tyngi mewn gwirionedd, mewn barn a chyfiawnder, 'Byw yw yr ARGLWYDD', yna fe ymfendithia'r cenhedloedd ynddo, ac ymglodfori ynddo."
3כי כה אמר יהוה לאיש יהודה ולירושלם נירו לכם ניר ואל תזרעו אל קוצים׃
3 Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth bobl Jwda a Jerwsalem: "Braenarwch i chwi fraenar, a pheidiwch � hau mewn drain.
4המלו ליהוה והסרו ערלות לבבכם איש יהודה וישבי ירושלם פן תצא כאש חמתי ובערה ואין מכבה מפני רע מעלליכם׃
4 Ymenwaedwch i'r ARGLWYDD, symudwch flaengroen eich calon, bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem, rhag i'm digofaint ddod allan fel t�n a llosgi heb neb i'w ddiffodd, oherwydd drygioni eich gweithredoedd.
5הגידו ביהודה ובירושלם השמיעו ואמרו ותקעו שופר בארץ קראו מלאו ואמרו האספו ונבואה אל ערי המבצר׃
5 "Mynegwch yn Jwda, cyhoeddwch yn Jerwsalem, a dywedwch, 'Canwch utgorn yn y tir, bloeddiwch yn uchel.' A dywedwch, 'Ymgynullwch, ac awn i'r dinasoedd caerog.'
6שאו נס ציונה העיזו אל תעמדו כי רעה אנכי מביא מצפון ושבר גדול׃
6 Codwch, ffowch tua Seion, ffowch heb sefyllian; oherwydd dygaf ddrygioni o'r gogledd, a dinistr mawr.
7עלה אריה מסבכו ומשחית גוים נסע יצא ממקמו לשום ארצך לשמה עריך תצינה מאין יושב׃
7 Daeth llew i fyny o'i loches, cychwynnodd difethwr y cenhedloedd, a daeth allan o'i drigle i wneud dy dir yn anrhaith, ac fe ddinistrir dy ddinasoedd heb breswyliwr.
8על זאת חגרו שקים ספדו והילילו כי לא שב חרון אף יהוה ממנו׃
8 Am hyn ymwregyswch � sachliain, galarwch ac udwch; oherwydd nid yw angerdd llid yr ARGLWYDD wedi troi oddi wrthym.
9והיה ביום ההוא נאם יהוה יאבד לב המלך ולב השרים ונשמו הכהנים והנביאים יתמהו׃
9 Ac yn y dydd hwnnw," medd yr ARGLWYDD, "fe balla hyder y brenin a hyder y tywysogion; fe synna'r offeiriaid, ac fe ryfedda'r proffwydi."
10ואמר אהה אדני יהוה אכן השא השאת לעם הזה ולירושלם לאמר שלום יהיה לכם ונגעה חרב עד הנפש׃
10 Yna dywedais, "O ARGLWYDD Dduw, yr wyt wedi llwyr dwyllo'r bobl hyn a Jerwsalem, gan ddweud, 'Bydd heddwch i chwi'; ond trywanodd y cleddyf i'r byw."
11בעת ההיא יאמר לעם הזה ולירושלם רוח צח שפיים במדבר דרך בת עמי לוא לזרות ולוא להבר׃
11 Yn yr amser hwnnw fe ddywedir wrth y bobl hyn ac wrth Jerwsalem, "Bydd craswynt o'r moelydd uchel yn y diffeithwch yn troi i gyfeiriad merch fy mhobl,
12רוח מלא מאלה יבוא לי עתה גם אני אדבר משפטים אותם׃
12 nid i nithio nac i buro. Daw gwynt cryf ataf fi; yn awr myfi, ie myfi, a draethaf farn yn eu herbyn hwy."
13הנה כעננים יעלה וכסופה מרכבותיו קלו מנשרים סוסיו אוי לנו כי שדדנו׃
13 Wele, bydd yn esgyn fel cymylau, a'i gerbydau fel corwynt, ei feirch yn gyflymach nag eryrod. Gwae ni! Anrheithiwyd ni.
14כבסי מרעה לבך ירושלם למען תושעי עד מתי תלין בקרבך מחשבות אונך׃
14 Golch dy galon oddi wrth ddrygioni, Jerwsalem, iti gael dy achub. Pa hyd y lletya d'amcanion drygionus o'th fewn?
15כי קול מגיד מדן ומשמיע און מהר אפרים׃
15 Clyw! Cennad o wlad Dan, ac un yn cyhoeddi gofid o Fynydd Effraim,
16הזכירו לגוים הנה השמיעו על ירושלם נצרים באים מארץ המרחק ויתנו על ערי יהודה קולם׃
16 "Rhybuddiwch y cenhedloedd: 'Dyma ef!' Cyhoeddwch i Jerwsalem: 'Daw gwu375?r i'ch gwarchae o wlad bell, a chodi eu llais yn erbyn dinasoedd Jwda.
17כשמרי שדי היו עליה מסביב כי אתי מרתה נאם יהוה׃
17 Fel gwylwyr maes fe'i hamgylchynant, am iddi wrthryfela yn fy erbyn i,'" medd yr ARGLWYDD.
18דרכך ומעלליך עשו אלה לך זאת רעתך כי מר כי נגע עד לבך׃
18 "Dy ffordd a'th weithredoedd sydd wedi dod � hyn arnat. Dyma dy gosb, ac un chwerw yw; fe'th drawodd hyd at dy galon."
19מעי מעי אחולה קירות לבי המה לי לבי לא אחריש כי קול שופר שמעתי נפשי תרועת מלחמה׃
19 Fy ngwewyr! Fy ngwewyr! Rwy'n gwingo mewn poen. O, barwydydd fy nghalon! Y mae fy nghalon yn derfysg ynof; ni allaf dewi. Canys clywaf sain utgorn, twrf rhyfel.
20שבר על שבר נקרא כי שדדה כל הארץ פתאם שדדו אהלי רגע יריעתי׃
20 Daw dinistr ar ddinistr, anrheithir yr holl dir. Yn ddisymwth anrheithir fy mhebyll, a'm llenni mewn eiliad.
21עד מתי אראה נס אשמעה קול שופר׃
21 Pa hyd yr edrychaf ar faner, ac y gwrandawaf ar sain utgorn?
22כי אויל עמי אותי לא ידעו בנים סכלים המה ולא נבונים המה חכמים המה להרע ולהיטיב לא ידעו׃
22 Y mae fy mhobl yn ynfyd, nid ydynt yn fy adnabod i; plant angall ydynt, nid rhai deallus mohonynt. Y maent yn fedrus i wneud drygioni, ond ni wyddant sut i wneud daioni.
23ראיתי את הארץ והנה תהו ובהו ואל השמים ואין אורם׃
23 Edrychais tua'r ddaear � afluniaidd a gwag ydoedd; tua'r nefoedd � ond nid oedd yno oleuni.
24ראיתי ההרים והנה רעשים וכל הגבעות התקלקלו׃
24 Edrychais tua'r mynyddoedd, ac wele hwy'n crynu, a'r holl fryniau yn gwegian.
25ראיתי והנה אין האדם וכל עוף השמים נדדו׃
25 Edrychais, ac wele, nid oedd neb oll; ac yr oedd holl adar y nefoedd wedi cilio.
26ראיתי והנה הכרמל המדבר וכל עריו נתצו מפני יהוה מפני חרון אפו׃
26 Edrychais, ac wele'r dolydd yn ddiffeithwch, a'r holl ddinasoedd yn ddinistr, o achos yr ARGLWYDD, o achos angerdd ei lid.
27כי כה אמר יהוה שממה תהיה כל הארץ וכלה לא אעשה׃
27 Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Bydd yr holl wlad yn anrhaith, ond ni wnaf ddiwedd arni.
28על זאת תאבל הארץ וקדרו השמים ממעל על כי דברתי זמתי ולא נחמתי ולא אשוב ממנה׃
28 Am hyn fe alara'r ddaear, ac fe dywylla'r nefoedd fry, oherwydd imi fynegi fy mwriad; ac ni fydd yn edifar gennyf, ac ni throf yn �l oddi wrtho."
29מקול פרש ורמה קשת ברחת כל העיר באו בעבים ובכפים עלו כל העיר עזובה ואין יושב בהן איש׃
29 Rhag trwst marchogion a phlygwyr bwa y mae'r holl ddinas yn ffoi, yn mynd i'r drysni ac yn dringo i'r creigiau. Gadewir yr holl ddinasoedd heb neb i drigo ynddynt.
30ואתי שדוד מה תעשי כי תלבשי שני כי תעדי עדי זהב כי תקרעי בפוך עיניך לשוא תתיפי מאסו בך עגבים נפשך יבקשו׃
30 A thithau'n anrheithiedig, beth wyt ti'n ei wneud wedi dy wisgo ag ysgarlad, ac wedi ymdrwsio � thlysau aur, a lliwio dy lygaid? Yn ofer yr wyt yn dy wneud dy hun yn deg. Bydd dy gariadon yn dy ddirmygu, ac yn ceisio dy einioes.
31כי קול כחולה שמעתי צרה כמבכירה קול בת ציון תתיפח תפרש כפיה אוי נא לי כי עיפה נפשי להרגים׃
31 Ie, clywaf gri fel gwraig yn esgor, llef ingol fel un yn esgor ar ei chyntafanedig � cri merch Seion yn ochain, ac yn gwasgu ar ei dwylo: "Gwae fi! Rwy'n diffygio, a'r lleiddiaid am fy einioes."