1וידבר יהוה אל יהושע לאמר׃
1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Josua a dweud,
2דבר אל בני ישראל לאמר תנו לכם את ערי המקלט אשר דברתי אליכם ביד משה׃
2 "Dywed wrth yr Israeliaid am neilltuo dinasoedd noddfa, fel y gorchmynnais iddynt trwy Moses,
3לנוס שמה רוצח מכה נפש בשגגה בבלי דעת והיו לכם למקלט מגאל הדם׃
3 er mwyn i'r sawl sydd wedi lladd rhywun trwy amryfusedd, neu'n anfwriadol, gael ffoi iddynt, a chael noddfa ynddynt rhag y dialydd gwaed.
4ונס אל אחת מהערים האלה ועמד פתח שער העיר ודבר באזני זקני העיר ההיא את דבריו ואספו אתו העירה אליהם ונתנו לו מקום וישב עמם׃
4 Pan fydd rhywun yn ffoi i un o'r dinasoedd hyn, y mae i sefyll wrth fynediad porth y ddinas, ac adrodd ei achos yng nghlyw henuriaid y ddinas honno. Os byddant yn caniat�u iddo ddod i mewn atynt i'r ddinas, byddant yn nodi lle ar ei gyfer, a chaiff aros yno gyda hwy.
5וכי ירדף גאל הדם אחריו ולא יסגרו את הרצח בידו כי בבלי דעת הכה את רעהו ולא שנא הוא לו מתמול שלשום׃
5 Os daw'r dialydd gwaed ar ei �l, nid ydynt i ildio'r lleiddiad iddo, oherwydd yn anfwriadol y lladdodd ef ei gymydog, ac nid oedd yn ei gas�u'n flaenorol.
6וישב בעיר ההיא עד עמדו לפני העדה למשפט עד מות הכהן הגדול אשר יהיה בימים ההם אז ישוב הרוצח ובא אל עירו ואל ביתו אל העיר אשר נס משם׃
6 Caiff aros yn y ddinas honno nes iddo sefyll ei brawf gerbron y gynulleidfa. Ar farwolaeth y sawl fydd yn archoffeiriad ar y pryd, caiff y lleiddiad fynd yn �l i'w gartref yn y dref y ffodd ohoni."
7ויקדשו את קדש בגליל בהר נפתלי ואת שכם בהר אפרים ואת קרית ארבע היא חברון בהר יהודה׃
7 Neilltuasant Cedes yn Galilea ym mynydd-dir Nafftali, Sichem ym mynydd�dir Effraim, a Ciriath-arba, sef Hebron, ym mynydd�dir Jwda.
8ומעבר לירדן יריחו מזרחה נתנו את בצר במדבר במישר ממטה ראובן ואת ראמת בגלעד ממטה גד ואת גלון בבשן ממטה מנשה׃
8 Y tu hwnt i'r Iorddonen, i'r dwyrain o Jericho, nodasant Beser ar y gwastatir yn yr anialwch, o lwyth Reuben; Ramoth yn Gilead o lwyth Gad, a Golan yn Basan o lwyth Manasse.
9אלה היו ערי המועדה לכל בני ישראל ולגר הגר בתוכם לנוס שמה כל מכה נפש בשגגה ולא ימות ביד גאל הדם עד עמדו לפני העדה׃
9 Nodwyd y dinasoedd hyn ar gyfer yr holl Israeliaid, a'r dieithriaid oedd dros dro yn eu mysg, er mwyn i'r sawl fyddai wedi lladd rhywun mewn amryfusedd ffoi iddynt, rhag iddo farw trwy law dialydd gwaed cyn sefyll ei brawf gerbron y gynulleidfa.