Hebrew: Modern

Welsh

Judges

3

1ואלה הגוים אשר הניח יהוה לנסות בם את ישראל את כל אשר לא ידעו את כל מלחמות כנען׃
1 Gadawodd yr ARGLWYDD y cenhedloedd hyn i brofi'r Israeliaid oedd heb gael unrhyw brofiad o ryfeloedd Canaan, a hynny er mwyn i genedlaethau Israel gael profiad,
2רק למען דעת דרות בני ישראל ללמדם מלחמה רק אשר לפנים לא ידעום׃
2 ac er mwyn dysgu'r rhai nad oedd ganddynt brofiad blaenorol sut i ryfela.
3חמשת סרני פלשתים וכל הכנעני והצידני והחוי ישב הר הלבנון מהר בעל חרמון עד לבוא חמת׃
3 Gadawyd pum arglwydd y Philistiaid, y Canaaneaid oll, y Sidoniaid, a'r Hefiaid oedd yn byw ar fynydd-dir Lebanon o Fynydd Baal-hermon hyd Lebo-hamath.
4ויהיו לנסות בם את ישראל לדעת הישמעו את מצות יהוה אשר צוה את אבותם ביד משה׃
4 Yr oeddent yno i'r ARGLWYDD brofi Israel drwyddynt, a chael gwybod a fyddent yn ufuddhau i'r gorchmynion a roddodd ef i'w hynafiaid trwy Moses.
5ובני ישראל ישבו בקרב הכנעני החתי והאמרי והפרזי והחוי והיבוסי׃
5 Ymgartrefodd yr Israeliaid ymysg y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid;
6ויקחו את בנותיהם להם לנשים ואת בנותיהם נתנו לבניהם ויעבדו את אלהיהם׃
6 a chymerasant eu merched hwy yn wragedd, a rhoi eu merched eu hunain i'w meibion hwy, ac addoli eu duwiau.
7ויעשו בני ישראל את הרע בעיני יהוה וישכחו את יהוה אלהיהם ויעבדו את הבעלים ואת האשרות׃
7 Gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac anghofio'r ARGLWYDD eu Duw ac addoli'r duwiau Baal ac Asera.
8ויחר אף יהוה בישראל וימכרם ביד כושן רשעתים מלך ארם נהרים ויעבדו בני ישראל את כושן רשעתים שמנה שנים׃
8 Cyneuodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel a gwerthodd hwy i law Cusan-risathaim, brenin Aram-naharaim, a bu'r Israeliaid yn gwasanaethu Cusan-risathaim am wyth mlynedd.
9ויזעקו בני ישראל אל יהוה ויקם יהוה מושיע לבני ישראל ויושיעם את עתניאל בן קנז אחי כלב הקטן ממנו׃
9 Yna gwaeddodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD, a chododd yr ARGLWYDD achubwr i'r Israeliaid, sef Othniel fab Cenas, brawd iau Caleb, ac fe'u gwaredodd.
10ותהי עליו רוח יהוה וישפט את ישראל ויצא למלחמה ויתן יהוה בידו את כושן רשעתים מלך ארם ותעז ידו על כושן רשעתים׃
10 Daeth ysbryd yr ARGLWYDD arno, a barnodd Israel a mynd allan i ryfela, a rhoddodd yr ARGLWYDD yn ei law Cusan-risathaim, brenin Aram, ac fe'i trechodd.
11ותשקט הארץ ארבעים שנה וימת עתניאל בן קנז׃
11 Yna cafodd y wlad lonydd am ddeugain mlynedd, nes i Othniel fab Cenas farw.
12ויספו בני ישראל לעשות הרע בעיני יהוה ויחזק יהוה את עגלון מלך מואב על ישראל על כי עשו את הרע בעיני יהוה׃
12 Unwaith eto gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a nerthodd ef Eglon brenin Moab yn eu herbyn am iddynt wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.
13ויאסף אליו את בני עמון ועמלק וילך ויך את ישראל ויירשו את עיר התמרים׃
13 Casglodd Eglon yr Ammoniaid a'r Amaleciaid ato, ac ymosododd ar Israel a meddiannu Dinas y Palmwydd.
14ויעבדו בני ישראל את עגלון מלך מואב שמונה עשרה שנה׃
14 Bu'r Israeliaid yn gwasanaethu Eglon brenin Moab am ddeunaw mlynedd.
15ויזעקו בני ישראל אל יהוה ויקם יהוה להם מושיע את אהוד בן גרא בן הימיני איש אטר יד ימינו וישלחו בני ישראל בידו מנחה לעגלון מלך מואב׃
15 Yna gwaeddodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD, a chododd ef achubwr iddynt, sef Ehud fab Gera, Benjaminiad a dyn llawchwith; ac anfonodd yr Israeliaid gydag ef deyrnged i Eglon brenin Moab.
16ויעש לו אהוד חרב ולה שני פיות גמד ארכה ויחגר אותה מתחת למדיו על ירך ימינו׃
16 Yr oedd Ehud wedi gwneud cleddyf daufiniog, cufydd o hyd, a'i wregysu ar ei glun dde, o dan ei ddillad.
17ויקרב את המנחה לעגלון מלך מואב ועגלון איש בריא מאד׃
17 Cyflwynodd y deyrnged i Eglon brenin Moab, a oedd yn ddyn tew iawn.
18ויהי כאשר כלה להקריב את המנחה וישלח את העם נשאי המנחה׃
18 Ar �l gorffen cyflwyno'r deyrnged, anfonodd ymaith y bobl a fu'n cario'r deyrnged,
19והוא שב מן הפסילים אשר את הגלגל ויאמר דבר סתר לי אליך המלך ויאמר הס ויצאו מעליו כל העמדים עליו׃
19 ond dychwelodd Ehud ei hun oddi wrth y colofnau ger Gilgal a dweud, "Y mae gennyf neges gyfrinachol iti, O frenin."
20ואהוד בא אליו והוא ישב בעלית המקרה אשר לו לבדו ויאמר אהוד דבר אלהים לי אליך ויקם מעל הכסא׃
20 Galwodd yntau am dawelwch, ac aeth pawb oedd yn sefyll o'i gwmpas allan. Yna nesaodd Ehud ato, ac yntau'n eistedd wrtho'i hunan mewn ystafell haf oedd ganddo ar y to, a dywedodd, "Gair gan Dduw sydd gennyf iti." Cododd yntau oddi ar ei sedd.
21וישלח אהוד את יד שמאלו ויקח את החרב מעל ירך ימינו ויתקעה בבטנו׃
21 Yna estynnodd Ehud ei law chwith, cydiodd yn y cleddyf oedd ar ei glun dde, a'i daro i fol Eglon,
22ויבא גם הנצב אחר הלהב ויסגר החלב בעד הלהב כי לא שלף החרב מבטנו ויצא הפרשדנה׃
22 nes bod y carn yn mynd i mewn ar �l y llafn, a'r braster yn cau amdano. Ni thynnodd y cleddyf o'i fol, a daeth allan y tu cefn.
23ויצא אהוד המסדרונה ויסגר דלתות העליה בעדו ונעל׃
23 Yna aeth Ehud allan trwy'r cyntedd a chau drysau'r ystafell arno a'u cloi.
24והוא יצא ועבדיו באו ויראו והנה דלתות העליה נעלות ויאמרו אך מסיך הוא את רגליו בחדר המקרה׃
24 Wedi iddo fynd i ffwrdd, daeth gweision Eglon, ac wedi edrych a gweld drysau'r ystafell ynghlo, dywedasant, "Rhaid mai esmwyth�u ei gorff y mae yn yr ystafell haf."
25ויחילו עד בוש והנה איננו פתח דלתות העליה ויקחו את המפתח ויפתחו והנה אדניהם נפל ארצה מת׃
25 Wedi iddynt ddisgwyl nes bod cywilydd arnynt, ac yntau heb agor drysau'r ystafell, cymerasant allwedd a'u hagor, a dyna lle'r oedd eu meistr wedi syrthio i'r llawr yn farw.
26ואהוד נמלט עד התמהמהם והוא עבר את הפסילים וימלט השעירתה׃
26 Yr oedd Ehud wedi dianc tra oeddent hwy'n oedi; aeth heibio i'r colofnau a dianc i Seira.
27ויהי בבואו ויתקע בשופר בהר אפרים וירדו עמו בני ישראל מן ההר והוא לפניהם׃
27 Pan gyrhaeddodd, fe ganodd yr utgorn ym mynydd-dir Effraim, a daeth yr Israeliaid i lawr gydag ef o'r mynydd-dir, ac yntau'n eu harwain.
28ויאמר אלהם רדפו אחרי כי נתן יהוה את איביכם את מואב בידכם וירדו אחריו וילכדו את מעברות הירדן למואב ולא נתנו איש לעבר׃
28 Dywedodd wrthynt, "Dilynwch fi, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi eich gelyn Moab yn eich llaw." Aethant hwythau ar ei �l a dal rhydau'r Iorddonen yn erbyn Moab, a rhwystro pawb rhag croesi.
29ויכו את מואב בעת ההיא כעשרת אלפים איש כל שמן וכל איש חיל ולא נמלט איש׃
29 Lladdasant y pryd hwnnw tua deng mil o'r Moabiaid, pob un yn heini a grymus; ni ddihangodd neb.
30ותכנע מואב ביום ההוא תחת יד ישראל ותשקט הארץ שמונים שנה׃
30 Darostyngwyd y Moabiaid y diwrnod hwnnw dan law Israel, a chafodd y wlad lonydd am bedwar ugain mlynedd.
31ואחריו היה שמגר בן ענת ויך את פלשתים שש מאות איש במלמד הבקר וישע גם הוא את ישראל׃
31 Ar ei �l ef bu Samgar fab Anath. Lladdodd ef chwe chant o Philistiaid � swmbwl gyrru ychen. Fe waredodd yntau Israel.