1ויספו בני ישראל לעשות הרע בעיני יהוה ואהוד מת׃
1 Ar �l i Ehud farw, gwnaeth yr Israeliaid unwaith eto yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.
2וימכרם יהוה ביד יבין מלך כנען אשר מלך בחצור ושר צבאו סיסרא והוא יושב בחרשת הגוים׃
2 Felly gwerthodd yr ARGLWYDD hwy i law Jabin brenin Canaan, a oedd yn teyrnasu yn Hasor. Capten ei fyddin oedd Sisera, a oedd yn byw yn Haroseth y Cenhedloedd.
3ויצעקו בני ישראל אל יהוה כי תשע מאות רכב ברזל לו והוא לחץ את בני ישראל בחזקה עשרים שנה׃
3 Yr oedd ganddo naw cant o gerbydau haearn, a bu'n gorthrymu'r Israeliaid yn galed am ugain mlynedd; am hynny gwaeddodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD.
4ודבורה אשה נביאה אשת לפידות היא שפטה את ישראל בעת ההיא׃
4 Proffwydes o'r enw Debora gwraig Lappidoth oedd yn barnu Israel yr adeg honno.
5והיא יושבת תחת תמר דבורה בין הרמה ובין בית אל בהר אפרים ויעלו אליה בני ישראל למשפט׃
5 Byddai'n eistedd dan balmwydden Debora, rhwng Rama a Bethel ym mynydd-dir Effraim, a byddai'r Israeliaid yn mynd ati am farn.
6ותשלח ותקרא לברק בן אבינעם מקדש נפתלי ותאמר אליו הלא צוה יהוה אלהי ישראל לך ומשכת בהר תבור ולקחת עמך עשרת אלפים איש מבני נפתלי ומבני זבלון׃
6 Anfonodd hi am Barac fab Abinoam o Cedes Nafftali, a dweud wrtho, "Onid yw'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn gorchymyn iti? Dos, cynnull ddeng mil o ddynion o lwythau Nafftali a Sabulon ar Fynydd Tabor, a chymer hwy gyda thi.
7ומשכתי אליך אל נחל קישון את סיסרא שר צבא יבין ואת רכבו ואת המונו ונתתיהו בידך׃
7 Denaf finnau, i'th gyfarfod wrth nant Cison, Sisera, capten byddin Jabin, gyda'i gerbydau a'i lu; ac fe'u rhoddaf yn dy law."
8ויאמר אליה ברק אם תלכי עמי והלכתי ואם לא תלכי עמי לא אלך׃
8 Ond dywedodd Barac wrthi, "Os doi di gyda mi, yna mi af; ac os na ddoi di gyda mi, nid af."
9ותאמר הלך אלך עמך אפס כי לא תהיה תפארתך על הדרך אשר אתה הולך כי ביד אשה ימכר יהוה את סיסרא ותקם דבורה ותלך עם ברק קדשה׃
9 Meddai hithau, "Dof, mi ddof gyda thi; eto ni ddaw gogoniant i ti ar y llwybr a gerddi, oherwydd i law gwraig y mae'r ARGLWYDD am werthu Sisera." Yna cododd Debora a mynd gyda Barac i Cedes.
10ויזעק ברק את זבולן ואת נפתלי קדשה ויעל ברגליו עשרת אלפי איש ותעל עמו דבורה׃
10 Cynullodd Barac lwythau Sabulon a Nafftali i Cedes, a dilynodd deng mil o ddynion ar ei �l; aeth Debora hefyd gydag ef.
11וחבר הקיני נפרד מקין מבני חבב חתן משה ויט אהלו עד אלון בצענים אשר את קדש׃
11 Yr oedd Heber y Cenead wedi ymwahanu oddi wrth y Ceneaid eraill oedd yn ddisgynyddion Hobab, tad-yng-nghyfraith Moses, ac wedi gosod ei babell cyn belled �'r dderwen yn Saanannim ger Cedes.
12ויגדו לסיסרא כי עלה ברק בן אבינעם הר תבור׃
12 Pan ddywedwyd wrth Sisera fod Barac fab Abinoam wedi mynd i fyny i Fynydd Tabor,
13ויזעק סיסרא את כל רכבו תשע מאות רכב ברזל ואת כל העם אשר אתו מחרשת הגוים אל נחל קישון׃
13 galwodd Sisera ei holl gerbydau � naw cant o gerbydau haearn � a'i holl filwyr, o Haroseth y Cenhedloedd at nant Cison.
14ותאמר דברה אל ברק קום כי זה היום אשר נתן יהוה את סיסרא בידך הלא יהוה יצא לפניך וירד ברק מהר תבור ועשרת אלפים איש אחריו׃
14 Yna dywedodd Debora wrth Barac, "Dos! Oherwydd dyma'r dydd y bydd yr ARGLWYDD yn rhoi Sisera yn dy law. Onid yw'r ARGLWYDD wedi mynd o'th flaen?" Aeth Barac i lawr o Fynydd Tabor gyda deng mil o wu375?r ar ei �l.
15ויהם יהוה את סיסרא ואת כל הרכב ואת כל המחנה לפי חרב לפני ברק וירד סיסרא מעל המרכבה וינס ברגליו׃
15 Gyrrodd yr ARGLWYDD Sisera a'r cerbydau i gyd, a'r holl fyddin, ar chw�l o flaen cleddyf Barac. Disgynnodd Sisera o'i gerbyd a ffoi ar ei draed.
16וברק רדף אחרי הרכב ואחרי המחנה עד חרשת הגוים ויפל כל מחנה סיסרא לפי חרב לא נשאר עד אחד׃
16 Ymlidiodd Barac y cerbydau a'r fyddin cyn belled � Haroseth y Cenhedloedd, a chwympodd holl fyddin Sisera o flaen y cleddyf, heb adael cymaint ag un.
17וסיסרא נס ברגליו אל אהל יעל אשת חבר הקיני כי שלום בין יבין מלך חצור ובין בית חבר הקיני׃
17 Ffodd Sisera ar ei draed i babell Jael, gwraig Heber y Cenead, oherwydd yr oedd heddwch rhwng Jabin brenin Hasor a theulu Heber y Cenead.
18ותצא יעל לקראת סיסרא ותאמר אליו סורה אדני סורה אלי אל תירא ויסר אליה האהלה ותכסהו בשמיכה׃
18 Daeth Jael allan i gyfarfod Sisera a dywedodd wrtho, "Tro i mewn, f'arglwydd, tro i mewn ataf, paid ag ofni." Felly troes i mewn ati i'r babell, a thaenodd hithau gwrlid drosto.
19ויאמר אליה השקיני נא מעט מים כי צמאתי ותפתח את נאוד החלב ותשקהו ותכסהו׃
19 Gofynnodd iddi am lymaid o ddu373?r i'w yfed, gan fod syched arno, ond agorodd hi botel o laeth a rhoi diod iddo, ac yna ei orchuddio eto.
20ויאמר אליה עמד פתח האהל והיה אם איש יבוא ושאלך ואמר היש פה איש ואמרת אין׃
20 Dywedodd wrthi, "Saf yn nrws y babell, ac os daw rhywun a gofyn iti a oes unrhyw un yma, dywed, 'Nac oes'."
21ותקח יעל אשת חבר את יתד האהל ותשם את המקבת בידה ותבוא אליו בלאט ותתקע את היתד ברקתו ותצנח בארץ והוא נרדם ויעף וימת׃
21 Cymerodd Jael, gwraig Heber, hoelen pabell, cydiodd mewn morthwyl, ac aeth ato'n ddistaw a phwyo'r hoelen trwy ei arlais i'r llawr; yr oedd ef mewn trymgwsg ar �l ei ludded, a bu farw.
22והנה ברק רדף את סיסרא ותצא יעל לקראתו ותאמר לו לך ואראך את האיש אשר אתה מבקש ויבא אליה והנה סיסרא נפל מת והיתד ברקתו׃
22 Yna cyrhaeddodd Barac, yn ymlid Sisera; aeth Jael allan i'w gyfarfod, a dywedodd wrtho, "Tyrd, fe ddangosaf iti'r dyn yr wyt yn chwilio amdano." Aeth yntau i mewn, a dyna lle'r oedd Sisera yn gorwedd yn farw, a'r hoelen yn ei arlais.
23ויכנע אלהים ביום ההוא את יבין מלך כנען לפני בני ישראל׃
23 Y diwrnod hwnnw darostyngodd Duw Jabin brenin Canaan gerbron yr Israeliaid.
24ותלך יד בני ישראל הלוך וקשה על יבין מלך כנען עד אשר הכריתו את יבין מלך כנען׃
24 Pwysodd yr Israeliaid yn drymach, drymach arno, nes iddynt ddistrywio Jabin brenin Canaan.