1ותשר דבורה וברק בן אבינעם ביום ההוא לאמר׃
1 Y diwrnod hwnnw canodd Debora a Barac fab Abinoam fel hyn:
2בפרע פרעות בישראל בהתנדב עם ברכו יהוה׃
2 "Am i'r arweinwyr roi arweiniad yn Israel, am i'r bobl ymroi o'u gwirfodd, bendithiwch yr ARGLWYDD.
3שמעו מלכים האזינו רזנים אנכי ליהוה אנכי אשירה אזמר ליהוה אלהי ישראל׃
3 Clywch, frenhinoedd! Gwrandewch, dywysogion! Canaf finnau i'r ARGLWYDD, a moliannu ARGLWYDD Dduw Israel.
4יהוה בצאתך משעיר בצעדך משדה אדום ארץ רעשה גם שמים נטפו גם עבים נטפו מים׃
4 "O ARGLWYDD, pan aethost allan o Seir, ac ymdeithio o Faes Edom, fe grynodd y ddaear, glawiodd y nefoedd, ac yr oedd y cymylau hefyd yn diferu du373?r.
5הרים נזלו מפני יהוה זה סיני מפני יהוה אלהי ישראל׃
5 Siglodd y mynyddoedd o flaen yr ARGLWYDD, Duw Sinai, o flaen ARGLWYDD Dduw Israel.
6בימי שמגר בן ענת בימי יעל חדלו ארחות והלכי נתיבות ילכו ארחות עקלקלות׃
6 "Yn nyddiau Samgar fab Anath, ac yn nyddiau Jael, peidiodd y carafanau; aeth y teithwyr ar hyd llwybrau troellog.
7חדלו פרזון בישראל חדלו עד שקמתי דבורה שקמתי אם בישראל׃
7 Darfu am drigolion pentrefi, darfu amdanynt yn Israel nes i mi, Debora, gyfodi, nes i mi godi yn fam yn Israel.
8יבחר אלהים חדשים אז לחם שערים מגן אם יראה ורמח בארבעים אלף בישראל׃
8 Pan ddewiswyd duwiau newydd, yna daeth brwydro i'r pyrth, ac ni welwyd na tharian na gwaywffon ymhlith deugain mil yn Israel.
9לבי לחוקקי ישראל המתנדבים בעם ברכו יהוה׃
9 Mae fy nghalon o blaid llywiawdwyr Israel, y rhai ymysg y bobl a aeth o'u gwirfodd. Bendithiwch yr ARGLWYDD.
10רכבי אתנות צחרות ישבי על מדין והלכי על דרך שיחו׃
10 "Ystyriwch, chwi sy'n marchogaeth asynnod melyngoch, chwi sy'n eistedd ar gyfrwyau, chwi sy'n cerdded y ffordd.
11מקול מחצצים בין משאבים שם יתנו צדקות יהוה צדקת פרזנו בישראל אז ירדו לשערים עם יהוה׃
11 Clywch y rhai sy'n disgwyl eu tro ger y ffynhonnau, ac yno'n adrodd buddugoliaethau'r ARGLWYDD, buddugoliaethau ei bentrefwyr yn Israel, pan aeth byddin yr ARGLWYDD i lawr i'r pyrth.
12עורי עורי דבורה עורי עורי דברי שיר קום ברק ושבה שביך בן אבינעם׃
12 "Deffro, deffro, Debora! Deffro, deffro, lleisia g�n! Cyfod, Barac! Cymer lu o garcharorion, ti fab Abinoam!
13אז ירד שריד לאדירים עם יהוה ירד לי בגבורים׃
13 "Yna fe aeth y gweddill i lawr at y pendefigion, do, fe aeth byddin yr ARGLWYDD i lawr ymysg y cedyrn.
14מני אפרים שרשם בעמלק אחריך בנימין בעממיך מני מכיר ירדו מחקקים ומזבולן משכים בשבט ספר׃
14 Daeth rhai o Effraim a lledu drwy'r dyffryn, a gweiddi, 'Ar dy �l di, Benjamin, gyda'th geraint!' Aeth llywiawdwyr i lawr o Machir; ac o Sabulon, rhai'n cario gwialen swyddog.
15ושרי ביששכר עם דברה ויששכר כן ברק בעמק שלח ברגליו בפלגות ראובן גדלים חקקי לב׃
15 Yr oedd tywysogion Issachar gyda Debora; bu Issachar yn ffyddlon i Barac, yn rhuthro i'r dyffryn ar ei �l. Ymysg y rhaniadau yn Reuben yr oedd petruster mawr.
16למה ישבת בין המשפתים לשמע שרקות עדרים לפלגות ראובן גדולים חקרי לב׃
16 Pam yr arhosaist rhwng y corlannau i wrando ar chwiban bugeiliaid? Ymysg y rhaniadau yn Reuben yr oedd petruster mawr.
17גלעד בעבר הירדן שכן ודן למה יגור אניות אשר ישב לחוף ימים ועל מפרציו ישכון׃
17 Arhosodd Gilead y tu hwnt i'r Iorddonen; a pham yr oedd Dan yn oedi ger y llongau? Arhosodd Aser ar lan y m�r, ac oedi gerllaw ei gilfachau.
18זבלון עם חרף נפשו למות ונפתלי על מרומי שדה׃
18 Pobl a fentrodd eu heinioes hyd angau oedd Sabulon a Nafftali hefyd, ar uchelfannau maes y gad.
19באו מלכים נלחמו אז נלחמו מלכי כנען בתענך על מי מגדו בצע כסף לא לקחו׃
19 "Daeth brenhinoedd ac ymladd; fe ymladdodd brenhinoedd Canaan yn Taanach ger dyfroedd Megido, ond heb gymryd ysbail o arian.
20מן שמים נלחמו הכוכבים ממסלותם נלחמו עם סיסרא׃
20 o'r nef ymladdodd y s�r, ymladd o'u cylchoedd yn erbyn Sisera.
21נחל קישון גרפם נחל קדומים נחל קישון תדרכי נפשי עז׃
21 "Ysgubodd nant Cison hwy ymaith, cododd llif nant Cison yn eu herbyn. Fy enaid, cerdda ymlaen mewn nerth.
22אז הלמו עקבי סוס מדהרות דהרות אביריו׃
22 Yna'r oedd carnau'r ceffylau'n diasbedain gan garlam gwyllt eu meirch cryfion.
23אורו מרוז אמר מלאך יהוה ארו ארור ישביה כי לא באו לעזרת יהוה לעזרת יהוה בגבורים׃
23 "'Melltigwch Meros,' medd angel yr ARGLWYDD, 'melltigwch yn llwyr ei thrigolion, am na ddaethant i gynorthwyo'r ARGLWYDD, i gynorthwyo'r ARGLWYDD gyda'r gwroniaid.'
24תברך מנשים יעל אשת חבר הקיני מנשים באהל תברך׃
24 Bendigedig goruwch gwragedd fyddo Jael, gwraig Heber y Cenead; bendithier hi uwch gwragedd y babell.
25מים שאל חלב נתנה בספל אדירים הקריבה חמאה׃
25 Am ddu373?r y gofynnodd ef, estynnodd hithau laeth; mewn llestr pendefigaidd cynigiodd iddo enwyn.
26ידה ליתד תשלחנה וימינה להלמות עמלים והלמה סיסרא מחקה ראשו ומחצה וחלפה רקתו׃
26 Estynnodd ei llaw at yr hoelen, a'i deheulaw at ordd y llafurwyr; yna fe bwyodd Sisera a dryllio'i ben, fe'i trawodd a thrywanu ei arlais.
27בין רגליה כרע נפל שכב בין רגליה כרע נפל באשר כרע שם נפל שדוד׃
27 Rhwng ei thraed fe grymodd, syrthiodd, gorweddodd; rhwng ei thraed fe grymodd, syrthiodd; lle crymodd, yno fe syrthiodd yn gelain.
28בעד החלון נשקפה ותיבב אם סיסרא בעד האשנב מדוע בשש רכבו לבוא מדוע אחרו פעמי מרכבותיו׃
28 "Edrychai mam Sisera trwy'r ffenestr a llefain trwy'r dellt: 'Pam y mae ei gerbyd yn oedi? Pam y mae twrf ei gerbydau mor hir yn dod?'
29חכמות שרותיה תענינה אף היא תשיב אמריה לה׃
29 Atebodd y ddoethaf o'i thywysogesau, ie, rhoes hithau'r ateb iddi ei hun,
30הלא ימצאו יחלקו שלל רחם רחמתים לראש גבר שלל צבעים לסיסרא שלל צבעים רקמה צבע רקמתים לצוארי שלל׃
30 'Onid ydynt yn cael ysbail ac yn ei rannu � llances neu ddwy i bob un o'r dynion, ysbail o frethyn lliw i Sisera, ie, ysbail o frethyn lliw, darn neu ddau o frodwaith am yddfau'r ysbeilwyr?'
31כן יאבדו כל אויביך יהוה ואהביו כצאת השמש בגברתו ותשקט הארץ ארבעים שנה׃
31 "Felly bydded i'th holl elynion ddarfod, O ARGLWYDD, ond bydded y rhai sy'n dy garu fel yr haul yn codi yn ei rym." Yna cafodd y wlad lonydd am ddeugain mlynedd.