Hebrew: Modern

Welsh

Leviticus

1

1ויקרא אל משה וידבר יהוה אליו מאהל מועד לאמר׃
1 Galwodd yr ARGLWYDD ar Moses a llefaru wrtho o babell y cyfarfod a dweud:
2דבר אל בני ישראל ואמרת אלהם אדם כי יקריב מכם קרבן ליהוה מן הבהמה מן הבקר ומן הצאן תקריבו את קרבנכם׃
2 "Llefara wrth bobl Israel a dywed wrthynt, 'Pan fydd unrhyw un ohonoch yn dod ag offrwm i'r ARGLWYDD, dewch ag anifail o'r gyr neu o'r praidd yn offrwm.
3אם עלה קרבנו מן הבקר זכר תמים יקריבנו אל פתח אהל מועד יקריב אתו לרצנו לפני יהוה׃
3 "'Os poethoffrwm o'r gyr fydd ei rodd, dylai ddod � gwryw di-nam; deued ag ef at ddrws pabell y cyfarfod, iddo fod yn dderbyniol gan yr ARGLWYDD.
4וסמך ידו על ראש העלה ונרצה לו לכפר עליו׃
4 Rhodded ei law ar ben y poethoffrwm, a bydd yn dderbyniol ganddo i wneud iawn drosto.
5ושחט את בן הבקר לפני יהוה והקריבו בני אהרן הכהנים את הדם וזרקו את הדם על המזבח סביב אשר פתח אהל מועד׃
5 Y mae i ladd y bustach ifanc o flaen yr ARGLWYDD, ac yna bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn dod �'r gwaed ac yn ei luchio ar bob ochr i'r allor sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
6והפשיט את העלה ונתח אתה לנתחיה׃
6 Y mae i flingo'r poethoffrwm a'i dorri'n ddarnau.
7ונתנו בני אהרן הכהן אש על המזבח וערכו עצים על האש׃
7 Bydd meibion Aaron yr offeiriad yn gosod t�n ar yr allor ac yn trefnu'r coed ar y t�n.
8וערכו בני אהרן הכהנים את הנתחים את הראש ואת הפדר על העצים אשר על האש אשר על המזבח׃
8 Yna bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn trefnu'r darnau, yn cynnwys y pen a'r braster, ar y coed sy'n llosgi ar yr allor.
9וקרבו וכרעיו ירחץ במים והקטיר הכהן את הכל המזבחה עלה אשה ריח ניחוח ליהוה׃
9 Y mae i olchi'r ymysgaroedd a'r coesau � du373?r, a bydd yr offeiriad yn llosgi'r cyfan ohono ar yr allor yn boethoffrwm, yn offrwm trwy d�n, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
10ואם מן הצאן קרבנו מן הכשבים או מן העזים לעלה זכר תמים יקריבנו׃
10 "'Os poethoffrwm o'r praidd fydd ei rodd, boed o'r defaid neu o'r geifr, dylai ddod � gwryw di-nam.
11ושחט אתו על ירך המזבח צפנה לפני יהוה וזרקו בני אהרן הכהנים את דמו על המזבח סביב׃
11 Y mae i'w ladd ar ochr y gogledd i'r allor o flaen yr ARGLWYDD, a bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn lluchio'i waed ar bob ochr i'r allor.
12ונתח אתו לנתחיו ואת ראשו ואת פדרו וערך הכהן אתם על העצים אשר על האש אשר על המזבח׃
12 Y mae i'w dorri'n ddarnau, yn cynnwys y pen a'r braster, a bydd yr offeiriad yn eu trefnu ar y coed sy'n llosgi ar yr allor.
13והקרב והכרעים ירחץ במים והקריב הכהן את הכל והקטיר המזבחה עלה הוא אשה ריח ניחח ליהוה׃
13 Y mae i olchi'r ymysgaroedd a'r coesau � du373?r, a bydd yr offeiriad yn dod �'r cyfan ac yn ei losgi ar yr allor yn boethoffrwm, yn offrwm trwy d�n, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
14ואם מן העוף עלה קרבנו ליהוה והקריב מן התרים או מן בני היונה את קרבנו׃
14 "'Os poethoffrwm o adar fydd ei rodd i'r ARGLWYDD, dylai ddod � thurtur neu gyw colomen.
15והקריבו הכהן אל המזבח ומלק את ראשו והקטיר המזבחה ונמצה דמו על קיר המזבח׃
15 Y mae'r offeiriad i ddod ag ef at yr allor a thorri ei ben, a'i losgi ar yr allor; bydd yn gwasgu allan ei waed ar ochr yr allor,
16והסיר את מראתו בנצתה והשליך אתה אצל המזבח קדמה אל מקום הדשן׃
16 yn tynnu ei grombil a'i blu, ac yn eu lluchio yn ymyl yr allor i'r dwyrain, lle mae'r lludw;
17ושסע אתו בכנפיו לא יבדיל והקטיר אתו הכהן המזבחה על העצים אשר על האש עלה הוא אשה ריח ניחח ליהוה׃
17 bydd yn ei agor allan gerfydd ei adenydd, ond heb ei ddarnio; yna bydd yr offeiriad yn ei losgi ar yr allor, ar y coed sy'n llosgi, yn boethoffrwm, yn offrwm trwy d�n, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.