Hebrew: Modern

Welsh

Leviticus

18

1וידבר יהוה אל משה לאמר׃
1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2דבר אל בני ישראל ואמרת אלהם אני יהוה אלהיכם׃
2 "Dywed wrth bobl Israel, 'Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
3כמעשה ארץ מצרים אשר ישבתם בה לא תעשו וכמעשה ארץ כנען אשר אני מביא אתכם שמה לא תעשו ובחקתיהם לא תלכו׃
3 Nid ydych i wneud fel y gwneir yng ngwlad yr Aifft, lle buoch yn byw, nac fel y gwneir yng ngwlad Canaan, lle'r wyf yn mynd � chwi. Peidiwch � dilyn eu harferion.
4את משפטי תעשו ואת חקתי תשמרו ללכת בהם אני יהוה אלהיכם׃
4 Yr ydych i ufuddhau i'm cyfreithiau ac i gadw fy neddfau; myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
5ושמרתם את חקתי ואת משפטי אשר יעשה אתם האדם וחי בהם אני יהוה׃
5 Cadwch fy neddfau a'm cyfreithiau, oherwydd y mae'r sawl sy'n eu cadw yn byw trwyddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD.
6איש איש אל כל שאר בשרו לא תקרבו לגלות ערוה אני יהוה׃
6 "'Nid yw unrhyw un i ddynesu at berthynas agos iddo i gael cyfathrach rywiol. Myfi yw'r ARGLWYDD.
7ערות אביך וערות אמך לא תגלה אמך הוא לא תגלה ערותה׃
7 "'Nid wyt i amharchu dy dad trwy gael cyfathrach rywiol �'th fam; dy fam yw hi, ac nid wyt i gael cyfathrach � hi.
8ערות אשת אביך לא תגלה ערות אביך הוא׃
8 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol � gwraig dy dad; byddai hynny'n amharchu dy dad.
9ערות אחותך בת אביך או בת אמך מולדת בית או מולדת חוץ לא תגלה ערותן׃
9 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol �'th chwaer, boed yn ferch i'th dad neu'n ferch i'th fam, ac wedi ei geni yn y cartref neu'r tu allan iddo.
10ערות בת בנך או בת בתך לא תגלה ערותן כי ערותך הנה׃
10 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol � merch dy fab neu ferch dy ferch; byddai hynny'n dy amharchu.
11ערות בת אשת אביך מולדת אביך אחותך הוא לא תגלה ערותה׃
11 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol � merch i wraig dy dad sydd wedi ei geni i'th dad; y mae'n chwaer iti, ac nid wyt i gael cyfathrach � hi.
12ערות אחות אביך לא תגלה שאר אביך הוא׃
12 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol � chwaer dy dad; y mae'n berthynas agos i'th dad.
13ערות אחות אמך לא תגלה כי שאר אמך הוא׃
13 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol � chwaer dy fam, gan ei bod yn berthynas agos i'th fam.
14ערות אחי אביך לא תגלה אל אשתו לא תקרב דדתך הוא׃
14 "'Nid wyt i amharchu brawd dy dad trwy ddynesu at ei wraig; y mae'n fodryb iti.
15ערות כלתך לא תגלה אשת בנך הוא לא תגלה ערותה׃
15 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol �'th ferch-yng-nghyfraith; y mae'n wraig i'th fab, ac nid wyt i gael cyfathrach � hi.
16ערות אשת אחיך לא תגלה ערות אחיך הוא׃
16 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol � gwraig dy frawd; byddai hynny'n amharchu dy frawd.
17ערות אשה ובתה לא תגלה את בת בנה ואת בת בתה לא תקח לגלות ערותה שארה הנה זמה הוא׃
17 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol � gwraig ac �'i merch, nac ychwaith � merch ei mab na merch ei merch; y maent yn perthyn yn agos iddi, a byddai hynny'n anlladrwydd.
18ואשה אל אחתה לא תקח לצרר לגלות ערותה עליה בחייה׃
18 "'Nid wyt i briodi chwaer dy wraig rhag iddi gystadlu � hi, na chael cyfathrach � hi tra bo dy wraig yn fyw.
19ואל אשה בנדת טמאתה לא תקרב לגלות ערותה׃
19 "'Nid wyt i ddynesu at wraig i gael cyfathrach rywiol � hi yn ystod aflendid ei misglwyf.
20ואל אשת עמיתך לא תתן שכבתך לזרע לטמאה בה׃
20 "'Nid wyt i orwedd mewn cyfathrach gyda gwraig dy gymydog, i'th wneud dy hun yn aflan gyda hi.
21ומזרעך לא תתן להעביר למלך ולא תחלל את שם אלהיך אני יהוה׃
21 "'Nid wyt i roi yr un o'th blant i'w aberthu i Moloch, a halogi enw dy Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD.
22ואת זכר לא תשכב משכבי אשה תועבה הוא׃
22 "'Nid wyt i orwedd gyda dyn fel gyda gwraig; y mae hynny'n ffieidd-dra.
23ובכל בהמה לא תתן שכבתך לטמאה בה ואשה לא תעמד לפני בהמה לרבעה תבל הוא׃
23 "'Nid wyt i orwedd gydag unrhyw anifail, i'th wneud dy hun yn aflan, ac nid yw unrhyw wraig i'w rhoi ei hun mewn cyfathrach ag anifail; y mae hynny'n wyrni.
24אל תטמאו בכל אלה כי בכל אלה נטמאו הגוים אשר אני משלח מפניכם׃
24 "'Peidiwch �'ch halogi eich hunain �'r un o'r pethau hyn, oherwydd trwy'r rhain y bu'r cenhedloedd yr wyf yn eu gyrru allan o'ch blaenau yn eu halogi eu hunain.
25ותטמא הארץ ואפקד עונה עליה ותקא הארץ את ישביה׃
25 Halogwyd y tir, ac fe'i cosbais am ei ddrygioni, ac fe chwydodd y tir ei drigolion.
26ושמרתם אתם את חקתי ואת משפטי ולא תעשו מכל התועבת האלה האזרח והגר הגר בתוככם׃
26 Ond cadwch chwi fy neddfau a'm cyfreithiau, a pheidiwch � gwneud yr un o'r pethau ffiaidd hyn, pa un bynnag ai brodor ai estron ydych;
27כי את כל התועבת האל עשו אנשי הארץ אשר לפניכם ותטמא הארץ׃
27 oherwydd gwnaeth y bobl oedd yn y wlad o'ch blaen chwi yr holl bethau ffiaidd hyn, a halogwyd y tir.
28ולא תקיא הארץ אתכם בטמאכם אתה כאשר קאה את הגוי אשר לפניכם׃
28 Os byddwch chwi'n halogi'r tir, bydd yn eich chwydu chwithau fel y chwydodd y cenhedloedd oedd o'ch blaen chwi.
29כי כל אשר יעשה מכל התועבות האלה ונכרתו הנפשות העשת מקרב עמם׃
29 Pwy bynnag sy'n gwneud unrhyw un o'r pethau ffiaidd hyn, fe'i torrir ymaith o blith ei bobl.
30ושמרתם את משמרתי לבלתי עשות מחקות התועבת אשר נעשו לפניכם ולא תטמאו בהם אני יהוה אלהיכם׃
30 Cadwch fy ngofynion, a pheidiwch � dilyn yr arferion ffiaidd a wnaed o'ch blaen, na chael eich halogi ganddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.'"