1וידבר יהוה אל משה לאמר׃
1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2דבר אל כל עדת בני ישראל ואמרת אלהם קדשים תהיו כי קדוש אני יהוה אלהיכם׃
2 "Dywed wrth holl gynulleidfa pobl Israel, 'Byddwch sanctaidd, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD eich Duw, yn sanctaidd.
3איש אמו ואביו תיראו ואת שבתתי תשמרו אני יהוה אלהיכם׃
3 Y mae pob un ohonoch i barchu ei fam a'i dad, ac yr ydych i gadw fy Sabothau. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
4אל תפנו אל האלילים ואלהי מסכה לא תעשו לכם אני יהוה אלהיכם׃
4 Peidiwch � throi at eilunod na gwneud ichwi eich hunain ddelwau tawdd. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
5וכי תזבחו זבח שלמים ליהוה לרצנכם תזבחהו׃
5 "'Pan fyddwch yn cyflwyno hedd-offrwm i'r ARGLWYDD, offrymwch ef mewn ffordd a fydd yn dderbyniol.
6ביום זבחכם יאכל וממחרת והנותר עד יום השלישי באש ישרף׃
6 Y mae i'w fwyta ar y diwrnod y byddwch yn ei offrymu, neu drannoeth; y mae unrhyw beth a fydd yn weddill ar y trydydd dydd i'w losgi yn y t�n.
7ואם האכל יאכל ביום השלישי פגול הוא לא ירצה׃
7 Os bwyteir rhywfaint ohono ar y trydydd dydd, y mae'n amhur ac ni fydd yn dderbyniol.
8ואכליו עונו ישא כי את קדש יהוה חלל ונכרתה הנפש ההוא מעמיה׃
8 Y mae'r sawl sy'n ei fwyta yn gyfrifol am ei drosedd; oherwydd iddo halogi'r hyn sy'n sanctaidd i'r ARGLWYDD, fe'i torrir ymaith o blith ei bobl.
9ובקצרכם את קציר ארצכם לא תכלה פאת שדך לקצר ולקט קצירך לא תלקט׃
9 "'Pan fyddi'n medi cynhaeaf dy dir, nid wyt i fedi at ymylon y maes na chasglu lloffion dy gynhaeaf.
10וכרמך לא תעולל ופרט כרמך לא תלקט לעני ולגר תעזב אתם אני יהוה אלהיכם׃
10 Nid wyt i ddinoethi dy winllan yn llwyr na chasglu'r grawnwin a syrthiodd; gad hwy i'r tlawd a'r estron. Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw.
11לא תגנבו ולא תכחשו ולא תשקרו איש בעמיתו׃
11 "'Nid ydych i ladrata, na dweud celwydd, na thwyllo eich gilydd.
12ולא תשבעו בשמי לשקר וחללת את שם אלהיך אני יהוה׃
12 Nid ydych i dyngu'n dwyllodrus yn fy enw, a halogi enw eich Duw. Myfi yw'r ARGLWYDD.
13לא תעשק את רעך ולא תגזל לא תלין פעלת שכיר אתך עד בקר׃
13 "'Nid wyt i wneud cam �'th gymydog na dwyn oddi arno. Nid wyt i ddal yn �l hyd y bore gyflog dy weithiwr.
14לא תקלל חרש ולפני עור לא תתן מכשל ויראת מאלהיך אני יהוה׃
14 Nid wyt i felltithio'r byddar na rhoi rhwystr ar ffordd y dall; ond ofna dy Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD.
15לא תעשו עול במשפט לא תשא פני דל ולא תהדר פני גדול בצדק תשפט עמיתך׃
15 "'Nid wyt i wyro barn, na bod yn bleidiol tuag at y tlawd na dangos ffafriaeth at y mawr, ond yr wyt i farnu dy gymydog yn deg.
16לא תלך רכיל בעמיך לא תעמד על דם רעך אני יהוה׃
16 Nid wyt i fynd o amgylch yn enllibio ymysg dy bobl na pheryglu bywyd dy gymydog. Myfi yw'r ARGLWYDD.
17לא תשנא את אחיך בלבבך הוכח תוכיח את עמיתך ולא תשא עליו חטא׃
17 "'Nid wyt i gas�u dy frawd a'th chwaer yn dy galon, ond yr wyt i geryddu dy gymydog rhag iti fod yn gyfrifol am ei drosedd.
18לא תקם ולא תטר את בני עמך ואהבת לרעך כמוך אני יהוה׃
18 Nid wyt i geisio dial ar un o'th bobl, na dal dig tuag ato, ond yr wyt i garu dy gymydog fel ti dy hun. Myfi yw'r ARGLWYDD.
19את חקתי תשמרו בהמתך לא תרביע כלאים שדך לא תזרע כלאים ובגד כלאים שעטנז לא יעלה עליך׃
19 "'Yr ydych i gadw fy neddfau. Nid wyt i groesi anifeiliaid gwahanol, hau dy faes � hadau gwahanol, na gwisgo dillad o ddeunydd cymysg.
20ואיש כי ישכב את אשה שכבת זרע והוא שפחה נחרפת לאיש והפדה לא נפדתה או חפשה לא נתן לה בקרת תהיה לא יומתו כי לא חפשה׃
20 "'Os bydd dyn yn gorwedd mewn cyfathrach � gwraig, a hithau'n gaethferch wedi ei dywedd�o i u373?r ond heb ei phrynu'n �l na'i rhyddhau, bydd yn rhaid eu cosbi. Ond nid ydynt i'w rhoi i farwolaeth am nad oedd hi'n rhydd;
21והביא את אשמו ליהוה אל פתח אהל מועד איל אשם׃
21 y mae ef i ddod ag offrwm dros ei gamwedd i'r ARGLWYDD at ddrws pabell y cyfarfod, sef hwrdd yr aberth dros gamwedd.
22וכפר עליו הכהן באיל האשם לפני יהוה על חטאתו אשר חטא ונסלח לו מחטאתו אשר חטא׃
22 Oherwydd y pechod a wnaeth, bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto o flaen yr ARGLWYDD � hwrdd yr offrwm dros gamwedd; ac fe faddeuir iddo am y pechod a wnaeth.
23וכי תבאו אל הארץ ונטעתם כל עץ מאכל וערלתם ערלתו את פריו שלש שנים יהיה לכם ערלים לא יאכל׃
23 "'Pan fyddwch yn mynd i mewn i'r wlad ac yn plannu unrhyw goeden ffrwythau, ystyriwch ei ffrwyth yn waharddedig; bydd wedi ei wahardd ichwi am dair blynedd, ac ni chewch ei fwyta.
24ובשנה הרביעת יהיה כל פריו קדש הלולים ליהוה׃
24 Yn y bedwaredd flwyddyn bydd ei holl ffrwyth yn sanctaidd, yn offrwm mawl i'r ARGLWYDD.
25ובשנה החמישת תאכלו את פריו להוסיף לכם תבואתו אני יהוה אלהיכם׃
25 Ond yn y bumed flwyddyn cewch fwyta'i ffrwyth, er mwyn iddi ffrwythloni rhagor. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
26לא תאכלו על הדם לא תנחשו ולא תעוננו׃
26 "'Nid ydych i fwyta dim gyda gwaed ynddo. Nid ydych i arfer dewiniaeth na swyngyfaredd.
27לא תקפו פאת ראשכם ולא תשחית את פאת זקנך׃
27 Nid ydych i dorri'r gwallt ar ochr eich pennau, na thorri ymylon eich barf.
28ושרט לנפש לא תתנו בבשרכם וכתבת קעקע לא תתנו בכם אני יהוה׃
28 Nid ydych i wneud toriadau i'ch cnawd er mwyn y meirw, nac i ysgythru nodau arnoch eich hunain. Myfi yw'r ARGLWYDD.
29אל תחלל את בתך להזנותה ולא תזנה הארץ ומלאה הארץ זמה׃
29 "'Paid � halogi dy ferch trwy beri iddi buteinio, rhag i'r wlad buteinio a chael ei llenwi ag anlladrwydd.
30את שבתתי תשמרו ומקדשי תיראו אני יהוה׃
30 "'Yr ydych i gadw fy Sabothau a pharchu fy nghysegr. Myfi yw'r ARGLWYDD.
31אל תפנו אל האבת ואל הידענים אל תבקשו לטמאה בהם אני יהוה אלהיכם׃
31 "'Peidiwch � throi at ddewiniaid na cheisio swynwyr, oherwydd fe'ch halogir trwyddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
32מפני שיבה תקום והדרת פני זקן ויראת מאלהיך אני יהוה׃
32 "'Yr wyt i godi i'r oedrannus a pharchu'r hen, ac fe ofni dy Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD.
33וכי יגור אתך גר בארצכם לא תונו אתו׃
33 "'Pan fydd estron yn byw gyda thi yn dy wlad, nid wyt i'w gam-drin.
34כאזרח מכם יהיה לכם הגר הגר אתכם ואהבת לו כמוך כי גרים הייתם בארץ מצרים אני יהוה אלהיכם׃
34 Y mae'r estron sy'n byw gyda thi i'w ystyried gennyt fel brodor o'ch plith; yr wyt i'w garu fel ti dy hun, oherwydd estroniaid fuoch chwi yng ngwlad yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
35לא תעשו עול במשפט במדה במשקל ובמשורה׃
35 "'Nid ydych i dwyllo wrth fesur, boed hyd, pwysau neu nifer.
36מאזני צדק אבני צדק איפת צדק והין צדק יהיה לכם אני יהוה אלהיכם אשר הוצאתי אתכם מארץ מצרים׃
36 Yr ydych i ddefnyddio cloriannau cywir, pwysau cywir, effa gywir a hin gywir. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a'ch dygodd allan o wlad yr Aifft.
37ושמרתם את כל חקתי ואת כל משפטי ועשיתם אתם אני יהוה׃
37 "'Yr ydych i gadw fy holl ddeddfau a'm holl gyfreithiau a'u gwneud. Myfi yw'r ARGLWYDD.'"