Hebrew: Modern

Welsh

Leviticus

27

1וידבר יהוה אל משה לאמר׃
1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2דבר אל בני ישראל ואמרת אלהם איש כי יפלא נדר בערכך נפשת ליהוה׃
2 "Llefara wrth bobl Israel a dweud wrthynt, 'Os bydd rhywun yn gwneud adduned arbennig i roi cyfwerth am berson i'r ARGLWYDD,
3והיה ערכך הזכר מבן עשרים שנה ועד בן ששים שנה והיה ערכך חמשים שקל כסף בשקל הקדש׃
3 bydd gwerth gwryw rhwng ugain a thrigain mlwydd oed yn hanner can sicl o arian, yn �l sicl y cysegr.
4ואם נקבה הוא והיה ערכך שלשים שקל׃
4 Os benyw ydyw, bydd ei gwerth yn ddeg sicl ar hugain.
5ואם מבן חמש שנים ועד בן עשרים שנה והיה ערכך הזכר עשרים שקלים ולנקבה עשרת שקלים׃
5 Os rhywun rhwng pump ac ugain mlwydd oed ydyw, bydd gwerth gwryw yn ugain sicl, a benyw yn ddeg sicl.
6ואם מבן חדש ועד בן חמש שנים והיה ערכך הזכר חמשה שקלים כסף ולנקבה ערכך שלשת שקלים כסף׃
6 Os plentyn rhwng mis a phumlwydd oed ydyw, bydd gwerth gwryw yn bum sicl o arian a benyw yn dair sicl o arian.
7ואם מבן ששים שנה ומעלה אם זכר והיה ערכך חמשה עשר שקל ולנקבה עשרה שקלים׃
7 Os rhywun trigain mlwydd oed neu drosodd ydyw, bydd gwerth gwryw yn bymtheg sicl a benyw yn ddeg sicl.
8ואם מך הוא מערכך והעמידו לפני הכהן והעריך אתו הכהן על פי אשר תשיג יד הנדר יעריכנו הכהן׃
8 Os bydd unrhyw un yn rhy dlawd i dalu'r gwerth, y mae i ddod �'r person at yr offeiriad, a bydd yntau'n pennu ei werth yn �l yr hyn y gall y sawl sy'n addunedu ei fforddio; yr offeiriad fydd yn pennu'r gwerth.
9ואם בהמה אשר יקריבו ממנה קרבן ליהוה כל אשר יתן ממנו ליהוה יהיה קדש׃
9 "'Os anifail sy'n dderbyniol fel offrwm i'r ARGLWYDD yw'r adduned, bydd y cyfan o'r anifail yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.
10לא יחליפנו ולא ימיר אתו טוב ברע או רע בטוב ואם המר ימיר בהמה בבהמה והיה הוא ותמורתו יהיה קדש׃
10 Nid yw i'w gyfnewid, na rhoi un da am un gwael nac un gwael am un da; os bydd yn cyfnewid un anifail am un arall, bydd y ddau ohonynt yn sanctaidd.
11ואם כל בהמה טמאה אשר לא יקריבו ממנה קרבן ליהוה והעמיד את הבהמה לפני הכהן׃
11 Os yw'r anifail yn un aflan, a heb fod yn dderbyniol fel offrwm i'r ARGLWYDD, y mae i ddod �'r anifail at yr offeiriad,
12והעריך הכהן אתה בין טוב ובין רע כערכך הכהן כן יהיה׃
12 a bydd yntau yn pennu ei werth, pa un ai da ai drwg ydyw; beth bynnag a benna'r offeiriad, hynny fydd ei werth.
13ואם גאל יגאלנה ויסף חמישתו על ערכך׃
13 Os bydd y perchennog yn dymuno rhyddhau'r anifail, y mae i ychwanegu pumed ran at ei werth.
14ואיש כי יקדש את ביתו קדש ליהוה והעריכו הכהן בין טוב ובין רע כאשר יעריך אתו הכהן כן יקום׃
14 "'Os bydd rhywun yn cysegru ei du375? yn sanctaidd i'r ARGLWYDD, bydd yr offeiriad yn pennu ei werth, pa un ai da ai drwg ydyw; y gwerth a rydd yr offeiriad arno fydd yn sefyll.
15ואם המקדיש יגאל את ביתו ויסף חמישית כסף ערכך עליו והיה לו׃
15 Os bydd rhywun sy'n cysegru ei du375? am ei ryddhau, y mae i ychwanegu pumed ran at ei werth, a bydd y tu375?'n eiddo iddo.
16ואם משדה אחזתו יקדיש איש ליהוה והיה ערכך לפי זרעו זרע חמר שערים בחמשים שקל כסף׃
16 "'Os bydd rhywun am gysegru i'r ARGLWYDD ran o dir ei etifeddiaeth, mesurir ei werth yn �l yr had ar ei gyfer, sef hanner can sicl o arian ar gyfer pob homer o haidd.
17אם משנת היבל יקדיש שדהו כערכך יקום׃
17 Os bydd yn cysegru'r tir yn ystod blwyddyn y jwbili, bydd ei werth yn sefyll.
18ואם אחר היבל יקדיש שדהו וחשב לו הכהן את הכסף על פי השנים הנותרת עד שנת היבל ונגרע מערכך׃
18 Ond os bydd yn ei gysegru ar �l y jwbili, bydd yr offeiriad yn amcangyfrif ei bris yn �l y blynyddoedd sy'n weddill hyd y jwbili nesaf, a bydd ei werth yn gostwng.
19ואם גאל יגאל את השדה המקדיש אתו ויסף חמשית כסף ערכך עליו וקם לו׃
19 Os bydd y sawl sy'n cysegru ei dir yn dymuno ei ryddhau, y mae i ychwanegu pumed ran at ei werth, a bydd yn eiddo iddo.
20ואם לא יגאל את השדה ואם מכר את השדה לאיש אחר לא יגאל עוד׃
20 Os na fydd yn dymuno rhyddhau'r tir, neu os bydd wedi ei werthu i rywun arall, ni ellir byth ei ryddhau.
21והיה השדה בצאתו ביבל קדש ליהוה כשדה החרם לכהן תהיה אחזתו׃
21 Pan ryddheir y tir ar y jwbili, bydd yn sanctaidd i'r ARGLWYDD, fel tir diofryd; bydd yn etifeddiaeth i'r offeiriad.
22ואם את שדה מקנתו אשר לא משדה אחזתו יקדיש ליהוה׃
22 "'Os bydd dyn yn cysegru i'r ARGLWYDD dir a brynodd, a heb fod yn rhan o'i etifeddiaeth,
23וחשב לו הכהן את מכסת הערכך עד שנת היבל ונתן את הערכך ביום ההוא קדש ליהוה׃
23 bydd yr offeiriad yn amcangyfrif ei werth hyd flwyddyn y jwbili, a bydd y sawl sy'n ei gysegru yn rhoi ei werth y diwrnod hwnnw, a bydd yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.
24בשנת היובל ישוב השדה לאשר קנהו מאתו לאשר לו אחזת הארץ׃
24 Ym mlwyddyn y jwbili dychwelir y tir i'r sawl y prynwyd ef ganddo, sef yr un yr oedd y tir yn rhan o'i etifeddiaeth.
25וכל ערכך יהיה בשקל הקדש עשרים גרה יהיה השקל׃
25 Y mae pob gwerth i'w bennu yn �l sicl y cysegr, sy'n pwyso ugain gera.
26אך בכור אשר יבכר ליהוה בבהמה לא יקדיש איש אתו אם שור אם שה ליהוה הוא׃
26 "'Er hynny, nid yw neb i gysegru cyntafanedig anifail sydd eisoes yn gyntafanedig i'r ARGLWYDD; boed fuwch neu ddafad, eiddo'r ARGLWYDD ydyw.
27ואם בבהמה הטמאה ופדה בערכך ויסף חמשתו עליו ואם לא יגאל ונמכר בערכך׃
27 Os un o'r anifeiliaid aflan ydyw, caiff ei brynu am ei werth, ac ychwanegu pumed ran ato; os na ryddheir ef, y mae i'w werthu am ei werth.
28אך כל חרם אשר יחרם איש ליהוה מכל אשר לו מאדם ובהמה ומשדה אחזתו לא ימכר ולא יגאל כל חרם קדש קדשים הוא ליהוה׃
28 Er hynny, ni ellir gwerthu na rhyddhau unrhyw eiddo, boed ddyn, anifail, neu dir sy'n etifeddiaeth, os yw wedi ei gyflwyno'n ddiofryd i'r ARGLWYDD; y mae unrhyw ddiofryd yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.
29כל חרם אשר יחרם מן האדם לא יפדה מות יומת׃
29 Ni ellir rhyddhau neb sydd wedi ei gyflwyno'n ddiofryd i'r ARGLWYDD, ond rhaid iddo farw.
30וכל מעשר הארץ מזרע הארץ מפרי העץ ליהוה הוא קדש ליהוה׃
30 "'Y mae degwm unrhyw gynnyrch o'r tir, boed yn rawn o'r tir neu'n ffrwyth o'r coed, yn eiddo i'r ARGLWYDD.
31ואם גאל יגאל איש ממעשרו חמשיתו יסף עליו׃
31 Os bydd rhywun yn rhyddhau rhywfaint o'r degwm, y mae i ychwanegu pumed ran ato.
32וכל מעשר בקר וצאן כל אשר יעבר תחת השבט העשירי יהיה קדש ליהוה׃
32 Y mae holl ddegwm gyr neu ddiadell, sef y degfed anifail sy'n croesi o dan y ffon, yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.
33לא יבקר בין טוב לרע ולא ימירנו ואם המר ימירנו והיה הוא ותמורתו יהיה קדש לא יגאל׃
33 Ni ddylid dewis rhwng da a drwg, na chyfnewid; ond os newidir un yn lle'r llall, bydd y ddau ohonynt yn sanctaidd, ac ni ellir eu rhyddhau.'"
34אלה המצות אשר צוה יהוה את משה אל בני ישראל בהר סיני׃
34 Dyma'r gorchmynion a roddodd yr ARGLWYDD i Moses ar gyfer pobl Israel ar Fynydd Sinai.