Hebrew: Modern

Welsh

Numbers

10

1וידבר יהוה אל משה לאמר׃
1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2עשה לך שתי חצוצרת כסף מקשה תעשה אתם והיו לך למקרא העדה ולמסע את המחנות׃
2 "Gwna ddau drwmped o arian gyr, a defnyddia hwy i alw'r cynulliad ynghyd, er mwyn i'r gwersyll gychwyn ar ei daith.
3ותקעו בהן ונועדו אליך כל העדה אל פתח אהל מועד׃
3 Os cenir y ddau drwmped, bydd yr holl gynulliad yn ymgasglu atat wrth ddrws pabell y cyfarfod;
4ואם באחת יתקעו ונועדו אליך הנשיאים ראשי אלפי ישראל׃
4 ond os un ohonynt a genir, yna yr arweinwyr yn unig, sef penaethiaid llwythau Israel, fydd yn ymgasglu atat.
5ותקעתם תרועה ונסעו המחנות החנים קדמה׃
5 Pan roddir bloedd, bydd y gwersylloedd ar ochr y dwyrain yn cychwyn ar eu taith,
6ותקעתם תרועה שנית ונסעו המחנות החנים תימנה תרועה יתקעו למסעיהם׃
6 a phan roddir yr ail floedd, bydd y gwersylloedd ar ochr y de yn cychwyn.
7ובהקהיל את הקהל תתקעו ולא תריעו׃
7 Fe roddir bloedd pryd bynnag y byddant yn cychwyn ar eu taith.
8ובני אהרן הכהנים יתקעו בחצצרות והיו לכם לחקת עולם לדרתיכם׃
8 Pan yw'r cynulliad i ymgasglu ynghyd, fe genir y trwmped, ond ni roddir bloedd. Meibion Aaron, yr offeiriaid, sydd i ganu'r trwmpedau, a bydd hyn yn ddeddf i'w chadw gennych am byth, dros y cenedlaethau.
9וכי תבאו מלחמה בארצכם על הצר הצרר אתכם והרעתם בחצצרות ונזכרתם לפני יהוה אלהיכם ונושעתם מאיביכם׃
9 Pan fyddwch yn mynd i ryfel yn eich gwlad yn erbyn y rhai sy'n eich gorthrymu, rhowch floedd a chanu'r trwmpedau, er mwyn i'r ARGLWYDD eich Duw gofio amdanoch, a'ch achub rhag eich gelynion.
10וביום שמחתכם ובמועדיכם ובראשי חדשיכם ותקעתם בחצצרת על עלתיכם ועל זבחי שלמיכם והיו לכם לזכרון לפני אלהיכם אני יהוה אלהיכם׃
10 Hefyd, ar ddydd o lawenydd, ar eich gwyliau penodedig, ac ar ddechrau pob mis, canwch y trwmpedau uwchben eich poethoffrymau a'ch heddoffrymau; byddant yn eich dwyn i gof gerbron eich Duw. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw."
11ויהי בשנה השנית בחדש השני בעשרים בחדש נעלה הענן מעל משכן העדת׃
11 Ar yr ugeinfed dydd o'r ail fis o'r ail flwyddyn, cododd y cwmwl oddi ar dabernacl y dystiolaeth,
12ויסעו בני ישראל למסעיהם ממדבר סיני וישכן הענן במדבר פארן׃
12 a chychwynnodd pobl Israel yn gwmn�au ar eu taith o anialwch Sinai; yna arhosodd y cwmwl yn anialwch Paran.
13ויסעו בראשנה על פי יהוה ביד משה׃
13 Felly cychwynasant allan am y tro cyntaf ar orchymyn yr ARGLWYDD trwy Moses.
14ויסע דגל מחנה בני יהודה בראשנה לצבאתם ועל צבאו נחשון בן עמינדב׃
14 Minteioedd gwersyll Jwda oedd y rhai cyntaf i gychwyn dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Nahson fab Amminadab.
15ועל צבא מטה בני יששכר נתנאל בן צוער׃
15 Dros lu llwyth pobl Issachar yr oedd Nethanel fab Suar,
16ועל צבא מטה בני זבולן אליאב בן חלון׃
16 a thros lu llwyth pobl Sabulon yr oedd Eliab fab Helon.
17והורד המשכן ונסעו בני גרשון ובני מררי נשאי המשכן׃
17 Wedi tynnu'r tabernacl i lawr, fe gychwynnodd meibion Gerson a meibion Merari, gan mai hwy oedd yn cario'r tabernacl.
18ונסע דגל מחנה ראובן לצבאתם ועל צבאו אליצור בן שדיאור׃
18 Yna cychwynnodd minteioedd gwersyll Reuben dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Elisur fab Sedeur.
19ועל צבא מטה בני שמעון שלמיאל בן צורי שדי׃
19 Dros lu llwyth pobl Simeon yr oedd Selumiel fab Surisadai,
20ועל צבא מטה בני גד אליסף בן דעואל׃
20 a thros lu llwyth pobl Gad yr oedd Eliasaff fab Reuel.
21ונסעו הקהתים נשאי המקדש והקימו את המשכן עד באם׃
21 Yna cychwynnodd y Cohathiaid, gan gludo'r pethau cysegredig, a chodwyd y tabernacl cyn iddynt hwy gyrraedd.
22ונסע דגל מחנה בני אפרים לצבאתם ועל צבאו אלישמע בן עמיהוד׃
22 Yna cychwynnodd minteioedd gwersyll pobl Effraim dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Elisama fab Ammihud.
23ועל צבא מטה בני מנשה גמליאל בן פדהצור׃
23 Dros lu llwyth pobl Manasse yr oedd Gamaliel fab Pedasur,
24ועל צבא מטה בני בנימן אבידן בן גדעוני׃
24 a thros lu llwyth pobl Benjamin yr oedd Abidan fab Gideoni.
25ונסע דגל מחנה בני דן מאסף לכל המחנת לצבאתם ועל צבאו אחיעזר בן עמישדי׃
25 Yna cychwynnodd minteioedd gwersyll pobl Dan, y gwersyll olaf un, dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Ahieser fab Ammisadai.
26ועל צבא מטה בני אשר פגעיאל בן עכרן׃
26 Dros lu llwyth pobl Aser yr oedd Pagiel fab Ocran,
27ועל צבא מטה בני נפתלי אחירע בן עינן׃
27 a thros lu llwyth pobl Nafftali yr oedd Ahira fab Enan.
28אלה מסעי בני ישראל לצבאתם ויסעו׃
28 Dyma drefn pobl Israel wrth iddynt gychwyn allan yn �l eu lluoedd.
29ויאמר משה לחבב בן רעואל המדיני חתן משה נסעים אנחנו אל המקום אשר אמר יהוה אתו אתן לכם לכה אתנו והטבנו לך כי יהוה דבר טוב על ישראל׃
29 Dywedodd Moses wrth Hobab fab Reuel y Midianiad, tad-yng-nghyfraith Moses, "Yr ydym yn mynd i'r lle yr addawodd yr ARGLWYDD ei roi inni; tyrd gyda ni, a byddwn yn garedig wrthyt, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi addo pethau da i Israel."
30ויאמר אליו לא אלך כי אם אל ארצי ואל מולדתי אלך׃
30 Ond atebodd ef, "Nid wyf am ddod; af yn hytrach i'm gwlad fy hun ac at fy mhobl fy hun."
31ויאמר אל נא תעזב אתנו כי על כן ידעת חנתנו במדבר והיית לנו לעינים׃
31 Dywedodd Moses, "Paid �'n gadael, oherwydd fe wyddost ti lle cawn wersyllu yn yr anialwch, a gelli ein harwain.
32והיה כי תלך עמנו והיה הטוב ההוא אשר ייטיב יהוה עמנו והטבנו לך׃
32 Os doi gyda ni, fe gei ran yn y pethau da a wna'r ARGLWYDD drosom, a byddwn yn garedig wrthyt."
33ויסעו מהר יהוה דרך שלשת ימים וארון ברית יהוה נסע לפניהם דרך שלשת ימים לתור להם מנוחה׃
33 Felly cychwynasant o fynydd yr ARGLWYDD ar daith dridiau, ac yr oedd arch cyfamod yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaen ar hyd y daith i geisio lle iddynt orffwys.
34וענן יהוה עליהם יומם בנסעם מן המחנה׃
34 Yr oedd cwmwl yr ARGLWYDD uwchben yn ystod y dydd wrth iddynt gychwyn o'r gwersyll.
35ויהי בנסע הארן ויאמר משה קומה יהוה ויפצו איביך וינסו משנאיך מפניך׃
35 Pan gychwynnai'r arch allan, byddai Moses yn dweud, "Cod, ARGLWYDD, gwasgar d'elynion, a boed i'r rhai sy'n dy gas�u ffoi o'th flaen."
36ובנחה יאמר שובה יהוה רבבות אלפי ישראל׃
36 A phan dd�i'r arch i orffwys, byddai'n dweud, "Dychwel, ARGLWYDD, at fyrddiynau Israel."