Hebrew: Modern

Welsh

Numbers

9

1וידבר יהוה אל משה במדבר סיני בשנה השנית לצאתם מארץ מצרים בחדש הראשון לאמר׃
1 Yn y mis cyntaf o'r ail flwyddyn wedi iddynt ddod allan o wlad yr Aifft, llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses yn anialwch Sinai, a dweud,
2ויעשו בני ישראל את הפסח במועדו׃
2 "Bydded i bobl Israel gadw'r Pasg ar yr adeg benodedig.
3בארבעה עשר יום בחדש הזה בין הערבים תעשו אתו במועדו ככל חקתיו וככל משפטיו תעשו אתו׃
3 Cadwch ef yn y cyfnos ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis hwn; cadwch y Pasg ar yr adeg benodedig gyda'r holl ddeddfau a'r defodau sy'n gysylltiedig ag ef."
4וידבר משה אל בני ישראל לעשת הפסח׃
4 Felly dywedodd Moses wrth bobl Israel am gadw'r Pasg,
5ויעשו את הפסח בראשון בארבעה עשר יום לחדש בין הערבים במדבר סיני ככל אשר צוה יהוה את משה כן עשו בני ישראל׃
5 a gwnaethant hynny yn anialwch Sinai yn y cyfnos ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf. Gwnaeth pobl Israel yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
6ויהי אנשים אשר היו טמאים לנפש אדם ולא יכלו לעשת הפסח ביום ההוא ויקרבו לפני משה ולפני אהרן ביום ההוא׃
6 Ond ni allai rhai gadw'r Pasg ar y diwrnod penodedig, am eu bod wedi eu halogi eu hunain trwy gyffwrdd � chorff marw; felly daethant at Moses ac Aaron y dydd hwnnw,
7ויאמרו האנשים ההמה אליו אנחנו טמאים לנפש אדם למה נגרע לבלתי הקרב את קרבן יהוה במעדו בתוך בני ישראל׃
7 a dweud, "Yr ydym wedi ein halogi ein hunain trwy gyffwrdd � chorff marw; pam y gwaherddir ni rhag ymuno � phobl Israel i offrymu i'r ARGLWYDD ar yr adeg benodedig?"
8ויאמר אלהם משה עמדו ואשמעה מה יצוה יהוה לכם׃
8 Atebodd Moses hwy, "Arhoswch nes imi glywed beth y mae'r ARGLWYDD yn ei orchymyn amdanoch."
9וידבר יהוה אל משה לאמר׃
9 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
10דבר אל בני ישראל לאמר איש איש כי יהיה טמא לנפש או בדרך רחקה לכם או לדרתיכם ועשה פסח ליהוה׃
10 "Dywed wrth bobl Israel, 'Os bydd unrhyw un ohonoch chwi neu o'ch disgynyddion yn ei halogi ei hun trwy gyffwrdd � chorff marw, neu os bydd ar daith bell, y mae er hynny i gadw'r Pasg i'r ARGLWYDD.
11בחדש השני בארבעה עשר יום בין הערבים יעשו אתו על מצות ומררים יאכלהו׃
11 Cadwant ef yn y cyfnos ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r ail fis, ac y maent i fwyta'r Pasg gyda bara croyw a llysiau chwerw.
12לא ישאירו ממנו עד בקר ועצם לא ישברו בו ככל חקת הפסח יעשו אתו׃
12 Nid ydynt i adael dim ohono'n weddill hyd y bore, na thorri asgwrn ohono; y maent i gadw'r holl ddeddf ynglu375?n �'r Pasg.
13והאיש אשר הוא טהור ובדרך לא היה וחדל לעשות הפסח ונכרתה הנפש ההוא מעמיה כי קרבן יהוה לא הקריב במעדו חטאו ישא האיש ההוא׃
13 Ond os bydd rhywun yn l�n, a heb fod ar daith, ac eto'n gwrthod cadw'r Pasg, bydd yn cael ei dorri ymaith o blith ei bobl, am nad offrymodd i'r ARGLWYDD ar yr adeg benodedig, a bydd yn dioddef am ei bechod.
14וכי יגור אתכם גר ועשה פסח ליהוה כחקת הפסח וכמשפטו כן יעשה חקה אחת יהיה לכם ולגר ולאזרח הארץ׃
14 Os bydd dieithryn yn aros yn eich plith, ac yn dymuno cadw Pasg i'r ARGLWYDD, caiff wneud hynny yn �l y ddeddf a'r ddefod sy'n gysylltiedig ag ef; yr un ddeddf fydd i'r dieithryn ac i'r brodor.'"
15וביום הקים את המשכן כסה הענן את המשכן לאהל העדת ובערב יהיה על המשכן כמראה אש עד בקר׃
15 Ar y dydd y codwyd y tabernacl daeth cwmwl a gorchuddio tabernacl pabell y cyfarfod; ymddangosai fel t�n drosto, o'r hwyr hyd y bore.
16כן יהיה תמיד הענן יכסנו ומראה אש לילה׃
16 Ac felly y parhaodd; yr oedd cwmwl yn ei orchuddio, ac yn y nos ymddangosai fel t�n drosto.
17ולפי העלת הענן מעל האהל ואחרי כן יסעו בני ישראל ובמקום אשר ישכן שם הענן שם יחנו בני ישראל׃
17 Pan godai'r cwmwl oddi ar y babell, byddai pobl Israel yn cychwyn ar eu taith, a lle bynnag yr arhosai'r cwmwl, byddent yn gwersyllu.
18על פי יהוה יסעו בני ישראל ועל פי יהוה יחנו כל ימי אשר ישכן הענן על המשכן יחנו׃
18 Ar orchymyn yr ARGLWYDD byddai pobl Israel yn cychwyn ar eu taith, ac ar ei orchymyn ef byddent yn gwersyllu; pryd bynnag y byddai'r cwmwl yn aros dros y tabernacl, byddent yn aros yn y gwersyll.
19ובהאריך הענן על המשכן ימים רבים ושמרו בני ישראל את משמרת יהוה ולא יסעו׃
19 Hyd yn oed pan fyddai'r cwmwl yn aros dros y tabernacl am lawer o ddyddiau, byddai pobl Israel yn cadw dymuniad yr ARGLWYDD, ac ni fyddent yn cychwyn ar eu taith.
20ויש אשר יהיה הענן ימים מספר על המשכן על פי יהוה יחנו ועל פי יהוה יסעו׃
20 Weithiau byddai'r cwmwl yn aros dros y tabernacl am ychydig ddyddiau, a byddent hwythau'n aros yn y gwersyll yn �l gorchymyn yr ARGLWYDD, ac ar ei orchymyn ef byddent yn cychwyn ar eu taith.
21ויש אשר יהיה הענן מערב עד בקר ונעלה הענן בבקר ונסעו או יומם ולילה ונעלה הענן ונסעו׃
21 Dro arall, byddai'r cwmwl yno o'r hwyr hyd y bore yn unig, ac yna pan godai, byddent yn cychwyn allan, ac os byddai yno trwy'r dydd a'r nos, ac yna'n codi, byddent yn cychwyn allan.
22או ימים או חדש או ימים בהאריך הענן על המשכן לשכן עליו יחנו בני ישראל ולא יסעו ובהעלתו יסעו׃
22 Os byddai'r cwmwl yn aros dros y tabernacl am ddeuddydd, neu fis neu flwyddyn, byddai pobl Israel yn aros yn eu pebyll heb gychwyn ar eu taith; ond pan godai'r cwmwl, byddent yn cychwyn.
23על פי יהוה יחנו ועל פי יהוה יסעו את משמרת יהוה שמרו על פי יהוה ביד משה׃
23 Ar orchymyn yr ARGLWYDD byddent yn gwersyllu, ac ar ei orchymyn ef byddent yn cychwyn ar eu taith; yr oeddent yn cadw dymuniad yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.