1ויאמר בלעם אל בלק בנה לי בזה שבעה מזבחת והכן לי בזה שבעה פרים ושבעה אילים׃
1 Dywedodd Balaam wrth Balac, "Adeilada imi yma saith allor, a darpara imi saith bustach a saith hwrdd."
2ויעש בלק כאשר דבר בלעם ויעל בלק ובלעם פר ואיל במזבח׃
2 Gwnaeth Balac fel yr oedd Balaam wedi gorchymyn, ac offrymodd Balac a Balaam fustach a hwrdd ar bob allor.
3ויאמר בלעם לבלק התיצב על עלתך ואלכה אולי יקרה יהוה לקראתי ודבר מה יראני והגדתי לך וילך שפי׃
3 Yna dywedodd Balaam wrth Balac, "Aros di wrth dy boethoffrwm, ac af finnau draw oddi yma; hwyrach y daw'r ARGLWYDD i gyfarfod � mi, ac fe ddywedaf wrthyt beth bynnag a ddatguddia imi." Felly aeth ymaith i fryn uchel.
4ויקר אלהים אל בלעם ויאמר אליו את שבעת המזבחת ערכתי ואעל פר ואיל במזבח׃
4 Daeth Duw i gyfarfod � Balaam, a dywedodd Balaam wrtho, "Yr wyf wedi paratoi'r saith allor ac offrymu bustach a hwrdd ar bob un."
5וישם יהוה דבר בפי בלעם ויאמר שוב אל בלק וכה תדבר׃
5 Rhoddodd yr ARGLWYDD air yng ngenau Balaam, a dweud, "Dos yn �l at Balac, a llefara hyn wrtho."
6וישב אליו והנה נצב על עלתו הוא וכל שרי מואב׃
6 Pan ddychwelodd yntau, gwelodd Balac yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a holl dywysogion Moab gydag ef.
7וישא משלו ויאמר מן ארם ינחני בלק מלך מואב מהררי קדם לכה ארה לי יעקב ולכה זעמה ישראל׃
7 Yna llefarodd Balaam ei oracl a dweud, "Daeth Balac � mi o Syria, brenin Moab o fynyddoedd y dwyrain. 'Tyrd,' meddai, 'rho felltith ar Jacob imi; tyrd, cyhoedda wae ar Israel.'
8מה אקב לא קבה אל ומה אזעם לא זעם יהוה׃
8 Sut y gallaf felltithio neb heb i Dduw ei felltithio, neu gyhoeddi gwae ar neb heb i'r ARGLWYDD ei gyhoeddi?
9כי מראש צרים אראנו ומגבעות אשורנו הן עם לבדד ישכן ובגוים לא יתחשב׃
9 Fe'u gwelaf o ben y creigiau, ac edrychaf arnynt o'r bryniau � pobl yn byw mewn unigedd, heb ystyried eu bod ymysg y cenhedloedd.
10מי מנה עפר יעקב ומספר את רבע ישראל תמת נפשי מות ישרים ותהי אחריתי כמהו׃
10 Pwy a all gyfrif Jacob mwy na llwch neu rifo chwarter Israel? Boed i minnau farw fel y bydd marw'r cyfiawn, a boed fy niwedd i fel eu diwedd hwy."
11ויאמר בלק אל בלעם מה עשית לי לקב איבי לקחתיך והנה ברכת ברך׃
11 Dywedodd Balac wrth Balaam, "Beth a wnaethost imi? Gelwais amdanat i felltithio fy ngelynion, ond y cyfan a wnaethost oedd eu bendithio."
12ויען ויאמר הלא את אשר ישים יהוה בפי אתו אשמר לדבר׃
12 Atebodd yntau, "Onid oes raid imi lefaru'r hyn y mae'r ARGLWYDD yn ei osod yn fy ngenau?"
13ויאמר אליו בלק לך נא אתי אל מקום אחר אשר תראנו משם אפס קצהו תראה וכלו לא תראה וקבנו לי משם׃
13 Dywedodd Balac wrtho, "Tyrd gyda mi i le arall er mwyn iti eu gweld oddi yno; ni weli di mo'r cyfan, dim ond un cwr ohonynt, ond oddi yno gelli eu melltithio imi."
14ויקחהו שדה צפים אל ראש הפסגה ויבן שבעה מזבחת ויעל פר ואיל במזבח׃
14 Felly cymerodd ef i faes Soffim ar ben Pisga, ac adeiladodd saith allor ac offrymodd fustach a hwrdd ar bob un.
15ויאמר אל בלק התיצב כה על עלתך ואנכי אקרה כה׃
15 Yna dywedodd Balaam wrth Balac, "Aros di yma wrth dy boethoffrwm, ac af finnau draw i gyfarfod �'r ARGLWYDD."
16ויקר יהוה אל בלעם וישם דבר בפיו ויאמר שוב אל בלק וכה תדבר׃
16 Daeth yr ARGLWYDD i gyfarfod � Balaam, a rhoi gair yn ei enau, a dweud, "Dos yn �l at Balac, a llefara hyn wrtho."
17ויבא אליו והנו נצב על עלתו ושרי מואב אתו ויאמר לו בלק מה דבר יהוה׃
17 Pan ddaeth ef ato, gwelodd Balac yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a thywysogion Moab gydag ef. Gofynnodd Balac iddo, "Beth a ddywedodd yr ARGLWYDD?"
18וישא משלו ויאמר קום בלק ושמע האזינה עדי בנו צפר׃
18 Yna llefarodd Balaam ei oracl a dweud: "Cod, Balac, a chlyw: gwrando arnaf, fab Sippor;
19לא איש אל ויכזב ובן אדם ויתנחם ההוא אמר ולא יעשה ודבר ולא יקימנה׃
19 nid yw Duw fel meidrolyn yn dweud celwydd, neu fod meidrol yn edifarhau. Oni wna yr hyn a addawodd, a chyflawni'r hyn a ddywedodd?
20הנה ברך לקחתי וברך ולא אשיבנה׃
20 Derbyniais orchymyn i fendithio, a phan fo ef yn bendithio, ni allaf ei atal.
21לא הביט און ביעקב ולא ראה עמל בישראל יהוה אלהיו עמו ותרועת מלך בו׃
21 Ni welodd ddrygioni yn Jacob, ac ni chanfu drosedd yn Israel. Y mae'r ARGLWYDD eu Duw gyda hwy, a bloedd y brenin yn eu plith.
22אל מוציאם ממצרים כתועפת ראם לו׃
22 Daeth Duw � hwy allan o'r Aifft, ac yr oedd eu nerth fel nerth ych gwyllt.
23כי לא נחש ביעקב ולא קסם בישראל כעת יאמר ליעקב ולישראל מה פעל אל׃
23 Nid oes swyn yn erbyn Jacob, na dewiniaeth yn erbyn Israel; yn awr fe ddywedir am Jacob ac Israel, 'Gwaith Duw yw hyn!'
24הן עם כלביא יקום וכארי יתנשא לא ישכב עד יאכל טרף ודם חללים ישתה׃
24 Dyma bobl sy'n codi fel llewes, ac yn ymsythu fel llew; nid yw'n gorwedd nes bwyta'r ysglyfaeth ac yfed o waed yr hyn a larpiodd."
25ויאמר בלק אל בלעם גם קב לא תקבנו גם ברך לא תברכנו׃
25 Dywedodd Balac wrth Balaam, "Paid �'u melltithio na'u bendithio mwyach."
26ויען בלעם ויאמר אל בלק הלא דברתי אליך לאמר כל אשר ידבר יהוה אתו אעשה׃
26 Ond atebodd Balaam ef, "Oni ddywedais wrthyt fod yn rhaid imi wneud y cyfan a ddywed yr ARGLWYDD?"
27ויאמר בלק אל בלעם לכה נא אקחך אל מקום אחר אולי יישר בעיני האלהים וקבתו לי משם׃
27 Dywedodd Balac wrth Balaam, "Tyrd, fe af � thi i le arall; efallai y bydd Duw yn fodlon iti eu melltithio imi oddi yno."
28ויקח בלק את בלעם ראש הפעור הנשקף על פני הישימן׃
28 Felly cymerodd Balac ef i ben Peor, sy'n edrych i lawr dros y diffeithwch,
29ויאמר בלעם אל בלק בנה לי בזה שבעה מזבחת והכן לי בזה שבעה פרים ושבעה אילים׃
29 a dywedodd Balaam wrtho, "Adeilada imi yma saith allor, a darpara imi saith bustach a saith hwrdd."
30ויעש בלק כאשר אמר בלעם ויעל פר ואיל במזבח׃
30 Gwnaeth Balac fel yr oedd Balaam wedi gorchymyn iddo, ac offrymodd fustach a hwrdd ar bob allor.