Hebrew: Modern

Welsh

Numbers

24

1וירא בלעם כי טוב בעיני יהוה לברך את ישראל ולא הלך כפעם בפעם לקראת נחשים וישת אל המדבר פניו׃
1 Pan welodd Balaam fod yr ARGLWYDD yn dymuno bendithio Israel, nid aeth i arfer dewiniaeth, fel cynt; yn hytrach, trodd ei wyneb tua'r diffeithwch.
2וישא בלעם את עיניו וירא את ישראל שכן לשבטיו ותהי עליו רוח אלהים׃
2 Cododd ei olwg a gweld yr Israeliaid yn gwersyllu yn �l eu llwythau. Yna daeth ysbryd Duw arno,
3וישא משלו ויאמר נאם בלעם בנו בער ונאם הגבר שתם העין׃
3 a llefarodd ei oracl a dweud: "Gair Balaam fab Beor, gair y gu373?r yr agorir ei lygaid
4נאם שמע אמרי אל אשר מחזה שדי יחזה נפל וגלוי עינים׃
4 ac sy'n clywed geiriau Duw, yn cael gweledigaeth gan yr Hollalluog, ac yn syrthio i lawr, a'i lygaid wedi eu hagor:
5מה טבו אהליך יעקב משכנתיך ישראל׃
5 Mor brydferth yw dy bebyll, O Jacob, a'th wersylloedd, O Israel!
6כנחלים נטיו כגנת עלי נהר כאהלים נטע יהוה כארזים עלי מים׃
6 Y maent yn ymestyn fel palmwydd, fel gerddi ar lan afon, fel aloewydd a blannodd yr ARGLWYDD, fel cedrwydd wrth ymyl dyfroedd.
7יזל מים מדליו וזרעו במים רבים וירם מאגג מלכו ותנשא מלכתו׃
7 Tywelltir du373?r o'i ystenau, a bydd digon o ddu373?r i'w had. Bydd ei frenin yn uwch nag Agag, a dyrchefir ei frenhiniaeth.
8אל מוציאו ממצרים כתועפת ראם לו יאכל גוים צריו ועצמתיהם יגרם וחציו ימחץ׃
8 Daeth Duw ag ef allan o'r Aifft, ac yr oedd ei nerth fel nerth ych gwyllt; bydd yn traflyncu'r cenhedloedd sy'n elynion iddo, gan ddryllio eu hesgyrn yn ddarnau, a'u gwanu �'i saethau.
9כרע שכב כארי וכלביא מי יקימנו מברכיך ברוך וארריך ארור׃
9 Pan gryma, fe orwedd fel llew, neu lewes; pwy a'i deffry? Bydded bendith ar bawb a'th fendithia, a melltith ar bawb a'th felltithia."
10ויחר אף בלק אל בלעם ויספק את כפיו ויאמר בלק אל בלעם לקב איבי קראתיך והנה ברכת ברך זה שלש פעמים׃
10 Yna digiodd Balac wrth Balaam; curodd ei ddwylo, a dywedodd wrtho, "Gelwais amdanat i felltithio fy ngelynion, ond yr wyt ti wedi eu bendithio'r teirgwaith hyn.
11ועתה ברח לך אל מקומך אמרתי כבד אכבדך והנה מנעך יהוה מכבוד׃
11 Felly ffo yn awr i'th le dy hun; addewais dy anrhydeddu, ond fe gadwodd yr ARGLWYDD yr anrhydedd oddi wrthyt."
12ויאמר בלעם אל בלק הלא גם אל מלאכיך אשר שלחת אלי דברתי לאמר׃
12 Dywedodd Balaam wrth Balac, "Oni ddywedais wrth y negeswyr a anfonaist ataf,
13אם יתן לי בלק מלא ביתו כסף וזהב לא אוכל לעבר את פי יהוה לעשות טובה או רעה מלבי אשר ידבר יהוה אתו אדבר׃
13 'Pe rhoddai Balac imi lond ei du375? o arian ac aur, ni allwn fynd yn groes i air yr ARGLWYDD a gwneud na da na drwg o'm hewyllys fy hun; rhaid imi lefaru'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD'?
14ועתה הנני הולך לעמי לכה איעצך אשר יעשה העם הזה לעמך באחרית הימים׃
14 Yn awr, fe af at fy mhobl fy hun; tyrd, ac fe ddywedaf wrthyt beth a wna'r bobl hyn i'th bobl di yn y dyfodol."
15וישא משלו ויאמר נאם בלעם בנו בער ונאם הגבר שתם העין׃
15 Yna llefarodd ei oracl a dweud: "Gair Balaam fab Beor, gair y gu373?r yr agorir ei lygaid
16נאם שמע אמרי אל וידע דעת עליון מחזה שדי יחזה נפל וגלוי עינים׃
16 ac sy'n clywed geiriau Duw, yn gwybod meddwl y Goruchaf, yn cael gweledigaeth gan yr Hollalluog, ac yn syrthio i lawr, a'i lygaid wedi eu hagor:
17אראנו ולא עתה אשורנו ולא קרוב דרך כוכב מיעקב וקם שבט מישראל ומחץ פאתי מואב וקרקר כל בני שת׃
17 Fe'i gwelaf ef, ond nid yn awr; edrychaf arno, ond nid yw'n agos. Daw seren allan o Jacob, a chyfyd teyrnwialen o Israel; fe ddryllia dalcen Moab, a difa holl feibion Seth.
18והיה אדום ירשה והיה ירשה שעיר איביו וישראל עשה חיל׃
18 Bydd Edom yn cael ei meddiannu, bydd Seir yn feddiant i'w gelynion, ond bydd Israel yn gweithredu'n rymus.
19וירד מיעקב והאביד שריד מעיר׃
19 Daw llywodraethwr allan o Jacob a dinistrio'r rhai a adawyd yn y dinasoedd."
20וירא את עמלק וישא משלו ויאמר ראשית גוים עמלק ואחריתו עדי אבד׃
20 Yna edrychodd ar Amalec, a llefarodd ei oracl a dweud: "Amalec oedd y blaenaf ymhlith y cenhedloedd, ond caiff yntau, yn y diwedd, ei ddinistrio."
21וירא את הקיני וישא משלו ויאמר איתן מושבך ושים בסלע קנך׃
21 Yna edrychodd ar y Cenead, a llefarodd ei oracl a dweud: "Y mae dy drigfan yn gadarn, a'th nyth yn ddiogel mewn craig;
22כי אם יהיה לבער קין עד מה אשור תשבך׃
22 eto bydd Cain yn cael ei anrheithio. Am ba hyd y bydd Assur yn dy gaethiwo?"
23וישא משלו ויאמר אוי מי יחיה משמו אל׃
23 Llefarodd ei oracl a dweud: "Och! Pwy fydd byw pan wna Duw hyn?
24וצים מיד כתים וענו אשור וענו עבר וגם הוא עדי אבד׃
24 Daw llongau o gyffiniau Chittim, gan orthrymu Assur ac Eber; c�nt hwythau hefyd eu dinistrio."
25ויקם בלעם וילך וישב למקמו וגם בלק הלך לדרכו׃
25 Yna cododd Balaam a dychwelodd adref, ac aeth Balac hefyd ymaith.